Urdd choir to sing for Team Wales!
Mae ein partneriaeth â'r Urdd yn parhau i dyfu ac rydyn ni’n falch iawn o ddod at ein gilydd unwaith eto i arddangos talent ein hieuenctid ar draws y Gymanwlad.
Mae Eisteddfod yr Urdd 2022 yn ŵyl ddiwylliannol flynyddol sy'n darparu llwyfan cenedlaethol i ieuenctid Cymru ym maes cerddoriaeth. Bydd cystadleuaeth y Côr ar gyfer Côr S.A.T.B. 14–25 oed (Aelwydydd), a allai ennill y cyfle i ganu i Dîm Cymru yr haf nesaf.
Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu, Gemau'r Gymanwlad Cymru:
"Dyma gyfle gwych arall i ni ddod â'r Urdd a Thîm Cymru at ei gilydd, gan roi cyfleoedd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf drwy ddigwyddiadau, fel canu a chwaraeon. Haf nesaf, mae angen i bawb yng Nghymru gefnogi ein hathletwyr yn Birmingham.
"Gemau'r Gymanwlad yw'r digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf lle mae'r athletwyr gorau yng Nghymru yn cystadlu ar lwyfan byd-eang yn erbyn 72 o wledydd a thiriogaethau ar draws y Gymanwlad. Yn y digwyddiad diwethaf yn Yr Arfordir Aur yn 2018 daeth Tîm Cymru adref gyda 36 medal, sef y nifer uchaf erioed, gan gynnwys 10 medal Aur. Mae Tîm Cymru yn edrych ymlaen at groesawu'r côr buddugol i fod yn rhan o'r paratoadau a’r dathliadau yn ystod haf 2022."
Dywedodd Sian Lewis Prif Swyddog Gweithredol o'r Urdd:
“Rydym ni’n falch iawn o fod yn bartneriaid i Dîm Cymru ar gyfer gemau 2022 y Gymanwlad. Bydd hwn yn gyfle gwych i'n pobl ifanc fod yn rhan o'r gemau ac rwy'n annog y rhai sydd â diddordeb i gael golwg ar rest testunau Eisteddfod yr Urdd a mynd amdani! Mae'n bwysig iawn i'r Urdd gael partneriaid fel Tîm Cymru oherwydd gyda’n gilydd, nid oes ffordd well o gyrraedd ac ysbrydoli pobl ifanc ym mhob cwr o Gymru.”
Mae hwn yn gyfle hynod gyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi dros y misoedd nesaf.