Skip to content

Hanes

  • 2022

    Gemau Birmingham 2022

    Yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022 daeth dros 6,500 o athletwyr a swyddogion ynghyd i gystadlu yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog y DU.

     Croesawodd Birmingham y Gemau am y tro cyntaf a bu’r ddinas yn llwyfan byd-eang i arddangos y doniau sy’n byrlymu o blith cenhedloedd amrywiol y Gymanwlad.

  • 2018

    2018 Oedd Gemau Gorau Erioed Cymru!

    Llwyddodd Tîm Cymru i gydraddoli eu cyfrif medalau yn Glasgow ond enillodd 10 medal aur drawiadol, gan wneud Gemau Arfordir Aur 2018 y mwyaf llwyddiannus mewn hanes. Gorffennodd Cymru yn 7fed ar y bwrdd medalau. Roedd gan y Gemau hyn y rhaglen para chwaraeon fwyaf erioed, gyda nofio, athletau, tenis bwrdd, codi pŵer, triathlon a marathon wedi’i chynnwys yn y rhaglen, ac am y tro cyntaf erioed roedd nifer cyfartal o gyfleoedd medalau i ddynion a menywod. Roedd Awstralia yn cynnwys pêl-fasged yn ôl i’r rhaglen chwaraeon, ac am y tro cyntaf ychwanegodd bêl foli.

    Yng Ngemau 2018 gwelwyd y nifer uchaf erioed o athletwyr yn cymryd rhan gyda 6500 o athletwyr o 71 gwlad, 228 o’r athletwyr hynny oedd Tîm Cymru!

  • 2014

    Roedd Gemau 2014 yn Glasgow

    Cynhaliwyd y Gemau yn yr Alban gyda 4900 o athletwyr yn cystadlu. Y Gemau hyn oedd â’r nifer fwyaf erioed o fedalau para ar gael (22) gyda phara feicio hefyd wedi’i ychwanegu at y rhaglen o chwaraeon. Cafodd Tîm Cymru eu Gemau mwyaf llwyddiannus hyd yma gyda 5 medal aur, 11 arian ac 19 efydd, gan ennill y nifer uchaf erioed o fedalau, sef 36.

  • 2010

    Roedd Gemau 2010 yn Delhi

    Yng Ngemau Delhi yn 2010, roedd gan Gymru gyfanswm o 175 o athletwyr mewn 15 o gampau. Daeth Tîm Cymru â 3 aur, 6 arian, a 10 efydd adref, sy’n gwneud cyfanswm o 19 medal, gan gyfateb i’r hyn gawson nhw yn Melbourne.

  • 2006

    Roedd Gemau 2006 yn Melbourne

    Yn 2006 aeth Tîm Cymru â 143 o athletwyr mewn 14 o gampau i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad Melbourne. Yn ystod y Gemau, llwyddodd Cymru i ennill 19 medal sef 3 medal aur, 5 arian, ac 11 efydd.