Crynodeb DIWRNOD 8 Tîm Cymru

Creu hanes i Dîm Cymru!

  • Arian yn y Bowls Lawnt Para-Gymysg
  • Rhai’n symud ymlaen i’r camau nesaf!

Pêl-rwyd

Roedd hi’n ddiwrnod olaf ar y cwrt i garfan Sara Moore, wrth iddyn nhw chwarae yn y gêm dosbarthiad 7-8fed. Fe ddechreuon nhw’r chwarter cyntaf yn gryf, gan fynd i’r egwyl gyntaf 17-13. Fodd bynnag, brwydrodd Malawi yn ôl ac erbyn hanner amser roeddynt yn arwain 30-28. Er gwaethaf y dechrau cryf, cipiodd Malawi y pwyntiau yn y chwarteri oedd yn weddill. Y sgôr terfynol oedd Cymru 56 – 62 Malawi.

Athletau

Bore yma gwelwyd rhagrasys 1500m y menywod yn cynnwys Melissa Courtney-Bryant. Nid oedd y dechrau araf yn gweddu i steil rhedeg Melissa a gorffennodd yn 6ed mewn rhagras gref a bu’n rhaid iddi aros yn nerfus yn ystod yr ail ragras ond llwyddodd Melissa i gymhwyso yn un o’r lleoedd collwyr cyflymaf a bydd yn rhedeg yn rownd derfynol dydd Sul.

Bowls Lawnt

Crëwyd hanes ddoe i Dîm Cymru – Gordon Llewellyn, athletwr hynaf Tîm Cymru erioed, yn ennill y fedal arian yn y parau cymysg VI gyda Julie Thomas (enillodd Julie efydd ar yr Arfordir Aur 2018).

Collodd pedwarawd y dynion 18-9 i Ogledd Iwerddon. Fe fyddan nhw’n wynebu Lloegr heddiw yn y gêm fedal efydd.

Tenis Bwrdd

Dosbarthiadau Senglau Dynion 8-10 – Joshua Stacey

Symudodd Josh ymlaen i’r Rowndiau Cynderfynol yn ddiguro a heb ollwng gêm. Wynebodd ei ffrind Ross Wilson yn y gêm gynderfynol gan golli’r gêm agoriadol. Brwydrodd Josh yn ôl i ennill y tair nesaf a hawlio ei le yng Ngêm y Fedal Aur. 

Rownd Senglau Menywod o 16

Anna Hursey oedd yr unig un i symud ymlaen i’r gêm gogynderfynol, gyda buddugoliaeth gref dros Natalie Cummings o Guyana. Agorodd Chloe ei gêm gyda buddugoliaeth anhygoel yn y gêm gyntaf yn erbyn Jian Zeng o Singapore, ond collodd y 4 gêm olaf gan adael y gystadleuaeth. Gadawodd Charlotte gystadleuaeth y Menywod hefyd gyda cholled o 3-4 i Sreeja Akula o’r India gan wthio’r chwaraewr bob cam o’r ffordd. 

Rownd Dyblau Menywod o 32

Mae buddugoliaethau argyhoeddiadol i’r ddau bâr yn golygu eu bod yn symud ymlaen i’r Rownd 16.

Charlotte Carey ac Anna Hursey – 3-0 Seychelles

Chloe Thomas Wu Zhang a Lara Whitton – 3-2 Canada

Bydd Charlotte ac Anna nawr yn wynebu Mo Zhang a Ching Nam Fu o Ganada. 

Bydd Chloe a Lara nawr yn wynebu Sreeja Akula a Reeth Tennison o’r India.

Rownd Senglau Dynion o 32

Gadawodd Callum y gystadleuaeth gan golli 4-1 i Eugene Wang o Ganada. Brwydrodd Callum yn ddewr, gan wneud rhai ergydion ardderchog i gadw ei hun yn y gêm. 

Rownd Gogynderfynol Senglau Menywod – Anna Hursey

Syrthiodd Anna o drwch blewyn i Yangzi Liu ychydig ddyddiau yn ôl yn y Digwyddiad Tîm. Daeth Anna allan yn tanio, gan ennill y set gyntaf, brwydrodd Yangzi yn ôl ac ennill y gemau oedd yn weddill i gadw’i lle yn y Rowndiau Cynderfynol.

Gymnasteg Rythmig – Rownd Derfynol Cyffredinol

Daeth perfformiadau gwych gan Elizabeth Popova a Gemma Frizzle i ben yn yr 11eg a’r 12fed safle. Gydag Elizabeth yn torri 100 pwynt, gyda chyfanswm sgôr o 102.750 a Gemma yn sgorio 98.300. 

Bydd y ddwy nawr yn symud ymlaen i rowndiau terfynol unigol, gydag Elizabeth yn cystadlu yn rownd derfynol y bêl a’r clwb a Gemma yn cystadlu yn rownd derfynol y cylchyn a’r bêl.  

Sboncen

Yn rownd yr wyth olaf dyblau cymysg brwydrodd Joel Makin a Tesni Evans yn galed yn erbyn Alison Waters ac Adrian Waller o Loegr i hawlio’r gêm gyntaf 11-4 ond yna fe gymerodd y pâr o Loegr yr ail 11-8 i lefelu’r sgôr a mynd â hi i gêm i benderfynu. Chwaraeodd Makin ac Evans sboncen fendigedig mewn brwydr hynod ddiddorol ond Lloegr enillodd y drydedd gêm a’r gêm olaf 11-5 i hawlio’r fuddugoliaeth.

Yn rownd ragbrofol o 16 dyblau’r dynion, roedd Emyr Evans a Peter Creed yn wynebu’r pâr o Ganada, Nick Sachvie a David Baillar Geon. Roedd hi’n agos rhwng y ddau o ran cyflymder a phŵer a arweiniodd at gêm gorfforol gyda ralïau hir a sawl ‘yes let’. Er gwaethaf cystadlu brwd collodd y ddau o ddwy set i ddim 11-8, 11-5. 

Athletau

Roedd hi’n noson falch i’r teulu Brier gyda’r brawd a’r chwaer Hannah a Joe yn cystadlu yn Stadiwm Alexander nos Wener.

Hannah oedd yn gyntaf, yn rhedeg yn y rownd gynderfynol gyntaf o dri yn lôn saith. Gorffennodd y rhedwraig 24 oed yn chweched ar ôl perfformiad dewr ar y noson, gan gofnodi amser o 23.84.

Bu’r brawd Joe, 23, yn rasio yn ail rownd gynderfynol 400m Dynion mewn amser o 47.50.

Ni ddigalonnodd Hannah, a gipiodd deitl 200m Dan Do Prydain yma ym Mirmingham nôl ym mis Chwefror, ar ôl ei rhagras.

“Mae’n noson arbennig i’r teulu,” meddai wedyn.

“Mae yna lot o Briers yn y stadiwm heno. Mae’n wych bod gyda Joe ym Mirmingham 2022 oherwydd mae’n anarferol bod yn yr un lle. Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd yma ond fe lwyddon ni i gyrraedd. Mae’n anhygoel!”

Mewn mannau eraill cafodd Melissa Courtney-Bryant amser o 4:14.46 yn rhagras 1500m cyntaf y bore i fachu lle yn rownd derfynol dydd Sul (7.20pm), gyda’r bwriad o adeiladu ar ei llwyddiant o fedal efydd ar yr Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl.

Reslo

Yn y diwrnod cyntaf o reslo, cafodd Shannon Harry ei churo o drwch blewyn gan Irene Symeonidis o Awstralia.  Methodd symud ymlaen i’r rownd nesaf ar ôl i Symeonidis golli ei hail ornest, yn dilyn gwacáu’r arena oherwydd materion diogelwch yn yr adeilad. Mae Curtis Dodge yn cychwyn ei gystadleuaeth ar Ddiwrnod 9 y Gemau mewn ymgais i wella ar ei efydd ar yr Arfordir Aur.