1000 DIWRNOD I FYND

Bydd Gemau 2026 yn cychwyn ymhen 1000 o ddiwrnodau ar draws Talaith Victoria 

 

Bydd Tîm Cymru yn teithio i Awstralia ym mis Mawrth 2026 ar gyfer y 23ain Gemau, fydd yn dechrau gyda digwyddiad nodedig ar gyfer y Seremoni Agoriadol a gynhelir ar Faes Criced byd-enwog Melbourne, cyn cychwyn ar y rhaglen chwaraeon y diwrnod canlynol, a hynny mewn lleoliadau ar draws Talaith Victoria. 

Dywedodd Llywydd GGC, Helen Phillips MBE ‘Mae 1000 o ddiwrnodau i fynd yn garreg filltir bwysig sy’n galluogi athletwyr, swyddogion a chwaraeon i ganolbwyntio ar yr hyn a fydd yn Gemau Cymanwlad unigryw yn Victoria. Mae’n wych gallu adeiladu momentwm ar gyfer y Gemau, ac mae’n siŵr y bydd y ddwy flynedd a hanner nesaf yn hedfan yn gyflym iawn. 

Mae croeso cynnes i Dîm Cymru yn Awstralia bob amser ac mae ein perfformiadau ar ac oddi ar y cae wedi eu canmol bob tro. Gold Coast 2018 oedd ein perfformiad gorau erioed oddi cartref ac roedd Melbourne yn 2006 yn enghraifft arall o ddigwyddiad rhagorol lle bu i ni ragori ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr a chymunedau gartref. 

Mae profiad ein hathletwyr yn parhau i fod yn ganolog i’n cynllunio a thrwy gomisiwn ein hathletwyr ac arbenigedd ein hathletwyr ar y bwrdd byddant yn cael dylanwad enfawr ar ein paratoadau ar gyfer y gemau; mae hyn yn rhywbeth rydym yn falch bod ein bwrdd newydd yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo.” 

Gemau’r Gymanwlad Victoria 2026, a gynhelir rhwng Mawrth 17-29, fydd y tro cyntaf yn hanes y Gymanwlad i’r digwyddiad aml-chwaraeon gael ei gynnal ar draws Gwladwriaeth; Geelong, Ballarat, Bendigo, Gippsland a Shepparton, a thra bydd y Seremoni Agoriadol yn cael ei chynnal ym Melbourne, cynhelir y Seremoni Gloi ysblennydd ym Mharc Kardinia yn Geelong. 

Aeth y Pennaeth Gweithrediadau Matt Cosgrove a’r Pennaeth Ymgysylltu Cathy Williams draw i Victoria yn gynharach eleni fel rhan o’u rhagchwiliad o’r safle, gan dreulio amser gwerthfawr ar lawr gwlad gyda’r Pwyllgor Trefnu, ac ymweld â lleoliadau’r cystadlaethau a lleoliadau pentrefi’r athletwyr ar draws pob dinas.  

Rhoddodd yr ymweliad gyfle hefyd i’r tîm ddod o hyd i lety ychwanegol ar gyfer staff cymorth, lleoliadau posibl ar gyfer digwyddiadau Tîm Cymru a chafwyd croeso cynnes iawn gan y gymuned Gymraeg leol. 

Bydd y pum hwb rhanbarthol yn cynnal 20 o chwaraeon a 9 para-chwaraeon, sef y nifer uchaf erioed, gyda Golff a Rhwyfo Arfordirol yn ymddangos am y tro cyntaf yn rhaglen chwaraeon y Gymanwlad yn ystod y 12 diwrnod o gystadlu. 

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, ‘Mae gweld drosoch chi eich hun y gwaith sy’n mynd i mewn i baratoi tîm ar gyfer Gemau yn syfrdanol ac mae’r tîm yn gweithio’n galed iawn i wneud y rhain yn Gemau i’w cofio. 

Mae Victoria 2026 yn gyfluniad gwahanol iawn i Gemau blaenorol, ac edrychwn ymlaen at greu’r awyrgylch gorau posibl er mwyn i’n hathletwyr berfformio ar eu gorau. Rydym hefyd yn creu ein Strategaeth ar gyfer dyfodol Tîm Cymru ac yn edrych ymlaen at rannu hyn gyda chi yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae’n gyfnod cyffrous i ni fel Cenedl.’ 

Ffocws Tîm Cymru dros y flwyddyn nesaf fydd sicrhau cludiant, llety, dillad hamdden, a pharhau i gefnogi’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol gyda’u cynllunio a’u paratoadau er mwyn creu profiad bythgofiadwy o’r Gemau i athletwyr Tîm Cymru.