Victoria 2026 – Arweinwyr Pentref Tîm Cymru

Gemau’r Gymanwlad Cymru 

Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW) yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am arwain gweithgaredd Chwaraeon y Gymanwlad ar draws Cymru gyfan, a’n haelodau allweddol yw Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru.  

Mae CGW, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, yn cynorthwyo’r chwaraeon unigol gyda’u paratoadau ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad a Gemau’r Gymanwlad. Mae CGW yn dewis tîm Cymru a fydd yn sicrhau’r perfformiad cryfaf i Gymru ac yn arwain y tîm yn y Gemau mewn modd a fydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi’r athletwyr i roi eu perfformiad gorau. 

Mae Cymru a CGW wedi mwynhau llwyddiant digynsail yn y Gemau diweddar. Mae CGW eisiau sicrhau parhad y duedd hon a darparu profiad rhagorol, ysbrydoledig sy’n newid bywyd i’n hathletwyr yn Victoria yn 2026. 

 

Gemau’r Gymanwlad Victoria 2026 

Bydd Gemau’r Gymanwlad 2026 yn cael eu cynnal yn Victoria, Awstralia a dyma’r rhai cyntaf i gael eu cynnal ar draws rhanbarth yn hytrach nag mewn un brif ddinas. Bydd 5 canolfan ranbarthol a fydd yn cynnal digwyddiadau ar draws yr 20 o chwaraeon sy’n rhan o raglen y Gemau. Bydd Pedwar Pentref Athletwyr yn gartref i’r athletwyr yn ystod eu hamser yn y Gemau. 

 

Y Rôl 

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn ceisio penodi 4 Arweinydd Pentref i reoli Tîm Cymru o fewn y 4 Pentref Athletwyr. Bydd yr unigolion hyn yn gyfrifol am reoli’r gwaith o redeg o ddydd i ddydd eu Pentref priodol o safbwynt Tîm Cymru. Bydd hyn yn cynnwys rheoli’r holl weithrediadau a’r staff yn eu Pentref. 

Bydd Arweinwyr y Pentref yn rhan allweddol o Uwch Dîm Rheoli Tîm Cymru yn y Gemau gan greu amgylchedd ysbrydoledig sy’n galluogi’r athletwyr a’r tîm i berfformio ar eu gorau. 

 

Ymrwymiad amser 

Tua un cyfarfod bob chwarter yn ystod y cyfnod cynllunio cychwynnol o fis Medi 2023 i fis Awst 2024. Bydd hyn yn cynyddu i un cyfarfod y mis dros y 12 mis dilynol ac yn dod yn amlach yn y misoedd yn union cyn y Gemau. Bydd hefyd angen cyfnod parhaus o fod ar gael rhwng y 5 a’r 31 Mawrth 2026 i fynd i’r Gemau yn Victoria.  

 

Cyflog 

Mae rôl Arweinydd y Pentref yn swydd wirfoddol. Bydd treuliau priodol yn cael eu had-dalu. 

 

I wneud cais      

E-bostiwch lythyr eglurhaol a CV at Matt Cosgrove, Pennaeth Gweithrediadau Gemau, Gemau’r Gymanwlad Cymru at matt.cosgrove@teamwales.cymru 

Gellir lawrlwytho’r disgrifiad swydd llawn yma: Gweithio Gyda Ni | Team Wales

 

Dyddiad Cau 

Dydd Gwener 07/07/2023, 5pm