Cyhoeddi lleoliad Tŷ Tîm Cymru!

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi mai gwesty Edgbaston Park Hotel fydd Tŷ Tîm Cymru ar gyfer #B2022

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru’n falch o gyhoeddi mai Edgbaston Park Hotel, sy’n rhan o grŵp Prifysgol Birmingham, fydd tŷ Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022.

Bydd y tŷ yn gartref i athletwyr a staff cymorth Tîm Cymru, yn ogystal ag yn ganolbwynt Cymreig i’n cefnogwyr ymlacio, trafod a gwylio’r athletwyr wrth eu gwaith. Bydd y lleoliad hefyd yn gartref i ganolbwynt cyfryngau Tîm Cymru, gan ddod ag athletwyr i ‘gartref’ Cymru ar gyfer cyfweliadau teledu, radio, podlediadau a chynnwys digidol.

Bydd Tŷ Tîm Cymru ar gael yn hawdd ar droed, ar drafnidiaeth breifat neu gyhoeddus, ac yn ganolog i nifer o’r lleoliadau allweddol, gan gynnwys Prifysgol Birmingham lle bydd y gemau Hoci a Sboncen yn cael eu chwarae, Arena Birmingham a fydd yn cynnal y cystadlaethau artistig a rhythmig, a Chanolfan Dyfrol Sandwell sydd newydd ei hadeiladu, lle cynhelir y cystadlaethau plymio a nofio.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad “Bydd Edgbaston Park Hotel yn lleoliad gwych i Dîm Cymru. Mae’n fodern, yn fywiog ac yn hygyrch – sy’n hanfodol er mwyn dod â chefnogwyr i mewn a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’r tîm. Ar yr Arfordir Aur, bu clwb syrffio Kurrawa yn llwyddiant ysgubol fel Tŷ Tîm Cymru ac rydym yn gobeithio efelychu’r un brwdfrydedd a chefnogaeth yr haf hwn, hyd yn oed y tywydd cynnes! Rydym ni hefyd yn ddigon ffodus o fod â digonedd o dir y tu allan i’r gwesty, a fydd, rwy’n siŵr, yn foethusrwydd i’w groesawu yn ystod cyfnod y Gemau pan fydd Birmingham yn sicr o fod yn brysur iawn gyda chefnogwyr o bob rhan o’r Gymanwlad. Mae’r tîm yn Edgbaston wedi bod yn wych i weithio gyda nhw ac allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am eu lletygarwch ac am ein helpu i greu’r hyn a fydd yn bresenoldeb Cymreig cryf yn Birmingham.”

Mae Edgbaston Park Hotel a agorwyd yn 2018, yn cynnwys adeilad cyfoes gyda 185 o ystafelloedd gwely, 3 fflat â gwasanaeth, bwyty, bar, ac amrywiaeth o gyfleusterau cyfarfod, i gyd mewn lleoliad heddychlon, deiliog ar gampws Prifysgol Birmingham.

Dywedodd Billy Harris, Pennaeth Masnachol Gwesty Edgbaston Park “Rydw i a’r tîm cyfan yng ngwesty Edgbaston Park yn falch iawn o fod yn dŷ swyddogol i Dîm Cymru yn ystod cyfnod Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Chris a’r tîm i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth a phrofiad rhagorol i’r grŵp cyfan yn ystod y cyfle unwaith-mewn-oes hwn ar gyfer ein lleoliad a’n dinas fendigedig.”

I gael cip y tu ôl i’r llenni yn nhŷ Tîm Cymru yn ystod y gemau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn #TîmCymru ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales