WILLIAMS COACHES ASSISTING ON THE ROAD TO #B2022

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi mai Williams Coaches fydd ein partner cludiant swyddogol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Mae Williams Coaches, a fydd yn cynorthwyo ar y ffordd i Birmingham – yn llythrennol! – yn fusnes arobryn o Gymru a fydd yn darparu cludiant dibynadwy i'n hathletwyr a'n tîm cymorth ehangach cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau.

Wedi'i leoli yn nhref fach Aberhonddu, mae gan Williams Coaches dros 65 mlynedd o brofiad o ddarparu teithiau bws o safon ledled y DU ac Ewrop. Mae gan y busnes enw da fel un o brif weithredwyr bysiau'r DU – gan ennill Gweithredwr Bysiau’r Flwyddyn (Fflyd Ganolig) yn 2019 a bod yn aelodau hirsefydlog o Urdd Gweithredwyr Bysiau Prydain a CoachMarque. Mae gan Williams Coaches fflyd sylweddol o 34 o gerbydau, yn amrywio o fysiau 8-79 sedd, ac mae'n gweithio ar draws sawl sector gan gynnwys Teithio Chwaraeon; Twristiaeth; Teithio Busnes; Ysgolion; a Llogi Preifat.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

"Rydyn ni wrth ein boddau o allu gweithio gyda gweithredwr teithio ag enw da iawn wrth baratoi ar gyfer Gemau Birmingham. Bydd Williams Coaches yn chwarae rhan hollbwysig o ran cael ein hathletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth ehangach Tîm Cymru i Birmingham yn ddiogel a'n cynorthwyo gyda'r hyn a fydd yn gyfnod prysur ond cyffrous iawn. Edrychwn ymlaen at gynnwys y tîm yn ein cynlluniau ar gyfer y Gemau yn y dyfodol a gweithio ochr yn ochr â nhw i ddarparu dull diogel a dibynadwy o deithio i bawb sy’n rhan o’r ymgyrch."

Dywedodd Rose Williams, Cyfarwyddwr Williams Coaches:

"Fel cwmni, rydyn ni wedi bod yn darparu cludiant i sefydliadau chwaraeon proffesiynol, amatur a lleol am 65 mlynedd. Fel cydnabyddiaeth o’r safonau a'r proffesiynoldeb rydyn ni’n eu cynnig i'n cleientiaid, rydyn ni wrth ein boddau ac yn falch tu hwnt ein bod wedi cael ein dewis fel darparwr cludiant ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 ac edrychwn ymlaen yn fawr at wasanaethu timau chwaraeon ein Gwlad."

 

Mae ein partneriaeth â Williams Coaches yn un o nifer o gyfleoedd gwych sydd gennym cyn Gemau Birmingham. I weld pwy arall fydd yn dod yn bartneriaid i ni cyn y Gemau, cliciwch yma.