Crynodeb DIWRNOD 10 Tîm Cymru

Joshua Stacey – Gêm Medal Aur 

Uwchraddiodd Josh ei Efydd o’r Arfordir Aur i fedal aur gyda buddugoliaeth dros Ma Lin. Ar ddechrau llawn tensiwn gwelwyd Josh yn ennill y gêm gyntaf o 25-23. Bu’n rhaid mynd i’r gêm olaf i benderfynu, ond Josh a groesodd y llinell a chipio Medal Aur gyntaf Tenis Bwrdd yng Ngemau’r Gymanwlad!

Rownd Gynderfynol Dyblau Menywod – Charlotte ac Anna 

Symudodd Charlotte ac Anna ymlaen i gêm y fedal Efydd ar ôl cael eu curo gan y pâr o Singapore. Aethant ar y blaen 2-1 ar ôl colli’r gêm gyntaf a chryfhau ar ôl hynny. Llwyddodd Singapore i lefelu’r sgôr a daeth eu profiad i’r amlwg wrth hawlio eu lle yng Ngêm y Fedal Aur.

Fe fyddan nhw nawr yn wynebu’r pâr o Singapore sef Xin Ru Wong a Jingyi Zhou yng Ngêm y Fedal Efydd yfory am 9:30 ar gwrt arddangos 1.

Beicio – Ras Ffordd
 
Enwodd Tîm Cymru chwe beiciwr ym mhob un o’r Rasys Ffordd a gynhaliwyd ar ddiwrnod chwilboeth i lawr yn Warwick.

Cychwynnodd y Menywod yn y bore gydag Eluned King yn arwain ei thîm adref yn yr wythfed safle, ac yna Jessica Roberts (18fed), Leah Dixon (27ain), Elinor Barker (41ain) ac Elynor Backstedt (38ain). Ni orffennodd Megan Barker.

Cludwr y faner, Geraint Thomas, oedd yn arwain yr ymdrech yn ras y Dynion, gan orffen hefyd yn wythfed ar ôl ymdrech enfawr yng nghamau olaf ei ymddangosiad olaf yng nghrys coch Tîm Cymru.

Ar ei ôl daeth William Roberts (25ain), Luke Rowe (51ain), Owain Doull (58fed) a Joe Holt (65ain). Ni orffennodd Stephen Williams. 

Yn y diwedd gorffennodd tîm Birmingham 2022 gyda chyfanswm o saith medal, un yn fwy nag a gyflawnwyd ganddynt ar yr Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl.

“Roedd yn anodd. Roedd yn rhaid i mi fod yn ymosodol a gorfodi’r symudiad olaf ‘na,” meddai Thomas wedyn.

“Yna yn sydyn meddyliais ‘wow, dyma ni’ ond doedd gen i ddim Cymro arall gyda mi felly roedd yn anodd. Mae’r ffaith bod beiciwr trac [Aaron Gate] wedi ennill heddiw yn dangos natur y cwrs i chi. Roedd yn nerthol; ffrwydrol iawn – rhywbeth nad ydw i’n adnabyddus amdano.

“Roeddwn i yn gwybod wrth ddod yma, nad oedd hwn yn gwrs a oedd yn addas imi. Roedd yn eithaf rhyfedd cael llawer o ddisgwyliad arnaf i gael medal ond roeddwn i eisiau mynd allan yna a rhoi popeth. Mae’n debyg mai dyma’r tro olaf y bydda’ i yn gwisgo fest Cymru achos fydda ‘i ddim mewn Gemau Gymanwlad arall, yn bendant.”

Yn y cyfamser yn Stadiwm Alexander roedd Melissa Courtney-Bryant yn cystadlu yn rownd derfynol 1500m y menywod ac fe frwydrodd yn galed i hawlio 10fed yn gyffredinol. 

Bu Jenny Nesbitt a Beth Kidger yn chwifio baner Cymru yn rownd derfynol 5000m y menywod mewn ras gyffrous gyda Nesbitt yn gorffen yn 12fed a Kidger yn croesi’r llinell yn 13eg gyda’u hamseroedd gorau.

Hoci

Yn eu gêm olaf o’r gystadleuaeth bu’r Cymry yn brwydro yn erbyn Seland Newydd yn y gêm am y 5ed/6ed safle. Roedd y ddau dîm benben â’i gilydd am y rhan fwyaf o’r gêm ond er gwaethaf fflic-lusg clasurol gan Gareth Furlong yn yr ail chwarter, fe lwyddodd dau ymosodiad cyflym gan Seland Newydd i ennill y gêm 2-1. Roedd Capten Rupert Shipperly yn ‘siomedig oherwydd [mae’n] gwybod bod ganddyn nhw’r ddawn i guro tîm y 10 uchaf ond ni wnaethon [nhw] achub ar y cyfle hwnnw heddiw’