Team Wales confirms nine new appointments ahead of #B2022

Bydd y penodiadau'n ffurfio tîm meddygol Tîm Cymru a byddant yn cynnwys Meddygon, Ffisiotherapyddion a therapyddion Meinwe Meddal

 

Wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer #B2022, mae digon wedi bod yn digwydd y tu ôl i'r llenni i gefnogi ein hathletwyr yn y cyfnod cyn ac yn ystod y Gemau.

Mae Tîm Cymru yn cadarnhau'r apwyntiadau meddygol diweddaraf a fydd yn gweithio o dan arweiniad Rheolwr Tîm Cyffredinol Cymorth i Athletwyr, Cath Shearer a'r Prif Swyddog Meddygol Dr Katy Guy fel rhan o dîm HQ canolog Tîm Cymru. Dyma’r penodiadau newydd sydd wedi’u cadarnhau:

Meddygon

Nick Roach
Kate Edwards
Craig Dyson

Ffisiotherapyddion

Sian Knott
Osian Merfyn
Katy Williams

Therapyddion Meinwe Meddal

Dave Rowe
Ashleigh Griffiths
Sheree Phelps

Dywedodd Cath Shearer, Rheolwr Tîm Cyffredinol Tîm Cymru a fu’n arwain ar y gwaith o recriwtio'r tîm meddygol:

"Roedd yn bwysig iawn i ni gael y bobl iawn ar gyfer y rolau hyn. Nid yn unig y mae'n hanfodol cael y sgiliau a'r profiad yn eu maes, ond oherwydd natur y digwyddiad, gall fod yn hynod o brysur a dwys ac mae'n hanfodol cael tîm a all gefnogi ei gilydd yn ogystal â gweithio'n annibynnol dros oriau hir.

"Mae'n gyfle cyffrous iawn i gael profiad ymarferol mewn digwyddiad aml-chwaraeon mor fawr â Gemau’r Gymanwlad, ac mae'n wych cael wynebau cyfarwydd yn ôl gyda ni. Bydd eu profiad o'r Gemau yn amhrisiadwy ac allwn ni ddim aros i ddechrau arni."