Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Gyda thristwch mawr y daeth y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines

Dywedodd Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:

“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r holl deulu brenhinol ar yr amser trist iawn hwn gyda marwolaeth y Frenhines Elizabeth. Fel Pennaeth y Gymanwlad, a’r teyrn sydd wedi gwasanaethu hiraf, teimlwn y fraint o gael ein harwain gan fenyw mor ysbrydoledig. Roedd Gemau’r Gymanwlad yn agos at ei chalon, yn brawf gwirioneddol o’i hangerdd i’n huno ni’n fyd-eang. Byddwn i gyd yn gweld ei heisiau yn fawr.” 

Meddai Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru:

Trist iawn yw clywed y newyddion trist am Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II. Nid yn unig y bu’n arwain y Wlad gyda’r fath urddas, ond bu’n allweddol wrth lunio’r Gymanwlad, gan weld y Gymanwlad fel teulu, yn rym er daioni ac roedd yn annwyl iawn iddi. Teimlaf y byddai’r Frenhines Elizabeth yn ystyried y Gymanwlad fel ei gwaddol parhaus.