Welcoming our #B2022 Chief Medical Officer

Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad ein Prif Swyddog Meddygol ar gyfer #B2022, Dr Katy Guy. Mae gan Katy ddigonedd o brofiad yn y proffesiwn meddygol ac rydym yn hynod falch o'i chael hi’n rhan o’r tîm ar gyfer y Gemau nesaf.

Mae gan y Prif Swyddog Meddygol rôl hanfodol i'w chwarae a bydd ei hangen cyn, yn ystod, ac ar ôl y Gemau. Bydd Dr Katy yn cydweithio â’n Rheolwr Tîm Perfformiad i gynllunio a rheoli Gwasanaethau Meddygol ar gyfer y tîm yn Birmingham. Fel Meddyg y Tîm, bydd rôl Katy yn sicrhau bod yr holl wasanaethau meddygol ar gael i Dîm Cymru drwy gydol y Gemau.

Mae swydd y Prif Swyddog Meddygol yn bwysig iawn i'r Gemau, ac mae’n dod gyda nifer o gyfrifoldebau, megis:

Gweithio'n agos gyda Rheolwr y Tîm Perfformiad i arwain y broses o ddethol Meddygon Tîm, Ffisiotherapyddion HQ, yn ogystal â phersonél meddygol amrywiol.
Gweithredu fel mentor ar gyfer staff meddygol cyn, yn ystod, ac ar ôl y Gemau.
Bod yn gyfarwydd â gofynion atal camddefnyddio cyffuriau, ac i fabwysiadu a hyrwyddo'r safiad cryfaf posibl yn erbyn y camddefnydd o gyffuriau mewn chwaraeon.
Derbyn cyfrifoldeb dros bob penderfyniad meddygol.
Arwain, rheoli, a chefnogi staff meddygol i feithrin a chynnal amgylchedd tîm cadarnhaol, ac i sicrhau bod llesiant staff yn dda drwy gydol y Gemau.

Graddiodd Dr Katy gyda diploma mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2015, a thrwy gydol ei gyrfa y mae wedi bod yn hynod benderfynol o gael cymaint o brofiad ag sy’n bosibl o fewn y maes. Ar hyn o bryd mae Katy’n feddyg ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys â diddordeb arbennig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac mae hi’n gweithio ar draws ystod o chwaraeon gwahanol gan gynnwys rygbi, rasio ceffylau, rhedeg ffyrdd, mae ganddi swydd gyda Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd hefyd.

Mae Katy wedi bod yn ffodus o weithio gyda Thîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad cyn heddiw, yn Glasgow yn 2014 ac ar yr Arfordir Aur yn 2018 hefyd. Mae ei phrofiad yn golygu bod gan Katy ddealltwriaeth gadarn o'r hyn a ddisgwylir gan Brif Swyddog Meddygol, ac mae ei gwaith caled a'i hymroddiad i'r rôl yn rhywbeth a fydd o fudd mawr pan fydd y tîm yn cyrraedd Birmingham.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

"Mae Katy yn Feddyg profiadol iawn gyda phrofiad o weithio mewn nifer o gemau, ac rydym yn falch iawn o'i chroesawu'n ôl i deulu Tîm Cymru. Mae'n hanfodol bod gennym y tîm meddygol mwyaf effeithlon a gwybodus i ofalu am ein hathletwyr a'u cefnogi yn ystod y gemau.

Bydd y gwaith paratoi sy'n arwain i Birmingham hefyd o'r pwys mwyaf, mae Katy eisoes wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr athletwyr a'r hyfforddwyr yn dychwelyd yn ddiogel i hyfforddi a chystadlu yn ystod y pandemig, a bydd yn arwain gwaith cynllunio meddygol Tîm Cymru ar gyfer Birmingham22. Mae'n gyfnod cyffrous i weld ein tîm HQ yn ehangu wrth i'r wythnosau a'r misoedd ddod yn agosach at y Gemau."

Ar ei phenodi, dywedodd Dr Katy Guy,

"Rwy'n llawn cyffro o fod yn ymuno â Thîm Cymru ar gyfer Birmingham 2022.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm i gyd ar baratoi ar gyfer y Gemau a bod yn rhan o'r staff cymorth i helpu i alluogi'r athletwyr i gyflawni eu perfformiadau gorau i Gymru."

Dywedodd Helen Philips, Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru,

“Rydym yn falch iawn o safon ein tîm o ran athletwyr a staff cymorth. Mae ymrwymiad Katy i Dîm Cymru a'i hangerdd dros Gemau'r Gymanwlad wedi bod yn amlwg yn ystod gemau blaenorol. Rydym yn gwybod bod ein tîm yn ddiogel gyda Katy yn y rôl bwysig hon.

Mae'r amrywiaeth o heriau y mae'r staff meddygol yn eu profi yn newid fesul awr ac rwy'n hyderus y bydd personoliaeth ddigynnwrf Katy a'i phrofiad medrus, fel meddyg â chymwysterau sylweddol y tu mewn a'r tu allan i'r byd Chwaraeon yn amhrisiadwy i Dîm Cymru. Wrth i'r daith i Birmingham nesáu, mae ein tîm cymorth yn parhau i dyfu, ac rydym mor falch i weld Katy’n ymuno â ni ar adeg mor dyngedfennol yn ein paratoadau ar gyfer y Gemau.”

Bydd penodiadau pellach yn cael eu gwneud dros yr wythnosau nesaf, ac edrychwn ymlaen at rannu mwy o newyddion gyda chi yn fuan iawn. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Thîm Cymru yn Birmingham, cadwch lygad ar ein Swyddi Gwag am fwy o wybodaeth.