TEAM WALES ANNOUNCE NIKE AS KIT DESIGNERS FOR BIRMINGHAM 2022

Mae 28 Gorffennaf yn nodi blwyddyn i fynd tan Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham.

 

Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi cydweithrediad cyffrous gyda Nike wrth i baratoadau barhau gyda blwyddyn i fynd tan Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham, ym mis Gorffennaf 2022.

Penodwyd Nike gan Gemau'r Gymanwlad Cymru, y corff sy'n gyfrifol am fynd â Thîm Cymru i Gemau'r Gymanwlad, i ddylunio a chynhyrchu gwisg y tîm.

Mae'r dyluniad wedi bod yn brosiect ar y cyd rhwng dylunwyr Nike, comisiwn athletwyr Tîm Cymru a PSL, y cwmni sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r dillad hamdden.

Ymhen dim ond 12 mis, bydd 72 o wledydd yn dod at ei gilydd i gystadlu mewn 22 o gampau, gyda Chriced T20 y Menywod, Pêl-fasged 3 x 3 a Phêl-fasged Cadair Olwyn 3 x 3 ymhlith y campau newydd a gyflwynir i'r Gemau.

Mae Tîm Cymru wedi bod yn brysur yn paratoi y tu ôl i'r llenni ar gyfer eu hail dro ar hugain yng Ngemau’r Gymanwlad, ac er gwaethaf y pandemig ac 16 mis o ansicrwydd ar draws y byd chwaraeon, mae carreg filltir heddiw yn nodi llwybr cadarnhaol i'r Gemau y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd Rennie Keith, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol PSL Team Sports:

"Mae'n anrhydedd i bob un ohonom yn PSL gael ein penodi eto’n ddarparwr dillad Tîm Cymru ar gyfer y gemau sydd i ddod yn Birmingham – y tro hwn mewn cydweithrediad â brand dillad chwaraeon mwyaf y byd, Nike. Credwn fod y sesiynau mewnwelediad dylunio a gynhaliwyd bellach wedi ein harwain at yr arlwy mwyaf personol, ysbrydoledig a modern o ddillad a gynhyrchwyd erioed ar gyfer Tîm Cymru ac allwn ni ddim aros i weld y cynhyrchion yn dod yn fyw – ar y podiwm ac ar eu cefnogwyr. Cadwch olwg am newyddion am yr arlwy o nwyddau sy'n cael ei lansio'n fuan iawn. Amdani, Dîm Cymru!”

 

Meddai Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

"Dillad hamdden Tîm Cymru yw un o feysydd pwysicaf a mwyaf cyffrous ein gwaith cynllunio. Rydyn ni’n gwybod bod gwisgo dillad o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio’n dda yn golygu cymaint i'r athletwyr a'r staff cymorth sy'n cynrychioli Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o'n cydweithrediad â Nike, ac edrychwn ymlaen at ddangos y dyluniad maes o law.''