Cymru yn cerdded i ffwrdd gyda 28 o fedalau!

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, dyma rai o’r uchafbwyntiau

Ym Mirmingham 2022 gorffennodd Cymru yn 8fed yn y tabl medalau, gan ddychwelyd gyda 28 o fedalau; 8 Aur, 6 Arian, a 14 Efydd.

Gyda 201 o athletwyr ar draws 15 camp, gwelodd gemau 2022 Tîm Cymru yn cynnwys mwy o athletwyr para nag erioed o’r blaen, gan gynnwys ein para triathletwr cyntaf. Roedd y tîm hefyd yn cynnwys mwy o fenywod na gwrywod, gan gynnwys deifwyr benywaidd am y tro cyntaf.

O’r trac i’r pwll, y lawnt i’r ring, roedd Tîm Cymru’n rym o ddifri, gan wireddu’r geiriau ar legins Birmingham 2022 a ddyluniwyd gan fyfyrwyr PDC sef ‘bach ond nerthol’.

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn anhygoel i bara-athletwyr Tîm Cymru, gan gynnwys Aled Siôn Davies, Olivia Breen, James Ball, a Joshua Stacey a gyfrannodd at hanner cyfanswm y medalau aur a enillwyd.

Am y tro cyntaf yn hanes GGC, darlledwyd rhaglen uchafbwyntiau teledu byw bob nos o’r gemau o Dŷ Tîm Cymru ar S4C, yn ogystal â masgot cyntaf Tîm Cymru, Mistar Urdd.

Dywedodd y Chef de Mission, Nicola Phillips: “Am Gemau! Diolch i Firmingham 2022 am gamu i’r adwy i gynnal y Gemau, ac yna ei gynllunio trwy’r pandemig. Roedd y cyfle i’r holl athletwyr allu cystadlu o flaen stadia ac arenâu llawn dop yn ei wneud yn ddathliad ysblennydd o chwaraeon.

“Fe wnaeth ein hathletwyr Tîm Cymru waith anhygoel, rhai am y tro cyntaf mewn gemau mawr ac eraill yn dychwelyd i gystadlu dros ein cenedl. Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw am oreuon personol ac fe wnaethon nhw wireddu hynny – gyda goreuon oes, goreuon y tymor, goreuon y byd, yn ogystal â recordiau Cymreig, Prydeinig a’r Gemau.

“Ar ôl bod yn rhan o Dîm Cymru ar gyfer 10 o Gemau’r Gymanwlad, dyma oedd fy un olaf ac mae’n un a fydd yn aros yn y cof. Dymunaf bob llwyddiant i Gemau’r Gymanwlad Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer Victoria 2026 a thu hwnt.”

Er gwaethaf nifer llai o fedalau na’r gemau diwethaf ar yr Arfordir Aur, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn hynod falch o berfformiad yr athletwyr, gan fesur llwyddiant ar y nifer anhygoel o oreuon personol, recordiau Cymreig a recordiau Gemau a gyflawnwyd eleni.

Cipiodd yr efeilliaid unfath Ioan a Garan Croft fedalau Aur ac Efydd yn y drefn honno yn y ring, wrth i Rosie Eccles ennill Aur gydag unig fedal bocsio benywaidd Cymru.

Roedd y brodyr Croft yn un o bedair set o frodyr a chwiorydd yn Nhîm Cymru, ochr yn ochr â Joe a Hannah Brier (athletau), Emyr a Tesni Evans (Sboncen), a Megan ac Elinor Barker (seiclo).

Rhoddodd James Ball a’i beilot Matt Rotherham arddangosfa ryfeddol ar y trac, gan ennill eu medal aur gyntaf, ar ôl lap cymhwyso gwych yn sicrhau amser o 9.851 yn y Gwibiad.

Gemma Frizelle, wyneb cyfarwydd o Arfordir Aur 2018, oedd y gymnastwraig gyntaf o Gymru i ennill aur yng Ngemau’r Gymanwlad, gyda pherfformiad Cylchyn gwych yn Arena Birmingham.

Allan ar y lawnt, llwyddodd Jarrad Breen a Daniel Salmon i sicrhau aur mewn buddugoliaeth dynn yn y Parau dros Ddynion Lloegr, ac enillodd athletwr hynaf Cymru, Gordon Llewellyn, partner Julie Thomas a’u cyfarwyddwyr Mark Adams a John Wilson Arian yn y Bowls Lawnt Para.

Meddai Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Birmingham 2022 yw fy mhedwaredd gêm gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru, a bydd yn sicr yn un i’w chofio, nid yn unig oherwydd cynllunio gemau drwy bandemig a gweld llwyddiant ysgubol y Tîm, ond dyma fydd fy Ngemau olaf fel Prif Swyddog Gweithredol ac rydw i wedi mwynhau pob eiliad.

“Rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol dros y pedair blynedd diwethaf i ffurfio tîm cynhwysol ac eithriadol unwaith eto. Mae wedi bod yn wych gweld wynebau cyfarwydd fel Suzy Drane, Anwen Butten a Rhys Jones yn y tîm, ac mae hefyd wedi bod yn gyffrous i gael enwau mawr fel Geraint Thomas ac Aled Siôn Davies yn ôl yng nghit Cymru.

“Yr hyn sydd hefyd wedi bod yn gam cadarnhaol i ddyfodol ein tîm yw’r holl bobl ifanc sydd gennym yn cystadlu ac yn perfformio’n dda yn eu Gemau’r Gymanwlad cyntaf. Dyma’r athletwyr sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Diolch Birmingham.”

Dywedodd Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae wedi bod yn fraint bod yn Gadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru ar gyfer Birmingham 2022. Roedd yr ymrwymiad a’r ymroddiad a welsom gan yr athletwyr, y campau, a’r staff cymorth wrth baratoi Tîm Cymru a darparu athletwyr o safon ar gyfer y Gemau yn rhagorol. Mae’r ysbryd tîm ar draws yr holl chwaraeon wedi cadarnhau ein ‘agosrwydd’ fel tîm angerddol o Gymru.

“Rydym wedi arwain gyda’n slogan ‘Gorau nod, uchelgais’ ac yn sicr wedi cyrraedd safonau eithriadol – nifer di-rif o oreuon personol, goreuon y tymor, recordiau gemau. Ni allwn lwyddo heb y fyddin o wirfoddolwyr a chefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a phartneriaid allweddol eraill. Mae’n rhaid i mi ddiolch yn arbennig i’r Comisiwn Athletwyr sydd wedi bod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau, gan roi llais cryf i athletwyr yn ein paratoadau ar gyfer Birmingham. Rydym wedi gwerthfawrogi eu hymrwymiad, eu mewnbwn a’u profiad yn fawr dros y pedair blynedd diwethaf. Gemau gwych i Gymru, nawr mae ein golygon ar 2026 yn Victoria.”

Ar ôl cyflawni gorau nod, uchelgais, dathlwyd yr athletwyr mewn digwyddiad i groesawu Tîm Cymru yn ôl yn y Senedd nos Wener, lle cawsant eu cyfarch gan ffrindiau, teulu a chefnogwyr. Roedd y dathliad yn cynnwys areithiau gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Chadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE.  Gweler ein rhestr lawn o enillwyr medalau isod:

Aquatics

Medi Harris Bronze Women’s 100m Backstroke
Lily Rice Bronze Women’s 100m Backstroke S8

Athletics

Olivia Breen Gold Women’s T37/38 100m
Aled Davies Gold Discus Throw F42-44/61-64
Harrison Walsh Bronze Discus Throw F42-44/61-64

Boxing

Taylor Bevan Silver Men’s Over 75kg-80kg (Light Heavyweight)
Ioan Croft Gold Men’s Over 63.5kg-67kg (Welterweight)
Garan Croft Bronze Men’s Over 67kg-71kg (Light Middleweight)
Jake Dodd Bronze Men’s Over 48kg-51kg (Flyweight)
Rosie Eccles Gold Women’s Over 66kg-70kg (Light Middleweight)
Owain Harris-Allan Bronze Men’s Over 51kg-54kg (Bantamweight)

Cycling – Road

Geraint Thomas Bronze Men’s Individual Time Trial

Cycling – Track

James Ball Silver Men’s Tandem B – 1000m Time Trial
James Ball Gold Men’s Tandem B – Sprint
Rhian Edmunds Bronze Women’s Team Sprint
Emma Finucane Bronze Women’s Sprint
Emma Finucane Bronze Women’s Team Sprint
Eluned King Bronze Women’s 25km Points Race
William Roberts Bronze Men’s 15km Scratch Race
Lowri Thomas Bronze Women’s Team Sprint

Gymnastics – Rhythmic

Gemma Frizelle Gold Hoop

Judo

Jasmine Hacker-Jones Bronze Women-63kg
Natalie Powell Silver Women-78kg

Lawn Bowls

Mark Adams Silver Para Mixed Paris B2/B3
Jarrad Breen Gold Men’s Pairs
Owain Dando Bronze Men’s Triples
Gordon Llewellyn Silver Para Mixed Paris B2/B3
Ross Owen Bronze Men’s Triples
Daniel Salmon Gold Men’s Pairs
Julie Thomas Silver Para Mixed Paris B2/B3
Jonathon Tomlinson Bronze Men’s Triples
John Wilson Silver Para Mixed Paris B2/B3

Squash

Joel Makin Silver Men’s Singles

Table Tennis

Charlotte Carey Bronze Women’s Doubles
Anna Hursey Bronze Women’s Doubles
Joshua Stacey Gold Men’s Singles Classes 8-10

Triathlon

Dominic Coy Silver Mixed Team Relay
Iestyn Harrett Silver Mixed Team Relay
Olivia Mathias Silver Mixed Team Relay
Non Stanford Silver Mixed Team Relay