DAN CLEMENTS JOINS TEAM WALES AS GENERAL TEAM MANAGER

Mae rhwydwaith cymorth Tîm Cymru yn parhau i dyfu cyn Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022, gyda Dan Clements yn cael ei benodi'n Rheolwr Tîm Cyffredinol.

Rôl y Rheolwr Tîm Cyffredinol yw gweithio gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Dîm Rheoli'r Gemau i greu'r amgylchedd gorau posibl, cefnogi athletwyr ac annog diwylliant tîm cadarnhaol. Mae hon yn rôl gyffrous o fewn y tîm cefnogi a bydd Dan yn ymuno â'r uwch reolwyr eraill wrth gynllunio a chyflawni paratoadau ar gyfer y gemau, gan sicrhau hefyd fod pob athletwr a champ yn teimlo'n barod ac yn hyderus yn y cyfnod cyn a thrwy gydol y Gemau.

Graddiodd Dan Clements o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd gyda doethuriaeth mewn Hyfforddi a Datblygu Talent. Mae ganddo brofiad helaeth o fewn y sector Chwaraeon, gyda chefndir mewn Hyfforddi Elitaidd a Pherfformiad Uchel. Mae Dan eisoes wedi gweithio i sefydliadau fel Rygbi Cynghrair Cymru fel Pennaeth Perfformiad a Hyfforddwr Rhyngwladol. Mae hefyd wedi gweithio i Hoci Cymru fel Pennaeth Perfformiad ac ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Hyfforddwyr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru. Yn ei rôl bresennol, mae’n gweithredu fel mentor a hyfforddwr ac yn arwain strategaeth hyfforddi elitaidd Cymru. Mae gan Dan brofiad o weithio gyda Thîm Cymru mewn blynyddoedd blaenorol, gan ymuno â'r tîm cymorth ehangach yng Ngemau Glasgow 2014 a Gemau’r Arfordir Aur 2018.

Ar ôl cael ei benodi, dywedodd Dan Clements:

"Mae'n fraint cael ymuno â Thîm Cymru ar gyfer gemau 2022 yn Birmingham. Mae rhywbeth arbennig iawn am gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ac rwy'n hynod falch o allu chwarae rhan fach mewn digwyddiad mor bwysig i athletwyr gorau ein gwlad."

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

"Mae’n gyffrous iawn fod Dan yn ymuno â ni ar gyfer Gemau'r Gymanwlad unwaith eto, y tro hwn yn Birmingham, gan gefnogi pob camp yn y Gemau. Bydd gwybodaeth a phrofiad Dan o ran perfformiad yn amhrisiadwy wrth gefnogi athletwyr a hyfforddwyr, a bydd yn gaffaeliad anhygoel i'r tîm. Mae penodiad Dan yn un o nifer o ychwanegiadau diweddar wrth i ni recriwtio uwch reolwyr Tîm Cymru, grŵp ymroddedig o unigolion talentog, gweithgar a phenderfynol a fydd yn cefnogi tîm Cymru yn Birmingham. Allwn ni ddim aros i Dan ddechrau gweithio gyda ni ac edrychwn ymlaen at ei groesawu'n ôl ar gyfer Gemau arall."

I fod yn rhan o Dîm Cymru cyn #B2022, cliciwch i ddysgu mwy am ein swyddi gwag presennol.