Team Wales Media Team

Mae Tîm Cymru wedi penodi Tîm Cyfryngau o unigolion profiadol a thalentog i helpu i godi ymwybyddiaeth o Dîm Cymru a’u cefnogi wrth iddynt baratoi ar gyfer cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.

Mae gan y tîm o chwech sgiliau amrywiol er mwyn cwmpasu ystod eang o ddyletswyddau yn ymwneud â’r cyfryngau a’r wasg, o reoli athletwyr, creu cynnwys, cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus. Byddant yn cefnogi’r Pennaeth Cyfathrebu, Cyfryngau ac Ymgysylltu, Cathy Williams, yn y cyfnod cyn y gemau, yn ogystal â chynllunio, cyflwyno a monitro ymgyrchoedd cyfathrebu aml-blatfform ar gyfer y tîm mewnol, y cyfryngau a’r cyhoedd yn Birmingham.

"Mae’n fraint cyflwyno ein tîm cyfryngau ar gyfer Birmingham 2022. Mae’n hanfodol bwysig bod gennym y sgiliau cywir i sicrhau y gallwn greu digon o gynnwys cyffrous ar draws ein platfformau. Ein nod yw cynyddu proffil pob camp a’r athletwyr unigol. Dyma eu moment ac rydym yma i'w cefnogi ar eu taith. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n tîm cyfryngau dros y misoedd nesaf a pharhau i adeiladu ar ein hymgyrch – Gorau nod, uchelgais." Cathy Williams

Dewch i gwrdd â’r tîm!

Rachael Tucker

Graddiodd Rachael Tucker o Brifysgol Abertawe gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ac, yn ddiweddar, mae hi wedi cofrestru ar gwrs MA Cyfathrebu ym myd Chwaraeon a Newyddiaduraeth. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ochr yn ochr â thîm cyfryngau Abertawe i helpu i gyflwyno cynnwys ar bob platfform, a chyn hynny bu’n gweithio i Glwb Pêl-droed Rhydaman.

Jo Penrose

Mae Jo Penrose yn astudio ar gyfer gradd meistr mewn Darlledu ym myd Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’n gobeithio bod yn newyddiadurwr darlledu ym myd chwaraeon, gyda diddordeb penodol mewn cyflwyno a gohebu. Mae’n mwynhau gwylio ystod eang o chwaraeon byw, gan gynnwys athletau, tenis a rygbi – ac mae’n chwarae rygbi cyffwrdd.

Sydney Davies

Dyhead Sydney Davies yw bod yn newyddiadurwr, ac ar hyn o bryd mae’n mwynhau blwyddyn i ffwrdd cyn dechrau ar ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Durham. Mae hi’n angerddol iawn dros faterion cyfoes a chwaraeon Cymru.

Murry Toms

Mae Murry yn berson amryddawn ac yn cymryd rhan yn ei wythfed twrnamaint mawr ar ôl ymuno â’r tîm fel swyddog y wasg yn yr Arfordir Aur. Mae hefyd yn gyfarwyddwr yng Nghlwb Pêl-droed Cheltenham, gan arwain ei sianeli cyfathrebu a’r cyfryngau, ac mae’n un o sylfaenwyr Crowdfunder UK lle mae’n gweithio gyda’i bartneriaid chwaraeon i gefnogi clybiau proffesiynol a rhai ar lawr gwlad.

Jess Magness

Mae Jess wedi bod yn rhan o griw Tîm Cymru ers sawl blwyddyn a gwirfoddolodd yn Glasgow yn 2014 a’r Arfordir Aur yn 2018. Mae’n ymgynghorydd marchnata a chyfathrebu ac mae hi wedi gweithio ar ystod eang o ymgyrchoedd proffil uchel.

Lowri Jacob

Mae Lowri Jacob yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw lle mae’n astudio Newyddiaduriaeth Chwaraeon. Ers gweithio’n rhan-amser i Rygbi Caerdydd am y pedair blynedd diwethaf, mae hi wedi datblygu angerdd a diddordeb yn y sector cyfathrebu a marchnata ym myd chwaraeon. Mae ganddi hefyd interniaeth yn y cyfryngau yn Rygbi Caerdydd ac mae’n gweithio’n llawrydd i BBC Radio Cymru/Radio Wales.

Dilynwch daith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales