Team Wales House Support Role

Cyfle i fod yn rhan o Dîm Cymru…

Gyda dim ond 7 mis i fynd tan #B2022 rydym chwilio am y tîm perffaith i gefnogi yn nhŷ Tîm Cymru. Dyma gyfle i gael effaith ar brofiad gemau pawb sy'n rhan o Dîm Cymru, o athletwyr i gefnogwyr. 

SWYDD DDISGRIFIAD

GEMAU’R GYMANWLAD CYMRU

Mae Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiad amlwladol ag amryfal gampau. Fe'i cynhelir bob pedair blynedd, ac mae'n cynnwys athletwyr elitaidd Cymanwlad y Cenhedloedd.

Gemau'r Gymanwlad Cymru yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am arwain gweithgarwch Chwaraeon y Gymanwlad ledled Cymru, a’n haelodau allweddol yw holl Gyrff Llywodraethu Chwaraeon Cymru. Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn 1 o 72 o sefydliadau'r Gymanwlad ledled y byd, yn aelod o Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sydd â'r nod o 'uno'r Gymanwlad drwy chwaraeon'.

Y RÔL

Cyfle i ymuno â Thîm Cymru!

Bydd 'Tŷ' Tîm Cymru yn lleoliad sy'n agored i deuluoedd, cefnogwyr, athletwyr, staff cymorth a gwesteion VIP yn ystod cyfnod y gemau yn Birmingham. Bydd tîm cymorth Tîm Cymru yn rhedeg ac yn rheoli'r 'tŷ', gan greu amgylchedd unigryw ar gyfer gwesteion sy'n ymweld.  Er bod y lleoliadau a'r pentrefi'n canolbwyntio ar sicrhau'r perfformiad gorau posibl i athletwyr, mae Tŷ Tîm Cymru yn ffactor allweddol o ran darparu lleoliad cynhwysol a gwladgarol lle gall aelodau a chefnogwyr Tîm Cymru ymlacio a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae'n hanfodol cael y gweithlu cywir yn ei le, tîm sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd ac sy'n cynnig gwasanaeth a chefnogaeth lefel uchel i westeion Tîm Cymru.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn hollbwysig wrth redeg Tŷ Tîm Cymru o ddydd i ddydd. Gan weithio gyda'n gilydd drwy gydol cyfnod y gemau, bydd y tîm Cefnogi yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod amgylchedd eithriadol yn cael ei ddarparu'n gyson ar gyfer y tîm a gwesteion ehangach.

Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl profiad diddorol a buddiol gydag oriau gwaith amrywiol a hir ar brydiau yn ystod cyfnod y Gemau.  

PRIF GYFRIFOLDEBAU

Bydd y tîm cefnogi yn Nhŷ Tîm Cymru yn gyfrifol am gyflawni ar draws sawl maes allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

•    Darparu gwasanaeth 'blaen tŷ' proffesiynol a chroesawgar

•    Rheoli archebion a cheisiadau

•    Rheoli rota'r tîm cefnogi

•    Creu amgylchedd cadarnhaol a diogel i westeion Tîm Cymru

SGILIAU ALLWEDDOL

•    Cyfathrebwr cryf a chlir 

•    Y gallu i ysgogi eraill 

•    Y gallu i addasu ac i ymateb i newydd mewn modd effeithiol

•    Y gallu i weithio’n dda o dan bwysau

•    Diddordeb yn Nhîm Cymru

•    Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol

YMGEISIO

•    Dylai ymgeiswyr wneud cais drwy anfon CV a llythyr eglurhaol at cathy.williams@teamwales.cymru 

•    Mae’r ceisiadau'n cau am 5pm 18 Chwefror 2022

Mae rolau cefnogi Tîm Cymru yn wirfoddol. Telir treuliau (teithio, gwisg, llety a phrydau bwyd) gan Gemau'r Gymanwlad Cymru. Bydd y llety o fewn neu ger Tŷ Tîm Cymru.

Dyddiadau Allweddol:

•    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Chwefror 18 2022 5pm

•    Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod ar gael rhwng 28 Gorffennaf – Awst 8 2022

•    Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael am nifer o ddiwrnodau cyn gemau ar gyfer sesiynau a gweithdai cynllunio (rhithwir ac wyneb yn wyneb)

•     Rhaid cwblhau Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn dechrau'r Gemau