Victoria, Awstralia yn cael ei chyhoeddi fel cartref Gemau’r Gymanwlad 2026!

Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad (CGF) wedi cadarnhau y bydd Gemau’r Gymanwlad 2026 yn cael eu cynnal gan dalaith Victoria yn Awstralia

Yn dilyn trafodaethau llwyddiannus rhwng y CGF, Gemau’r Gymanwlad Awstralia a thalaith Victoria, cytunwyd y byddai’r rhanbarth yn llwyfannu’r digwyddiad aml-chwaraeon yn 2026.

Gemau’r Gymanwlad 2026 rhanbarthol yn bennaf fydd y cyntaf o’i fath, gyda’r cystadlaethau’n cael eu cynnal ar draws nifer o ddinasoedd a chanolfannau rhanbarthol, gan gynnwys Melbourne, Geelong, Bendigo, Ballarat a Gippsland.

Y nod yw arddangos y gorau o’r hyn sydd gan dalaith Victoria i’w gynnig, gan sicrhau profiad unigryw i’r athletwyr a’r gwylwyr, gyda’r Seremoni Agoriadol yn cael ei chynnal ym maes criced eiconig Melbourne.

“Mae’n newyddion gwych y bydd Gemau’r Gymanwlad yn dychwelyd i Awstralia yn 2026. Llongyfarchiadau i dalaith Victoria, CGF, a Gemau’r Gymanwlad Awstralia ar gynllunio Gemau arloesol a chyffrous. Mae ein hathletwyr fydd yn cystadlu yn Birmingham cyn bo hir a’r rhai sy’n dyheu am gystadlu dros Gymru yn 2026, bellach yn gwybod mai’r wobr yw lle yn Nhîm Cymru ar gyfer Victoria26.” – Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Mae 16 o chwaraeon eisoes wedi’u cyflwyno ar gyfer y gemau, gan gynnwys Campau Dŵr, Athletau a Phara Athletau, Beicio, Gymnasteg, Pêl Rwyd, Rygbi Saith-bob-ochr a Chodi Pwysau a Chodi Pŵer Para. Bydd rhagor o chwaraeon yn cael eu hychwanegu yn ddiweddarach eleni, mewn dull graddol o greu’r rhaglen chwaraeon.

Mae Awstralia wedi cynnal Gemau’r Gymanwlad bum gwaith, gyda Victoria ei hun yn llwyfannu’r cystadlaethau ym Melbourne yn 2006, a Bendigo yn 2004. Cynhaliwyd gemau hefyd yn Sydney yn 1938, Perth yn 1962, Brisbane yn 1982 a’r Arfordir Aur yn 2018, gyda Gemau Melbourne 2006 yn cael eu hystyried yn un o’r Gemau mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gymanwlad.

Bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal am y trydydd tro ar hugain yn 2026, gyda’r gemau cyntaf erioed yn cael eu cynnal yn Hamilton, Canada yn 1930.

“Hoffem longyfarch talaith Victoria, Awstralia a’n ffrindiau yng Ngemau’r Gymanwlad Awstralia ar eu cais llwyddiannus i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026. Roedd Melbourne 2006 yn ddigwyddiad gwych ac nid oes amheuaeth gennyf y byddant unwaith eto yn darparu profiad eithriadol i’r athletwyr a’r gwylwyr ar draws y dinasoedd a’r canolfannau rhanbarthol lluosog. Rhaid cymeradwyo’r model cyflawni arloesol hwn ar gyfer y gemau ac mae’n ffordd wych o fod o fudd i fwy o gymunedau dros ardal ddaearyddol fwy. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor trefnu a mynd â Thîm Cymru i Awstralia ymhen 4 blynedd.” – Helen Phillips MBE, Pennaeth Gweithrediadau Gemau CGW

Yn ogystal â’i hanes o gynnal Gemau’r Gymanwlad yn llwyddiannus, mae talaith Victoria yn gartref i Grand Prix Fformiwla 1 Melbourne a’r Melbourne Cup, yn ogystal ag yn cynnal digwyddiadau criced a golff elît yn rheolaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad, cliciwch yma

Dilynwch daith Tîm Cymru i Birmingham 2022 Teamwales.cymru / @TeamWales / #TeamWales / #TîmCymru