Triple Paralympic champion Aled Sion Davies changes tactics to be in with a chance of representing Team Wales at Birmingham 2022

Mae'r athletwr paralympaidd Aled Sion Davies yn anelu am lwyddiant yn Birmingham 2022 wrth i'w angerdd fel Cymro balch gadw Gemau'r Gymanwlad yn agos iawn at ei galon.

Llwyddodd y pencampwr o Ben-y-bont ar Ogwr i gipio’r fedal aur yng nghystadleuaeth y ddisgen F42 yn Llundain yn 2012, y brif wobr yng nghystadleuaeth taflu pwysau F42 yn Rio yn 2016, ac yn fwyaf diweddar taflu pwysau F63 yn Tokyo yn 2020. Taflu pwysau fu ei brif ffocws dros y pedair blynedd diwethaf ond mae'n newid disgyblaethau er mwyn bod â chyfle i gynrychioli Tîm Cymru gan fod Birmingham wedi cynnwys categori disgen F42 yng nghalendr athletau'r Gemau.

"Rydw i wedi cael gwybod bod gen i gyfle arall, rydw i wedi cyffroi’n lân. Mae yna ddigwyddiad disgen i mi yn y Gymanwlad. Rydw i wedi bod yn daflwr pwysau proffesiynol ers 2016, a dim ond yn ymhél â’r ddisgen ond dyna oedd fy nigwyddiad athletau cyntaf, dyma lle mae fy nghalon i.

Does dim llawer o gyfleoedd i mi daflu’r ddisgen rhagor – dydw i ddim hyd yn oed wedi ei daflu ers pedair blynedd, felly ydw, dwi nôl yn hyfforddi ac yn teimlo'n dda!"

Dywedodd Nicola Philips, Chef de Mission Tîm Cymru;

“Mae'n newyddion gwych bod Aled yn gobeithio am le yn Nhîm Cymru yr haf nesaf. Mae hyn yn pwysleisio angerdd a balchder athletwyr Cymru wrth gynrychioli eu gwlad. Mae cael rhywun fel Aled sydd newydd ddod yn ôl o'r Gemau Paralympaidd gydag aur arall yn enghraifft wych o athletwr o'r safon uchaf yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gael gwisgo crys Cymru, ac yn achos Aled mae hynny'n golygu newid disgyblaethau ar ôl 4 blynedd, sy'n rhyfeddol. Rydyn ni yn Nhîm Cymru yn dymuno pob lwc i Aled a'r holl athletwyr sydd ar y rhestr hir ar hyn o bryd dros y misoedd nesaf'.

Mae'r cymhelliant a'r angerdd sy'n sbarduno Aled i gystadlu yn amlwg;

"I mi, mae’n syml. Fyddai dim ots gen i sut – os oes cyfle i fi wisgo fest Cymru a chystadlu dros fy ngwlad, fe wna i ei gymryd!

Alla i ddim aros i gael cyfle arall i roi cynnig ar hyn fel anifail gwahanol nawr, fel athletwr gwahanol – mae gen i lawer o brofiad, rwy'n edrych ymlaen yn fawr!"

Meddai Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru;

“Rhaid i ni beidio ag anghofio cymaint o athletwr anhygoel yw Aled. Mae'n daflwr aruthrol ac rydyn ni i gyd wedi cyffroi’n fawr o glywed ei fod yn gobeithio ennill ei le yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham y flwyddyn nesaf, yn enwedig gwisgo lliw coch Cymru."  

Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru;

"Mae Aled yn Gymro balch, ac er y llwyddiant ysgubol a gafodd mewn fest Prydain, rwy'n siŵr y bydd am gael dathlu medal aur yn fest Tîm Cymru a chlywed Anthem Genedlaethol Cymru yn chwarae yn Birmingham y flwyddyn nesaf. Mae carfan gref iawn o daflwyr abl a phara yng Nghymru, felly rwy'n siŵr y bydd Aled yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau ei le dros y 6 mis nesaf."

 Mae angen i Aled ennill ei le i gael ei ddewis o hyd, ond mae'n teimlo'n hyderus iawn;

"Rwy'n frwdfrydig iawn oherwydd dydw i ddim wedi colli ers amser hir nawr ac mae’n rhaid i fi ennill fy lle yn ffurfiol a chymhwyso er mwyn bod yn rhan o Dîm Cymru a chael fy hun ymhlith y safleoedd, ond ar yr un pryd rwy’n cael y cyfle i fod ymhlith y medalau yna ac rwy’n hyderus iawn, iawn!”

Yn lansio heddiw, gydag Aled Sion Davies fel y gwestai cyntaf, mae cyfres podlediad newydd sbon Tîm Cymru ar Apple a Spotify. Bydd y gyfres yn clywed straeon bywyd athletwyr eiconig Gemau’r Gymanwlad Cymru, gan ddilyn eu taith wrth iddynt geisio gwireddu eu huchelgeisiau.