Cyhoeddi Tîm Tenis Bwrdd y Merched!

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn falch o gyhoeddi tîm Tenis Bwrdd Merched 2022

Wedi i’r tîm Tennis Bwrdd ennill ei le yn gynharach eleni, mae’r athletwyr canlynol wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn nigwyddiad Tennis Bwrdd Merched yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022.

Bydd y tîm merched yn cynnwys: Charlotte Carey, Anna Hursey, Chloe Thomas Wu Zhang, a Lara Whitton.

“Da iawn i’r holl chwaraewyr sydd wedi cael eu dewis. Rydyn ni’n teimlo bod hwn yn dîm cryf iawn a allai wir berfformio a gwella ar ein safle terfynol yng Ngemau 2018. Rydyn ni wrth ein bodd y bydd ein tîm Arfordir Aur, sef Charlotte, Chloe ac Anna yn dod at ei gilydd unwaith eto ac y bydd Lara, sydd wedi chwarae’n rhagorol eleni, yn ymuno â nhw.” – Rhian Pearce, Prif Swyddog Gweithredol Tenis Bwrdd Cymru

Bydd Gemau’r Gymanwlad 2022 yn cynnwys mwy o fedalau i ferched na dynion, gyda 136 o gyfleoedd i ennill lle ar y podiwm. Birmingham 2022 fydd â’r rhaglen chwaraeon benywaidd fwyaf mewn hanes, sy’n cynnwys Criced T20 i Ferched am y tro cyntaf.

Chris Jenkins, Commonwealth Games Wales CEO said “Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru “Llongyfarchiadau i’r holl chwaraewyr a’r staff cymorth am gynhyrchu tîm Tenis Bwrdd cryf unwaith eto. Mae’n wych gweld nid yn unig y dalent sydd ganddyn nhw fel athletwyr, ond yr undod sydd ganddynt fel camp. Mae’r paratoadau’n mynd yn dda i ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu newyddion pellach am athletwyr sydd wedi cael eu dewis dros yr wythnosau nesaf.”

Gorffennodd Tîm Cymru’n seithfed yn y Gemau diwethaf ar yr Arfordir Aur yn 2018, a gyda thîm maint tebyg yn mynd i Birmingham, maen nhw’n gobeithio adleisio llwyddiant 4 blynedd yn ôl.

Cynhelir y digwyddiad Tenis Bwrdd a Thenis Bwrdd Para yn yr NEC yn Birmingham o ddiwrnod cyntaf y cystadlaethau ar 29 Gorffennaf 2022.

Gallwch ddilyn taith Tîm Cymru i Birmingham 2022 ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol: Teamwales.cymru / @TeamWales / #TeamWales / #TîmCymru