Team Wales celebrates ‘3 years to go’ until #Birmingham2022

3 ffordd mae Tîm Cymru yn paratoi ar gyfer Gemau 2022

 

Credwch neu beidio, dechreuodd paratoadau ar gyfer Birmingham 2022 y munud y glaniodd Tîm Cymru yn ôl yn y DU ar ôl Gold Coast 2018! Gyda thîm o athletwyr, swyddogion a staff i ddarparu ar eu cyfer, mae'r tîm eisoes yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i drefnu a chynllunio pethau fel cyfleusterau, llety a logisteg.

 

1. Rydym wedi ymweld â Birmingham eisoes… ychydig o weithiau!

Rydym yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd yn Birmingham i archwilio opsiynau cyfleusterau a llety ar gyfer ein tîm. Y peth gwych am y Gemau yn2022 yw ei fod ar garreg ein drws felly rydyn ni eisiau manteisio'n llawn ar hynny! Mae'n wych i weithio'n agos gyda phwyllgor trefnu #Birmingham2022 a chenhedloedd cartref eraill. Rydym eisoes yn recriwtio rhai swyddi cyffrous yn ein tîm ac yn nes at yr amser, byddwn yn gallu rhannu mwy o newyddion Tîm Cymru!

 

2. Rydym wedi penodi Comisiwn Athletwyr Tîm Cymru Birmingham 2022 ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid

 

Mae ein Comisiwn Athletwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynrychioli athletwyr yn gywir- arlwyo ar gyfer eu hanghenion a'u paratoi'n llawn pan ddaw i'r Gemau. Mae aelodau serennog ein Comisiwn Athletwyr yn gweithredu fel llais ein hathletwyr ac yn adrodd yn rheolaidd i'n tîm uwch. Dros y tair blynedd nesaf, byddant yn ein helpu i wneud penderfyniadau pwysig pan ddaw i #Birmingham2022.

Dyma’n Comisiwn Athletwyr ar gyfer Birmingham 2022 

Rydym hefyd yn falch o allu parhau â'n partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i gyflwyno rhaglen cefnogi athletwyr newydd yn ogystal â chyhoeddi ein partneriaeth newydd gydag Urdd Gobaith Cymru…

 

3. Rydym wedi dechrau rhaglen ymgysylltu ysgolion newydd sbon i helpu ‘Ysbrydoli Cymru’

 

Mae athletwyr Tîm Cymru yn uchelgeisiol, yn falch o gystadlu am eu gwlad a bob amser yn ysbrydoledig. Dyna pam, yn y cyfnod yn arwain at Birmingham 2022, rydym yn cyflwyno rhaglen ysgolion benodol lle gallwch wneud cais i gael athletwr Tîm Cymru i ymweld â'ch ysgol, ysbrydoli'ch disgyblion a chynnal gweithdy ymarferol.

Mae cenedlaethau'r dyfodol yn bwysig i ni ac mae chwaraeon yn dod â manteision enfawr i bawb – dyna sy'n gwneud Tîm Cymru. Dyna pam ein bod am helpu i ysbrydoli pobl ifanc ledled Cymru i fod yn weithgar ac i ddarganfod chwaraeon mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy.

Dysgwch fwy a gwnewch gais am ymweliad ysgol Tîm Cymru yma