WE’VE BEEN HANGING OUT IN BIRMINGHAM!

Sut mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer #B2022? Dewch i weld…

 

Ar ddechrau mis Medi, cawsom wahoddiad i Firmingham ar gyfer diweddariadau arwyddocaol am y Gemau, ac i weld y cynnydd anhygoel a wnaed yn ystod yr haf.

Gan gwrdd â thîm ehangach #B2022, roedd y trip 3 niwrnod i ganolbarth Lloegr yn cynnwys ymweliad â Stadiwm Alexander – sef cartref y seremonïau agoriadol a chlo; nifer o sesiynau cynllunio a diweddariadau lle cawsom gyfle i gwrdd â wynebau cyfarwydd o bob cwr o’r Gymanwlad, heb sôn am gyfarfod masgot swyddogol Birmingham – tarw o’r enw Perry the Bull!

Yn ystod y pandemig, bu’n rhaid i’n paratoadau gael eu gwneud o bell, felly roedd y cyfle i ymweld â’r pentrefi a’r lleoliadau go iawn wedi’n cyffroi yn arw ar gyfer chwaraeon yr haf nesaf.

Cynrychiolwyr Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ar gyfer #B2022 oedd ein Chef de Mission, Nicki Phillips; ein Prif Weithredwr, Chris Jenkins; a Phennaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu, Cathy Williams.

Dywedodd Nicki Phillips am yr ymweliad:

“Rydym wedi cael tridiau cynhyrchiol iawn yma ym Mirmingham.  Rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael mynd o amgylch yr ardal fel tîm ac ymuno gyda rhai gwledydd eraill wrth iddynt ymweld â’r lleoliadau.

“Mae wedi bod yn dda cael cyfarfodydd ar-lein a gallu gweld pawb ar fideo, ond mae’n wych gallu cerdded o amgylch y safleoedd.  Mae’n hynod o werthfawr gan ein bod yn medru cael darlun clir o sut fydd y Gemau’n edrych yr haf nesaf.

“Mi fydd y gemau yma cyn i ni sylweddoli, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Gallwch weld y gwaith paratoi anhygoel y mae tîm Birmingham wedi ei wneud.”

Ydych chi'n edrych ymlaen cymaint â ni?  Cewch hyd i amserlen ddiweddaraf y cystadlaethau ar gyfer Gemau Birmingham 2022 trwy glicio yma.

Mae’n saff i ddweud.. ein bod wedi dechrau cyfri’r diwrnodau tan #B2022! Welwn ni chi yno…