We welcome new team members to Commonwealth Games Wales!

Gyda llai na 18 mis i fynd tan gyffro Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham, mae'r gwaith paratoi bellach wedi hen gychwyn ac mae ein tîm ar gyfer #B2022 yn parhau i dyfu.

Drwy bartneriaeth â Phrifysgol De Cymru ac Athrofa Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi penodi dau fyfyriwr MSc Seicoleg Chwaraeon ar leoliad a fydd yn gweithio'n agos gyda ni ar ein taith i Birmingham. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar draws amrywiaeth o chwaraeon, gan hefyd gefnogi sawl athletwr wrth baratoi ar gyfer y Gemau a chystadlu ynddynt.

Yn dilyn cyfweliadau, rydyn ni’n falch o rannu’r newydd bod Chloe Mundell ac Alan McKay wedi cael eu dewis i ymuno â Thîm Cymru! Bydd y lleoliad yn cyflawni'n rhannol yr oriau gofynnol sydd eu hangen er mwyn i Chloe ac Alan gwblhau eu Cymwysterau Cam 2 gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), ac rydyn ni mor falch eu bod yn ymuno â ni ar adeg mor gyffrous.

Chloe Mundell

Yn wreiddiol o Ogledd Dyfnaint, daeth Chloe i Gymru i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae bellach yn cwblhau ei MSc mewn Seicoleg Chwaraeon. O oedran ifanc, mae Chloe wedi bod wrth ei bodd gyda phob math o chwaraeon ond taniwyd ei brwdfrydedd o ddifri mewn Pêl Foli lle mae'n chwarae ar lefel y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd i Glwb Pêl Foli Caerdydd. Yn Birmingham, mae Chloe’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio'n agos gydag athletwyr talentog Tîm Cymru a datblygu ei sgiliau ymhellach ar gyfer dilyniant ei gyrfa yn y dyfodol.

Alan McKay

Graddiodd Alan gyda gradd Seicoleg yn ei dref enedigol, Dulyn, cyn symud i Brifysgol John Moores yn Lerpwl i gwblhau gradd Meistr mewn Seicoleg Chwaraeon. Setlodd Alan yng Nghaerdydd bedair blynedd yn ôl i ddilyn swydd ymchwil, a drodd yn gyfle PhD iddo ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddarach. Mae Alan hefyd yn frwdfrydig iawn dros chwaraeon ac roedd chwarae rygbi, pêl-droed, golff ac athletau yn rhan fawr o’i febyd. Mae'n edrych ymlaen at weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol Tîm Cymru a gweithio'n effeithiol i gefnogi athletwyr uchelgeisiol i gyrraedd eu nodau cyn Birmingham 2022.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

''Rydyn ni’n cynnig mwy o gefnogaeth nag erioed i chwaraeon ar ôl deuddeg mis mor dorcalonnus i athletwyr yn eu paratoadau cyn Birmingham. Rydyn ni’n hyderus y bydd Alan a Chloe yn cael effaith gadarnhaol ar athletwyr sy'n gobeithio cael eu dewis ar gyfer y Gemau y flwyddyn nesaf ac rydyn ni’n eu croesawu i deulu Tîm Cymru. Mae hefyd yn gam cadarnhaol i'n Sefydliad, gan weithio gyda David Shearer ar ehangu'r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i'r chwaraeon, yn enwedig wrth i ni ddod allan yn raddol o'r cyfnod clo ac wrth i athletwyr barhau â'u paratoadau. Ychydig dros flwyddyn sydd i fynd, ac mae'n mynd i fod yn 12 mis prysur iawn ond hynod gyffrous.''

Dywedodd David Shearer, Athro Mewn Seicoleg Perfformiad Elitaidd ym Mhrifysgol De Cymru:

"Mae ein partneriaeth gref â Gemau'r Gymanwlad Cymru yn golygu ein bod yn gallu cynnig cyfle unwaith mewn oes i fyfyrwyr fel Chloe ac Alan, a fydd yn chwarae rhan hollbwysig fel rhan o Dîm Cymru cyn ac yn ystod y Gemau nesaf. Bydd y ddau yn cael cipolwg gwerthfawr ar y Gemau ac yn cael cynnig profiad cyffrous ac unigryw cyn cwblhau eu Cymwysterau Cam 2 gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae'n wych ein bod yn ddigon ffodus i allu cynnig profiadau o'r fath ac rwy'n edrych ymlaen at weld eu cynnydd dros y misoedd nesaf."

Mae'r newyddion cyffrous hwn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ailbenodi Nicola Philips yn Chef de Mission ar gyfer Birmingham 2022. Arweiniodd Nicola Dîm Cymru drwy Gemau’r Arfordir Aur yn erwau heulog Awstralia, sef Gemau gorau Tîm Cymru erioed (… hyd yma!)

Wrth i bethau ddechrau dychwelyd i'r arfer yn araf ar ôl codi rhai cyfyngiadau COVID-19, edrychwn ymlaen at weld ein hathletwyr yn dychwelyd i hyfforddi’n ddiogel ac i’n paratoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham barhau.