Mistar Urdd to star in the Commonwealth Games!

Mae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, wedi’i gadarnhau fel partner elusennol swyddogol Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Gwnaed y cyhoeddiad ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mawrth Mai 28) ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Mae Mistar Urdd, mascot poblogaidd y mudiad, yn ganolog i'r bartneriaeth, a fo fydd masgot swyddogol tîm Cymru yn ystod Gemau’r Gymanwlad 2022.

Wrth gyhoeddi'r bartneriaeth, dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sian Lewis:

“Mae gan yr Urdd draddodiad balch o hyrwyddo iechyd a chwaraeon ymhlith pobl ifanc Cymru. Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol a chystadlaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon – o rygbi 7 bob ochr i bêl-rwyd, nofio ac athletau yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â chyrff llywodraethu ar gystadlaethau cenedlaethol fel Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon gydag Adran Chwaraeon yr Urdd bob blwyddyn.

“Heddiw, mae'r Urdd yn un o brif ddarparwyr cyfleoedd chwaraeon ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Ry’n ni’n gweld y bartneriaeth newydd a chyffrous hon gyda Thîm Cymru yn bartneriaeth naturiol a synhwyrol, gyda'r ddwy ochr yn gweithio i ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc a’u hannog i ymfalchïo yn eu tîm a’u gwlad mewn digwyddiad mor uchel ei broffil. Gall yr ysbrydoliaeth honno aros gyda rhywun am oes, ac yn wir, newid bywydau er gwell. O gofio bod 2022 yn flwyddyn ein canmlwyddiant fel mudiad, ry’n ni’n edrych ymlaen at sicrhau profiadau oes i'n haelodau”.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd yr Urdd yn comisiynu anthem ar gyfer Tîm Cymru, a fydd yn cael ei pherfformio gan 500 o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru. Bydd un o gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021 hefyd yn gweld yr holl enillwyr rhanbarthol yn cael eu gwahodd i recordio'r anthem.

Bydd yr Urdd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Cymru i sicrhau bod talentau diwylliannol ac artistig aelodau'r Urdd yn rhan o ganolfannau diwylliannol Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022, sy’n cael eu cynnal yn y ddinas rhwng 27 Gorffennaf a 7 Awst 2022. Bydd y canolfannau hyn yn arddangos talentau gorau'r Urdd i ymwelwyr. 

Gobeithir hefyd y bydd y Gemau yn darparu llwyfan ar gyfer y neges ryngwladol o heddwch ac ewyllys da, sy’n cael ei chreu a’i chyflwyno gan aelodau'r Urdd bob blwyddyn. 

Dywedodd Cadeirydd Cymru Gemau'r Gymanwlad Helen Phillips MBE:

“Mae'r Urdd yn un o fudiadau ieuenctid mwyaf Ewrop ac mae'n gyfle cyffrous i ni wella ac i ymgysylltu ymhellach â phobl ifanc yng Nghymru ac ar draws cymunedau Cymreig ledled y byd. Mae ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i wneud eu gorau ac i gyflawni eu dyheadau yn ffactor pwysig i ni, a diolch i enw eiconig yr Urdd a phwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, ry’n ni’n edrych ymlaen at eu croesawu fel partner elusennol ar gyfer Birmingham 2022”.

Mae'r Urdd yn arweinydd uchel ei barch ym maes darparu chwaraeon i blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael gwaith, profiad a chymwysterau proffesiynol drwy’r cynllun prentisiaethau chwaraeon.

Eleni, cynhaliodd yr Urdd y twrnamaint rygbi ieuenctid 7-bob-ochr mwyaf yng Nghymru mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, gyda dros 400 o dimau a 5,000 o gystadleuwyr.