Cyhoeddiad Tîm Athletau Cymru

Tîm Cymru yn cyhoeddi Tîm Athletau Trinbago 2023

Heddiw, mae Tîm Cymru yn cyhoeddi’r athletwyr a ddewiswyd fel rhan o’r tîm Athletau ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, a gynhelir yng nghenedl dwy ynys Trinidad a Tobago o’r 4 -11 Awst yr haf hwn.

Bydd gan Athletau 11 o gystadleuwyr ymhlith y tîm o 40 o athletwyr ac 20 o staff cymorth a fydd yn cystadlu ar draws pedair camp; Athletau, Nofio, Rygbi Saith-bob-ochr Merched a Seiclo.

Ymhlith yr 11 athletwr bydd 4 para-athletwr, gyda Phara-athletau’n cael eu cynnwys yn y rhaglen chwaraeon am y tro cyntaf yn hanes Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.

Dywedodd Arweinydd Tîm Athletau Cymru Trinbago Rhys Williams ‘Mae’n anrhydedd mawr i fod yn Arweinydd Tîm Athletau Cymru sy’n cymryd rhan yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad. Fel staff, byddwn yn sicrhau bod ein hathletwyr yn cyrraedd y Gemau gyda’r paratoad gorau posibl, er mwyn sicrhau llwyddiant.

Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn ddigwyddiad allweddol ar Lwybr Talent Athletau Cymru, lle byddan nhw’n ennill profiad gwerthfawr tuag at ddigwyddiadau Pencampwriaethau hŷn yn y dyfodol.

Fel cyn athletwr fy hun, daeth rhai o fy mhrofiadau mwyaf pleserus o gystadlu mewn Pencampwriaethau Mawr a does gen i fawr o amheuaeth y bydd ein hathletwyr yn cael profiad gwych yn cystadlu ar y lefel uchaf dros eu gwlad.

Bydd mwy na 1,000 o athletwyr a phara-athletwyr rhwng 14 -18 oed ar draws y 72 o genhedloedd a thiriogaethau o amgylch y Gymanwlad yn cystadlu ar draws 7 camp yn y Gemau yr haf hwn;

Campau Dŵr (Nofio), Athletau ac Para-athletau, Seiclo (Rasys Ffordd, Treialon Amser a Thrac) a Triathlon, yn ogystal â Pêl-rwyd FAST5, Rygbi Saith-bob-ochr a Phêl-foli Traeth.

Ychwanegodd Chris Type, Pennaeth Perfformiad Athletau Cymru ‘Mae Tîm Cymru wedi dewis carfan gref o athletwyr ifanc i gystadlu yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago. Mae hyn

yn dyst i’r athletwyr talentog a’r hyfforddwyr gweithgar sydd wedi cyrraedd y gemau yn erbyn safonau cymhwyso uchel iawn. Mae hwn yn gyfle datblygu gwych i’r athletwyr a fydd yn eu gosod ar lwybr llwyddiant yn y dyfodol.’

Ers ei lansio yn 2000, mae’r Gemau Ieuenctid wedi parhau i dyfu i ddarparu cyfle unigryw i brofi chwaraeon elît ar y llwyfan rhyngwladol, hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu cyfeillgarwch gydol oes ar draws y Gymanwlad.

Yn y Gemau Ieuenctid diwethaf yn y Bahamas 2017, daeth Tîm Cymru â 13 medal adref ar draws chwe champ, gyda’r taflwr pwysau Sarah Omoregie yn ennill arian ac yn gosod record Prydain Dan18 newydd o 16.74m, tra bod James Tomlinson hefyd wedi ennill arian yn y ddisgen.

Ychwanegodd Llywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE, ‘Hoffwn longyfarch pob un o’r 11 athletwr am gael eu dewis. Mae’r Gemau Ieuenctid yn gyfle gwych i gystadlu ar lwyfan rhyngwladol mawr ac arddangos y talent sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae hefyd yn gam pwysig o fewn y Gemau Ieuenctid i gynnwys para-chwaraeon yn y rhaglen gystadlu. Rydym yn hynod falch o gael pedwar para-athletwr wedi eu cynnwys yn y tîm. Rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw ac yn edrych ymlaen at ddilyn yr athletwyr wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith Gymanwlad yr haf hwn.’

Cyflwyno Tîm Athletau Cymru

Joseph Berry: Men’s 100m, Men’s 200m & 4x100m Relay Mixed

Lewis Stephens: Men’s 100m & 4x100m Relay Mixed

Zico Jones: Men’s 400m

Joseph Rees: Gara Men’s 1500m

Sophie Lisk: Women’s 100m Hurdles & 4x100m Relay Mixed

Storm Evans: Women’s Discus

Jessica Lee: Women’s Long jump & 4x100m Relay Mixed

 

Para-athletics

Ashton Fish: Men’s 100m – T38

Mia Lloyd: Women’s Discus Throw – F42-44/F61-64

William Bishop: Men’s Long Jump – T38

Tomi Roberts-Jones: Men’s 100m – T38 and Men’s Long Jump – T38