Crynodeb DIWRNOD 11 Tîm Cymru

Tîm Cymru yn gorffen yn gryf

Creu Hanes i Denis Bwrdd Cymru

Deifio

Ein cystadleuwyr olaf ym Mirmingham 2022 oedd Aidan Heslop a Ruby Thorne yn y Deifio 10m cydamserol cymysg. Mae paratoadau wedi bod yn anodd oherwydd i Ruby ddioddef drwm y clust tyllog ac wedi methu â hyfforddi. Er gwaethaf y rhwystr hwn fe lwyddodd y pâr i sicrhau 5 sgôr cadarn gan gynnwys 3 a ½ trosben cefn anhygoel o anodd i orffen yn yr 8fed safle.

Tenis Bwrdd

Llwyddodd Anna a Charlotte i sicrhau medal gyntaf erioed Cymru i Fenywod yn y tenis bwrdd yn y Gemau gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Singapore. 

Enillodd y ddwy o Gymru y ddwy set gyntaf cyn colli’r drydedd. Yn union fel rownd agoriadol Gêm Medal Joshua Stacey fe aeth y gêm yn uwch na’r cyntaf i un ar ddeg i gipio’r pwynt, gyda’r Menywod yn ennill y gêm 16-14. Llwyddodd Charlotte ac Anna i fynd ar y blaen yn y bedwaredd gêm gan sicrhau’r fedal, a chreu hanes i Denis Bwrdd Cymru.