New intern joins Team Wales for 2021/2022!

Bydd Aakshi Sharma yn ymuno â ni ar gyfer y flwyddyn academaidd ac yn helpu gyda pharatoadau #B2022

 

Bob blwyddyn, rydym yn ymuno â Phrifysgol De Cymru i roi cyfle i fyfyrwyr weithio gyda ni yng Ngemau'r Gymanwlad Cymru. Mae'r interniaeth yn rhoi profiad gwerthfawr ar draws sawl maes o Farchnata a Rheoli Digwyddiadau, i chwaraeon a Chysylltiadau Cyhoeddus Digidol.

Mae'r lleoliad yn rhan o gynllun interniaeth eqUIP Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yr ydym wedi bod yn ymwneud ag ef yn llwyddiannus ers saith mlynedd.

Mae'r interniaid sydd gennym yn Nhîm Cymru bob amser wedi bod yn rhan greiddiol o'r tîm, ac mae eu mewnbwn yn amhrisiadwy. Daeth un intern lwcus allan i weithio yng Ngemau'r Arfordir Aur 2018 hyd yn oed!

Gyda llai na blwyddyn i fynd, bydd y misoedd nesaf hyn yn gyfnod prysur iawn ond hynod gyffrous, a bydd Aakshi yn cael cyfle i weithio ar nifer o feysydd o'r cyfryngau, ymgysylltu ag ysgolion a chynllunio gweithredol.

Dyma Aakshi…

C: Heia Aakshi! Dywed rywfaint amdanat ti dy hun a beth rwyt ti’n ei astudio ym Mhrifysgol De Cymru

A: Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol o India – wedi fy ngeni a'm magu yn Delhi. Mae Delhi wedi fy siapio i fod yn berson bywiog a mwy annibynnol. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i'n Gapten Chwaraeon yn fy ysgol ac mae gen i Felt Du mewn Karate hefyd! Rydw i wrth fy modd yn coginio a phaentio yn fy amser rhydd, rydw i wrth fy modd yn bod ar Instagram ac yn ddiweddar fe wnes i sefydlu llwyfan codi arian, o'r enw FundRace, sy'n helpu athletwyr difreintiedig i gael gafael ar arian a fydd yn cefnogi eu gyrfa.

Ar hyn o bryd rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru, yn astudio BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth. Rydw i wedi bod yn astudio pynciau fel Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata, Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, Moeseg Busnes a Chynaliadwyedd, Busnes Rhyngwladol a llawer mwy. Ar lefel bersonol, Rheoli Digwyddiadau a Marchnata yw fy niddordeb, ac rwy'n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa mewn Marchnata Digidol a'r Cyfryngau Cymdeithasol.

C: Pam wnes di ddewis gwneud cais am interniaeth gyda Thîm Cymru?

A: Gan fod gen i ddiddordeb brwd mewn marchnata a digwyddiadau, bydd yr interniaeth yn fy ngalluogi i ennill profiad o fewn y ddau faes. Bydd y rôl hon yn cynnig profiad ymarferol anhygoel i mi ac yn fy herio i berfformio a chyflawni ar y lefel uchaf. Byddai'r sgiliau y byddwn yn eu cael o'r interniaeth yn cyfrannu at fy astudiaethau lle rydw i wedi ennill gwybodaeth ddamcaniaethol mewn digwyddiadau a marchnata, a bydd yn caniatáu imi ei roi ar waith hefyd. Gyda chefndir mewn chwaraeon, cefais fy nenu ar unwaith i'r rôl gyda Gemau'r Gymanwlad gan nad oedd llwyfan mwy (neu well!) i mi arddangos fy ngalluoedd yn fy marn i. A nawr rwy'n cael bod yn rhan o Dîm disglair Cymru!

C: A sut fyddi di’n cymryd dy ragolygon gyrfa ac yn ei addasu ar gyfer dy rôl gyda Thîm Cymru?

A: Byddaf i’n gweithio gyda Thîm Cymru fel Intern Marchnata a Digwyddiadau, a fydd yn caniatáu i mi brofi llu o gyfrifoldebau fel cyfweld ag athletwyr, cynnal sesiynau i ymgysylltu ag ysgolion, a chysylltu â chyrff llywodraethu cenedlaethol yn y cyfnod cyn y Gemau. Byddaf hefyd yn gweithio ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Tîm Cymru, gan greu cynnwys a helpu i gynyddu eu presenoldeb digidol. Bydd yr interniaeth hefyd yn rhoi cyfleoedd i mi roi fy sgiliau cynllunio a threfnu ar waith drwy ymchwilio a chasglu data.

 

Bydd Aakshi gyda ni tan 2022 ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i'w chael hi ar y tîm wrth i'n paratoadau ar gyfer Birmingham barhau. Mae'n mynd i fod yn flwyddyn brysur i Aakshi, gwyliwch y gofod!