Skip to content

Comisiwn yr
Athletwyr

Mae’r Comisiwn Athletwyr yn rhan bwysig o baratoi, a sefydlwyd i gysylltu’r athletwyr yn uniongyrchol â Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW), y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddewis ac anfon athletwyr elitaidd i gystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Bydd y grŵp o athletwyr, sy’n dod o ystod eang o chwaraeon, yn gweithio gydag aelodau bwrdd CGW i roi adborth ar amrywiaeth o bynciau a materion sy’n ymwneud ag athletwyr. Mae’r grŵp yn cynnwys:

Jacob Edwards

Jacob Edwards – Gymnasteg

‘Rwy’n hynod o falch fy mod wedi cael fy newis ar gyfer Pwyllgor Athletwyr Tîm Cymru yn y cylch hwn!  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o hyn, alla i ddim aros i ddechrau arni!

Mae’n anrhydedd cael fy newis, a byddaf yn gwneud popeth posib, ochr yn ochr â’r holl athletwyr anhygoel eraill ar y pwyllgor, i sicrhau y gall pob athletwr ar draws pob camp gael y cyfnod paratoi gorau posibl cyn 2026. Cymru Am Byth.

Bethan Davies

 Bethan Davies –Athletau  

 

“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i gynrychioli Athletau ar Gomisiwn yr Athletwyr ar gyfer ail gylch Gemau’r Gymanwlad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ochr yn ochr â grŵp mor wych o athletwyr a gweithredu fel cyswllt Comisiwn yr Athletwyr gyda Phanel Athletwyr Chwaraeon Cymru. Gobeithio, gyda’n gilydd, y gallwn ni sicrhau bod cynifer â phosibl o athletwyr Cymru yn cael eu cynrychioli a’u bod yn cael dylanwad ym mhrosesau gwneud penderfyniadau chwaraeon yng Nghymru.”

Will Roberts

Will Roberts –Seiclo

“Mae’n fraint cael fy newis ar gyfer Comisiwn yr Athletwyr i Dîm Cymru. Rwyf bob amser wedi teimlo balchder mawr wrth gynrychioli Cymru. Roedd cystadlu yn Birmingham 2022 yn goron ar y cyfan. Cefais i lawer iawn o brofiad yn paratoi ar gyfer y Gemau hynny a chymryd rhan ynddyn nhw ac rwy’n teimlo’n hyderus yn fy ngallu i rannu’r profiad hwn drwy Gomisiwn yr Athletwyr. Rwy’n barod i weithio’n galed tuag at Victoria 2026 i sicrhau mai dyma FYDD y Gemau mwyaf llwyddiannus i Gymru.”

Anna Hursey

Anna Hursey – Tenis Bwrdd

“Rydw i mor hapus i fod yn rhan o Gomisiwn yr Athletwyr. Roeddwn wrth fy modd yn cymryd rhan yn y ddwy Gêmau’r Gymanwlad ddiwethaf, ac rwy’n ddiolchgar am yr help a dderbyniais i. Mae’n anrhydedd cael cynrychioli Tîm Cymru. Byddaf yn gwneud fy ngorau i annog holl athletwyr Cymru. Bydd Gemau’r Gymanwlad, Victoria 2026 yn brofiad anhygoel.”

Sarah Jones

Sarah Jones – Hoci

“Ar ôl cynrychioli Cymru mewn tair o Gemau’r Gymanwlad, rydw i wrth fy modd fy mod nawr yn cael y cyfle i siapio Victoria 2026 ar gyfer athletwyr Tîm Cymru. Does dim teimlad tebyg i gynrychioli Tîm Cymru ac rydw i bob amser mor falch o’r awyrgylch y mae Comisiwn yr Athletwyr yn helpu i’w greu. O ran y dyfodol, rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â grŵp gwych o athletwyr o amrywiaeth o gampau a defnyddio ein profiad i greu Gemau’r Gymanwlad gofiadwy a llwyddiannus i Gymru.”

Rosie Eccles

Rosie Eccles – Bocsio

 

“Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o Gomisiwn yr Athletwyr gan fod lle arbennig i Gemau’r Gymanwlad yn fy nghalon i. Birmingham oedd Gemau’r Gymanwlad olaf i fi, felly mae cael llais nawr wrth helpu’r genhedlaeth nesaf i brofi’r hyn a gefais i yn sicr yn golygu llawer iawn. Cylch llawn. Ymlaen i Awstralia.” 

Lily Rice

Lily Rice – Para Nofio

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o gomisiwn yr athletwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag athletwyr eraill o wahanol gampau a gallu cyfrannu tuag at ddyfodol chwaraeon y Gymanwlad.”

Suzy Drane

Suzy Drane – Pêl-rwyd

“Rwy’n falch iawn o gael fy enwi fel rhan o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru i gefnogi’r cylch Gemau’r Gymanwlad yma. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag athletwyr o amrywiaeth o chwaraeon a defnyddio fy mhrofiadau i gyfrannu at baratoadau a llwyddiant Tîm Cymru yn Victoria 2026. Rwy’n gyffrous i ddechrau arni a gweld beth ddaw yn ystod y tair blynedd nesaf.”

Ross

Ross Owen – Bowlio Lawnt

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle i fod yn rhan o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ac rwy’n hynod o falch. Rwy’n gyffrous o gael y cyfle i hyrwyddo llais athletwyr yn y cyfnod sy’n arwain at Gemau 2026.”

Jasmine Joyce

Jasmine Joyce – Rygbi Saith Bob Ochr

“Diolch am y cyfle hwn unwaith eto. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru a phawb sy’n cymryd rhan. Rwy’n edrych ymlaen at helpu allan a dechrau arni.”

“Diolch am y cyfle hwn unwaith eto. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru a phawb sy’n cymryd rhan. Rwy’n edrych ymlaen at helpu allan a dechrau arni.”

Morgan Jones

Morgan Jones – Para Athletau

“Rwy’n falch iawn cael fy nghynnwys ar Gomisiwn yr Athletwyr, mae’n wir anrhydedd. Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o’r cylch nesaf ac yn edrych ymlaen at y cyfle i gynrychioli para chwaraeon ar Gomisiwn yr Athletwyr.”

Georgia Davies

Georgia Davies – Nofio

“Mae’n anrhydedd enfawr cael bod yn rhan o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru. Roeddwn yn falch iawn o gynrychioli Cymru mewn tair Gemau’r Gymanwlad, a chefais gefnogaeth ddiwyro gan Dîm Cymru drwy gydol fy ngyrfa nofio, Felly ar ôl ymddeol, rwy’n falch iawn o allu parhau i ymwneud â sefydliad mae gen i gymaint o feddwl ohono, ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o athletwyr o Gymru i berfformio ar eu gorau, a’u helpu i greu atgofion bythgofiadwy yn y broses.”

David Phelps image

David Phelps – Saethu

 

Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis eto, ar gyfer fy nhymor olaf, i fod yn rhan o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru. Mae’r cyfle i gymryd rhan yn y daith i Victoria 2026, a helpu i gyfrannu at y cyfan yn fraint rwy’n ei thrysori.

Fel aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-athletwyr o amrywiaeth o chwaraeon, gan ddod â’r holl wybodaeth a phrofiad hwnnw ynghyd i roi’r profiad gorau i Athletwyr Tîm Cymru. Bydd Gemau’r Gymanwlad Victoria 2026 yn esblygiad pellach o’r model newydd gyda grwpiau o chwaraeon wedi’u lleoli ac yn cystadlu mewn canolfannau rhanbarthol. Mae hyn yn golygu bod heriau newydd i’w goresgyn, a bod angen meddwl am syniadau newydd i ddod â’r tîm at ei gilydd ym mhen draw’r byd.

Mae’r her a’r gwaith caled y bydd hyn yn ei olygu yn fy nghyffroi, oherwydd rydw i bob amser eisiau’r gorau i’r tîm.”