Crynodeb DIWRNOD 9 Tîm Cymru

Cymru yn parhau i gipio medalau ar ddiwrnod 9!

  • Aur i Gemma Frizelle mewn Gymnasteg Rythmig – Cylchyn.
  • Tair medal efydd yn y ring i Dîm Cymru.

Paffio

Diwrnod anhygoel i baffio Cymru. Yn gyntaf, hawliodd Jake Dodd y fedal efydd yn y frwydr pwysau pryf. Yna dangosodd Rosie Eccles, enillydd medal arian yn 2018, ddwyster a grym mawr i symud ymlaen i’r rownd derfynol unwaith eto, gan obeithio mynd un cam ymhellach na’r Arfordir Aur.

Yn y prynhawn, gobaith Owain Harris-Allen oedd cadw ei le yn y Rownd Derfynol ond yn anffodus, collodd i Abraham Mensah o Ghana i setlo am efydd.

Yn dilyn Allan, Taylor Bevan oedd nesaf sydd wedi cael gemau anhygoel hyd yn hyn, gydag Eddie Hearn yn dangos diddordeb. Sicrhaodd Bevan ei le yn y rownd derfynol ar ôl curo Aaron Bowen o Loegr.

Yn olaf, tro’r efeilliaid oedd hi yn y ring. Yn gyntaf, Garan Croft, a frwydrodd yn galed yn erbyn Aidan Walsh o Ogledd Iwerddon, ond ni aeth pethau o’i blaid.

Yn gorffen y sesiwn gyda’r nos i Gymru roedd ei efail, Ioan Croft. A daeth yn drydydd Cymro/Cymraes i gyrraedd y rownd derfynol y diwrnod hwnnw! Ar ôl curo Tyler Jolly o Loegr.

Gymnasteg Rythmig

Mewn rownd derfynol cylchyn syfrdanol, cafwyd perfformiad bron yn ddi-nam gan Gemma Frizelle (28.700) i ennill aur.

Reslo

Yn ail ddiwrnod a diwrnod olaf y reslo, ymladdodd Curtis Dodge yn adran 74kg Dull Rhydd y Dynion. Collodd i Arno van Zijl o Dde Affrica yn y rownd agoriadol ac ni lwyddodd i gyrraedd y repechage. 

Athletau
 
Roedd sesiwn y bore yn llawn dop o ddiddordeb Cymreig yn Stadiwm heulog Alexander.

Sicrhaodd Heather Lewis record Brydeinig newydd o 45:09.19 yn Ras Gerdded 10,000m y Menywod, gan orffen yn y pumed safle o flaen Bethan Davies. Dim medal y tro hwn, ond roedd yn amser gorau’r tymor i enillydd y fedal efydd ar yr Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl (45:45.59). 

Roedd 1500m y Dynion yn un o rasys mwyaf cystadleuol y gystadleuaeth, yn cynnwys cystadleuwyr o safon fyd-eang a oedd yn cynnwys Jake Heyward, a aned yng Nghaerdydd. Cafwyd wyth amser gorau personol a dau amser gorau’r tymor ynghyd â record Gemau gan yr enillydd terfynol Oliver Hoare. 

Gorffennodd Heyward yn bumed ar ôl rhediad anhygoel i sicrhau Amser Gorau newydd gydag amser o 3:31.08, record Gymreig newydd. Hwn hefyd oedd yr wythfed rhediad cyflymaf erioed gan athletwr o’r DU.

“Roedd yn anghredadwy heddiw,” meddai wedyn.

“Roedd y dorf yn wych. Yn amlwg roeddwn i eisiau cael medal i Dîm Cymru ond nid aeth fy ffordd i heddiw. Rwyf wedi gweld cymaint o faneri Cymru ac roedd pawb yn gweiddi fy enw a oedd yn wych.”

Yn y Morthwyl, daeth Osian Jones â’i drydydd Gemau’r Gymanwlad i ben yn y chweched safle, gan daflu 69.15 ar y diwrnod. Daeth ei gyd-aelod o’r tîm Jac Palmer yn 11eg gydag ymgais gorau o 66.63.

Ac fe aeth Jonathan Hopkins yn Ras Ffos a Pherth 3000m y Dynion gan gipio’r nawfed safle gydag amser o 9:06.95.

Bowls lawnt

Hon oedd y gêm ail gyfle am fedal efydd i dîm o 4 ein dynion sef Jarred Breen, Owain Dando, 

Jon Tomlinson a Ross Owen. Gyda Chymru’n dechrau’n gryf, aethant ar y blaen yn gynnar ond yn y diwedd fe gollon nhw i dîm dominyddol Lloegr o 17-12 i orffen y gystadleuaeth yn y 4ydd safle a dod â phresenoldeb Cymru yn y gystadleuaeth i ben.