Trinidad and Tobago to host 2021 Commonwealth Youth Games

Bydd Trinidad a Thobago yn cynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021 ar ôl cael eu dewis i groesawu'r digwyddiad aml-chwaraeon gan Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad heddiw.

Roedd Trinidad a Thobago yn cystadlu yn erbyn Gibraltar i ennill yr hawl i lwyfannu'r gystadleuaeth, a chafwyd canmoliaeth gan Gomisiwn Gwerthuso Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad i Gymdeithasau Gemau'r Gymanwlad y ddwy wlad fel ymgeiswyr ardderchog ar ôl ei ymweliadau ym mis Ionawr a Chwefror eleni.

Pleidleisiodd Bwrdd Gweithredol Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad dros Trinidad a Thobago i gynnal Gemau 2021 yn Nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol yng Ngwesty'r Macdonald Burlington yn Birmingham ar ôl cyflwyniadau trawiadol gan y ddwy Gymdeithas.

Mae llwyddiant Trinidad a Thobago yn adeiladu ar Gemau llwyddiannus y Bahamas yn 2017, ac mae'n cynnal ymrwymiad Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad i wladwriaethau bychain ac ynys-wladwriaethau.

Meddai Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, y Fonesig Louise Martin DBE: "Rydyn ni wrth ein boddau o gael gwobrwyo Trinidad a Thobago â'r cyfle i gynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021.

"Roedd ganddon ni broses ddyfarnu gryf iawn, ac roedd y Bwrdd yn teimlo ar yr adeg yma bod y Caribî yn cynnig llwyfan anhygoel i Fudiad Chwaraeon y Gymanwlad adeiladu arno.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Thrinidad a Thobago yn y cyfnod yn arwain at y Gemau, ac rydyn ni'n hyderus y bydd yn ddigwyddiad gwych ar gyfer athletwyr ifanc a brwd y Gymanwlad.

“Yn olaf, hoffai'r Bwrdd ddiolch i Gibraltar unwaith eto am gyflwyno cais i gynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021. Byddwn ni nawr yn gweithio gyda Chymdeithas Gemau'r Gymanwlad Gibraltar i adnabod cyfleoedd i gynnal digwyddiadau'r Gymanwlad yn y dyfodol."

Yn ôl Brian Lewis, Llywydd Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Trinidad a Thobago, a arweiniodd y tîm ymgeisio: “Mae hyn yn anhygoel ac yn hanesyddol. Ar ran pobl ifanc Trinidad a Thobago, diolch i Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.

“Mae'n anrhydedd bod gan y Ffederasiwn ffydd ynom i gynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021. Hoffwn gydnabod Rheeza Grant, Kwanieze John a Chanelle Young; tair menyw ifanc a wnaeth gysyniadu, datblygu a dychmygu cais Trinidad a Tobago 2021."

Ymunodd Trinidad a Thobago â'r Gymanwlad ym 1962. Hi yw'r wladwriaeth fwyaf deheuol o ynys-wladwriaethau India'r Gorllewin, ac mae wedi'i lleoli 11.2km oddi ar arfordir Venezuela. Caiff ei ffurfio o ddwy ynys, Trinidad a Thobago.

Ar ôl cymryd rhan yn y gemau am y tro cyntaf ym 1934, mae Trinidad a Thobago wedi mynychu pob cystadleuaeth ers hynny, heblaw ym 1950 a 1986.

Trinidad a Thobago fydd yn cynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021, a dyma fydd y seithfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, a hynny rhwng 1-7 Awst.

Cynhaliwyd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad am y tro cyntaf yn yr Alban yn 2000, ac wedi hynny aeth y gystadleuaeth i Awstralia, India, Ynys Manaw, Samoa, ac yna'r Bahamas yn 2017.