The Queen officially launches the Birmingham 2022 Queen’s Baton Relay at Buckingham Palace

Mynychodd y Frenhines, ynghyd ag Iarll Wessex, seremoni arbennig ar flaen-gwrt y Palas i lansio'r 16fed Taith swyddogol Baton y Frenhines. Yn ymuno â nhw roedd rhai o gludwyr y baton, yn cynnwys athletwyr a fydd yn cystadlu yng Ngemau'r flwyddyn nesaf, cludwyr baneri ifanc o Orllewin Canolbarth Lloegr, Arwyr Lleol Birmingham 2022 a chynrychiolwyr o bob rhan o'r Gymanwlad.

Mae Taith Baton y Frenhines yn draddodiad sy'n dathlu, yn cysylltu ac yn cyffroi cymunedau o bob rhan o'r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Bydd Baton y Frenhines yn awr yn ymweld â phob un o 72 o wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad am 294 diwrnod, gan deithio 140,000 cilometr. Bydd y daith fyd-eang yn dod i ben yn Seremoni Agoriadol Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf 2022.

Cyflwynwyd y Baton i Balas Buckingham ar ôl cael ei gario o’r Horse Guards Parade ac i lawr y Mall gan Arwyr Lleol Birmingham 2022, hyrwyddwyr chwaraeon ar lawr gwlad yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ynghyd â band milwrol Tri-Gwasanaeth. Daeth un o’r Arwyr Lleol, Kevin Dillon, hyfforddwr bocsio o Brierley Hill, â'r Baton i'r llwyfan, gan nodi dechrau'r seremoni.

Cyfarfu’r Frenhines ac Iarll Wessex, Noddwr ac Is-Noddwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn eu tro, â dylunwyr a chynhyrchwyr y Baton, a ddadorchuddiwyd yn Birmingham yr wythnos diwethaf. Crëwyd y Baton mewn cydweithrediad yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr gan asio celf, technoleg a gwyddoniaeth. Wedi'i wneud o gopr, alwminiwm a dur, mae'r Baton hefyd yn cynnwys llinyn platinwm yn deyrnged i'w Mawrhydi y Frenhines yn ei blwyddyn Jiwbilî Platinwm.  Mae ganddo hefyd dechnoleg arloesol; Camera 360 gradd, monitor cyfradd y galon, synwyryddion atmosfferig a goleuadau LED.

Ymunodd y Fonesig Louise Martin DBE, Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, a Chadeirydd Pwyllgor Trefnu Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022, Arglwydd Raglaw Gorllewin Canolbarth Lloegr, John Crabtree OBE, hefyd â’r Frenhines yn y parti seremonïol.

Cariwyd neges Ei Mawrhydi i’r llwyfan gan Haseebah Abdullah, Arwr Lleol arall, a’r hyfforddwr bocsio cyntaf yn Lloegr i fod yn gwisgo hijab. Yna gosododd y Frenhines Ei neges i'r Gymanwlad yn y Baton, er mwyn iddi gael ei selio a'i chloi. Bydd neges y Frenhines yn cael ei darllen yn llawn y flwyddyn nesaf yn Seremoni Agoriadol Birmingham 2022.

Cafodd Kadeena Cox, sydd wedi ennill medal aur Paralympaidd bedair gwaith, y fraint o fod y person cyntaf i dderbyn y Baton gan y Frenhines, gan nodi dechrau swyddogol 16fed Taith Baton y Frenhines. Yna fe'i trosglwyddwyd i chwaraewr sboncen Tîm Lloegr, Declan James a bocsiwr Tîm Cymru Lauren Price a oedd wedi eu lleoli ger Cofeb y Frenhines Fictoria.

Ymhlith y rhai eraill i gario’r Faton yn y seremoni roedd athletwyr o Dîm Lloegr a'r gymnast artistig Alice Kinsella, chwaraewr hoci Tîm yr Alban Sarah Robertson, a'r seiclwr o Dîm Gogledd Iwerddon, Mark Downey. 

Roedd dros 70 o bobl ifanc o Birmingham ar y llwyfan ac yn dal baneri o holl genhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad. Roedd y cludwyr y baneri yn aelodau o Fwrdd Dinas Ieuenctid Cyngor Dinas Birmingham, ynghyd â thros 50 o unigolion o ysgol Wilson Stuart, CORE Academy, ysgol Hall Green ac ysgol Kind Enward VI Handsworth.

Roedd y seremoni, a gyflwynwyd gan gyflwynydd y BBC Asian Network, Noreen Khan, yn cynnwys perfformiadau gan grŵp acapella o Birmingham, Black Voices, perfformiad wedi'i ffrydio'n fyw gan Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, a pherfformiodd Casey Bailey, Bardd Birmingham 2022 ac aelod o Bwyllgor Etifeddiaeth a Buddion Birmingham gerdd o'r enw "Take It On" a ysgrifennwyd ganddo.

Roedd masgot swyddogol Birmingham 2022, Perry, oedd yn gwisgo ei siwt bwrpasol yn hytrach na'i wisg pêl-fasged ar gyfer yr achlysur, hefyd mewn hwyliau da yn y seremoni.

Dywedodd Arglwydd Raglaw Gorllewin Canolbarth Lloegr, John Crabtree OBE, Cadeirydd Birmingham 2022: "Bydd Taith Baton y Frenhines yn cyfleu neges o obaith ac ysbrydoliaeth a bydd yn cysylltu pobl o bob rhan o'r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau ac wrth i ni geisio dathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae'r daith hon yn hyrwyddo gwyrth gwahaniaeth, unigolrwydd y ddynoliaeth, ac eto'n siarad â chydweithrediad cyfunol cymuned fyd-eang.

 

"Bydd Gemau Birmingham 2022 yn Gemau i bawb, a dim ond un enghraifft o hynny yw Taith Baton y Frenhines.  Byddwn yn dod at ein gilydd gan herio pŵer trawsnewidiol chwaraeon i uno pob un ohonom.   Mae heddiw wedi bod yn ddathliad gwych ar gyfer lansio Taith Baton y Frenhines, a bydd yn wefr ac yn fraint cael dilyn y Baton ar ei daith ac i glywed straeon yr holl bobl y bydd yn dod ar eu traws ac yn eu cyfareddu.”

Dywedodd Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, y Fonesig Louise Martin DBE: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y foment arbennig hon o'r diwedd, sef lansio Taith Baton y Frenhines, Birmingham 2022!

"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn i Chwaraeon y Gymanwlad wrth i neges Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ymweld â 72 gwlad a thiriogaeth yn y Baton unigryw hwn. Gan deithio am 294 diwrnod, a chwmpasu 140,000 cilometr, mae Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle i Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr arddangos ei hun ar raddfa fyd-eang.

"Mae'n nodi'r paratoadau olaf cyn Seremoni Agoriadol Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf ac mae'n rhoi gobaith, cytgord a chydweithredu ar draws y Gymanwlad ar adeg pan fo ei angen fwyaf."

Dywedodd Kadeena Cox, enillydd medal aur Paralympaidd bedair gwaith, ac un o’r rhai fu’n cludo’r baton: "Roedd yn anrhydedd llwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad unwaith mewn oes hwn. Roedd derbyn Baton y Frenhines gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn foment y byddaf yn cadw gyda mi am weddill fy oes. Roedd hefyd yn fraint rhannu'r foment arbennig hon ochr yn ochr â chwe athletwr anhygoel arall o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae mor gyffrous meddwl y bydd y Baton hwn nawr yn teithio ar draws y Gymanwlad, lle bydd unigolion ysbrydoledig eraill yn ei gario yn eu cymunedau eu hunain." 

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:

"Mae Taith Baton y Frenhines bob amser yn gyfnod cyffrous yng nghalendr y Gymanwlad wrth i'n cenhedloedd ddod at ei gilydd unwaith eto i nodi'r paratoadau olaf cyn Gemau eraill, yr ydyn ni’n edrych ymlaen atyn nhw’n fawr.

“Cynhaliwyd Taith Baton y Frenhines gyntaf erioed yma yng Nghymru ym 1958, pan gynhaliwyd y Gemau yng Nghaerdydd. Roedd hyn, wrth gwrs, yn anrhydedd enfawr a byth ers hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld Baton y Frenhines yn dychwelyd i Gymru.

“Nid yn unig y mae hwn yn bwynt allweddol yng nghalendr y Gemau, ond mae'n bwysig iawn i ni allu teithio ar draws y wlad ac ymgysylltu â chymunedau, trefi, clybiau ac ysgolion. Mae'n gyfle perffaith i ni i gyd uno ac er y bydd Taith Baton y Frenhines ychydig yn wahanol yn dilyn y pandemig, bydd yn sicr yn arbennig iawn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Taith Baton y Frenhines i Gymru'r flwyddyn nesaf."

Dywedodd Lauren Price, pencampwr Gemau’r Gymanwlad 2018 a Gemau Olympaidd 2021, a fydd yn cludo’r baton dros Gymru: "Ni all geiriau ddisgrifio sut mae'n teimlo i fod yn rhan o Daith Baton y Frenhines 2022 ac i fod y person cyntaf i gario’r baton i Gymru. Mae hwn yn foment mor arbennig i mi ac mae wir yn rhoi persbectif o ran cymaint y mae pawb yn edrych ymlaen at Gemau'r flwyddyn nesaf yn Birmingham. Er mod i yma heddiw, alla i ddim aros i'r Baton wneud y cylch llawn a chyrraedd Cymru'n swyddogol cyn ei stop olaf yn Birmingham, mewn pryd ar gyfer y seremoni agoriadol! Mae dyfodiad y Baton bob amser yn ddigwyddiad o bwys ac ni allaf aros i'n gwlad ddod at ei gilydd a dathlu mewn steil."

Dywedodd Nigel Huddleston, y Gweinidog dros Chwaraeon a Gemau'r Gymanwlad: "Mae Taith Baton y Frenhines yn nodi'r paratoadau olaf ar gyfer y digwyddiad chwaraeon mwyaf a mwyaf cyffrous yn hanes Birmingham. Nid yn unig y bydd Gemau'r Gymanwlad yn rhoi Gorllewin Canolbarth Lloegr ar y llwyfan byd-eang, bydd yn arddangos arbenigedd y DU o ran cynnal digwyddiadau rhyngwladol ysbrydoledig a chynhwysol.

"Bydd 2022 yn flwyddyn gyffrous o ddathlu i'n gwlad gyda'r Gemau, Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines a Gŵyl y DU* 2022 i gyd yn digwydd. Mae'r baton yn cynrychioli dechrau hyn, a bydd yn teithio drwy 72 o wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad. Rwy'n edrych ymlaen at i’r daith gysylltu cymunedau ledled y byd ac annog pobl i gymryd rhan yn y Gemau, gan gynnwys y genhedlaeth nesaf o arwyr chwaraeon."

Dywedodd y Cynghorydd Ian Ward, Arweinydd Cyngor Dinas Birmingham: “Mae'n anrhydedd bod yn bresennol wrth i'r Baton ddechrau ar ei daith i bob rhan o'r Gymanwlad. Mae'r Daith yn gyfle gwych i Birmingham arddangos popeth sy'n wych am y ddinas wrth i gyffro a diddordeb gynyddu cyn y Gemau. Mae'n symbol o gryfderau a rhinweddau'r ddinas a'r Gymanwlad – gan ein helpu i hyrwyddo menter Birmingham yn gadarnhaol i biliynau o bobl cyn iddo ddod yn ôl adref yr haf nesaf."

Yfory, bydd y Baton yn mynd i Faes Awyr Birmingham cyn gadael am Cyprus – cyrchfan cyntaf Taith Baton y Frenhines.  O'r fan hon, bydd yn ymweld â 70 gwlad a thiriogaeth arall y Gymanwlad, cyn teithio ar hyd a lled Lloegr ar y ffordd i'w chyrchfan olaf – Seremoni Agoriadol Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022.

Bydd Birmingham 2022 yn croesawu 4,500 o athletwyr o 72 gwlad a thiriogaeth am 11 diwrnod o chwaraeon gwych, o 28 Gorffennaf – 8 Awst 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am Daith Baton y Frenhines ac i ddilyn taith y Baton, ewch i birmingham2022.com/qbr