Crynodeb DIWRNOD 7 Tîm Cymru

Chwaraeodd Cymru eu gêm ragbrofol olaf yn erbyn Barbados yn yr NEC.

Aeth Cymru ar y blaen yn y chwarter cyntaf 18-10, ac aethant i mewn i’r ail hanner 11 gôl ar y blaen (34-23). Aethant i mewn i’r chwarter olaf 46-33 a chloi’r gêm gyda buddugoliaeth gyfforddus o 60-44. 

Mae gemau ail gyfle yn dechrau heddiw.

Paffio

Cafodd ail ddiwrnod y rowndiau gogynderfynol ddechrau gwych diolch i’r efeilliaid Croft. Aeth y ddau ymlaen i’r rownd gynderfynol ar ôl curo Luwis Mbewe a Mervin Clair yn y drefn honno.  Mae’r pâr bellach yn sicr o fedal efydd o leiaf.

Yn sesiwn yr hwyr, daeth Jack Dodd yn erbyn Clepson Paiva. Brwydr galed ond dangosodd Dodd bŵer a chryfder dwys i ddod yn drydydd paffiwr o Gymru’r dydd i gadw ei le yn y rownd gynderfynol.

Yr olaf i ymddangos dros Gymru oedd Owain Harris-Allen, 18 oed, yn erbyn Jamie Chang o Papa New Guinea ac i gloi diwrnod bendigedig i’r tîm, enillodd mewn penderfyniad unfrydol, gan olygu bod chwe medal wedi’u gwarantu i dîm bocsio Cymru.

Deifio

Cymhwysodd Lucy Hawkins, a oedd yn cystadlu yn ei Gemau’r Gymanwlad cyntaf, yn 9fed yn rownd derfynol y Platfform 10m. Yn y rownd derfynol gorffennodd yn 12fed.

Tenis Bwrdd

Dyblau Cymysg – Charlotte Carey a Callum Evans

Dechreuodd Charlotte a Callum gyda buddugoliaeth o 3-2 dros Sam Walker a Maria Tsaptsinos o Loegr. Buddugoliaeth galed a oedd yn y fantol hyd at y diwedd gyda phob un o’r pum gêm yn cael eu chwarae. Gan ddod i’r brig yn y pen draw, a sicrhau eu lle yn y rownd nesaf. 

Canada oedd nesaf yn y Rownd 32. Cawsant eu trechu 3-0 a’u taro allan o’r gystadleuaeth Dyblau Cymysg.

Dosbarthiadau Tenis Bwrdd Para 6-10 – Grace Williams

Ar ôl ennill a cholli dwy gêm grŵp ddoe roedd hi’n amser gêm olaf Grace o’r cymalau grŵp. Gêm anodd i Grace yn wynebu ei phartner dyblau a ffrind Felicity Pickford. Er colli 3-0, brwydrodd Grace yn galed i wthio Felicity bob cam o’r ffordd, gan orffen tair gêm o fewn dau bwynt. 

Senglau – Rownd o 32

Mae tair buddugoliaeth o dair yn golygu bod y tair chwaraewr sengl i fenywod yn symud ymlaen i’r rownd o 16.

Charlotte Carey

Dechreuodd Charlotte ei hymgyrch senglau yn erbyn Esther Oribamise o Nigeria gan sicrhau pas i’r rownd 32. Daeth Charlotte allan o’r bloc yn tanio, gan ennill tair set yn olynol. Brwydrodd Esther yn ôl o fewn un pwynt, llwyddodd Charlotte i orffen y gêm gan ennill y chweched gêm 9-11.

Anna Hursey

Buddugoliaeth argyhoeddiadol gan Anna Hursey yn curo Fatima Atinuke Bello o Nigeria 3-0, gan ennill y pedair set o bum pwynt.

Chloe Thomas Wu Zhang

Gweithiodd Chloe yn galed i guro Sarah Hanffou o Gamerŵn 4-2, ar ôl mynd un gêm ar ôl Chloe llwyddodd i ddod â’i hun yn ôl i’r gêm gan wneud rhai ergydion anhygoel a newidiodd y momentwm. Ar ôl gollwng y drydedd set, daeth Chloe yn ôl i ennill y tair olaf a sicrhau’r lle yn Rownd 16.

Athletau

Parhaodd Tîm Cymru â’u perfformiadau cryf ar Ddiwrnod 7 gyda 200m trawiadol gan Hannah Brier, gan gymhwyso ar gyfer y rownd gynderfynol.

Roedd Amber Simpson ychydig yn brin o’i PB, gan gymhwyso ar gyfer rownd derfynol taflu morthwyl.

Daeth Piers Copeland yn drydydd yn ei ragras 1500m, gydag amser o 3:49:18, ac fe gymhwysodd Jake Heyward ar gyfer y rownd derfynol gyda rhediad trawiadol o 3:37:83.

Yn y cyfamser yn sesiwn yr hwyr tro Julie Rogers oedd hi i gystadlu yn rownd derfynol y ddisgen menywod F42-44/61-64. Mae Gemau’r Gymanwlad yn nodi ei digwyddiad byd-eang cyntaf ers newid o wibio i daflu ac fe wellodd yn raddol rownd ar ôl rownd i orffen yn 8fed yn gyffredinol mewn maes hynod dalentog. 

Sboncen

Heddiw roedd y ffocws ar gystadleuaeth y dyblau cymysg ac yn gyntaf oedd y pâr a oedd yn cynnwys enillydd medal arian senglau Dynion Joel Makin a Tesni Evans a ddechreuodd eu hymgyrch yn berffaith, gan ennill yn argyhoeddiadol yn erbyn Malta 11-6, 11-2. Dilynwyd hyn gyda’r nos gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Malaysia. 

Yn y cyfamser yn y rownd 16 er gwaethaf perfformiad bywiog trechwyd Peter Creed ac Emily Whitlock gan Bencampwyr y Byd a Detholion Rhif 1 yn y byd Ghosal Saurav a Pallikal Karthik Dipika a enillodd y gêm 11-8, 11-4.

Hoci

Mae’n deg dweud nad oedd unrhyw un yn disgwyl i fenywod Cymru ennill eu gêm grŵp olaf yn erbyn Lloegr, tîm a oedd yn cynnwys enillwyr medalau Olympaidd Tokyo 2020 yn bennaf. Fodd bynnag, daeth y tîm allan yn brwydro a chael sawl cyfle cynnar i sgorio. Er gwaethaf arbediadau trawiadol gan Rose Thomas a Beth Bingham yn arbed gôl agored gyda phêl i’r wyneb, fe brofodd y ffefrynnau am fedal yn rhy gryf yn enwedig mewn corneli cosb wrth iddynt gipio’r fuddugoliaeth 5-0. Yn anffodus, anafwyd Issie Howell gan ffon i’r wyneb ac rydym yn aros am ddiweddariad ar ei chyflwr. Bydd Cymru nawr yn wynebu De Affrica yn y gêm am y 7fed/8fed safle yfory. 

Roedd gêm y bore yma yn nodi 200fed cap Cyfunol Cymru a Phrydain Fawr Leah Wilkinson wrth iddi ymestyn ei theyrnasiad ymhellach fel mabolgampwraig â’r nifer uchaf o gapiau. 

Roedd tîm y dynion yn wynebu gêm olaf y grŵp a oedd yn ‘rhaid ei hennill’ yn erbyn India. Cafwyd arddangosfa gref o sgil a dygnwch gan Gymru ond daeth cyflymder tîm India a’u sgil tactegol ar gorneli cosb i’r amlwg wrth rwydo 4 gôl drawiadol. Rhoddodd fflic-llusg clasurol Gareth Furlong ychwanegiad hwyr i’r sgôrfwrdd i Gymru ond y sgôr yn y diwedd oedd 4-1. Bydd Cymru nawr yn chwarae yn y gêm 5ed/6ed safle yfory. 

Roedd Luke Hawker yn gadarnhaol am berfformiad y tîm gan ddweud y bydd buddugoliaeth yfory yn sicrhau diweddglo gorau erioed Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. 

Gymnasteg Rythmig

Agorodd Lauryn Carpenter gystadleuaeth gymnasteg rythmig Cymru. Ymddangosodd yn gyntaf yn y cylchdro cylchyn gan gyflwyno pedwar perfformiad deinamig heb fawr o gamgymeriadau. 

Cyflwynodd Elizabeth Popova, sy’n ddim ond 15 oed, drefn llawn anhawster. Fe wnaeth ei threfn clwb ennyn diddordeb y dorf yn arbennig. 

Perfformiodd y profiadol, Gemma Frizelle, drefnau gosgeiddig a chain gyda chelfyddyd a oedd yn amlwg wedi creu argraff ar y beirniaid, roedd ei leotards yn nodwedd amlwg ym marn y gynulleidfa. 

Rhaid rhoi sylw arbennig i garfan o gefnogwyr o Glwb Gymnasteg Llanelli a oedd yn bendant y presenoldeb cryfaf yn yr ystafell. 

Rowndiau Cymhwyso:

Pob cyfarpar: Cymhwysodd Gemma Frizelle yn 8fed a chymhwysodd Elizabeth Popova yn 18fed

Cylchyn: Cymhwysodd Gemma Frizelle yn 5ed 

Pêl: Cymhwysodd Gemma Frizelle yn 7fed a chymhwysodd Elizabeth Popova yn 8fed

Clybiau: Cymhwysodd Elizabeth Popova yn 4ydd. 

Beicio
 
Brwydrodd Geraint Thomas yn ôl o ergyd gynnar i hawlio’r fedal efydd yn Nhreial Amser Unigol y Dynion yn West Park Wolverhampton.

Syrthiodd cludwr baner y tîm oddi ar ei feic yn eiliadau agoriadol y ras 37km, a oedd yn ergyd i’w siawns o ail-greu ei berfformiad buddugol yng Nglasgow wyth mlynedd yn ôl.

Hon oedd y seithfed fedal i Dîm Cymru yn y beicio i ragori ar eu niferoedd ar yr Arfordir Aur gyda’r Ras Ffordd i ddod ddydd Sul.

Roedd ei amser o 46:49.73, 28 eiliad y tu ôl i Rohan Dennis yr enillydd yn y pen draw tra bod ei gyd-feiciwr Owain Doull yn seithfed (49:05.46).

“Ro’n i eisiau dod yma ac ennill,” meddai wrth Tom Brown o Adran Chwaraeon BBC Cymru wedyn.

“Doeddwn i ddim yn rhy bell oddi ar hynny a dwy eiliad oddi ar arian, felly mae hynny’n ei wneud braidd yn chwerwfelys.

“Fe es i mewn i’r gornel ‘na ychydig yn boeth a’i decio. Codi’n ôl a cheisio ailffocysu a mynd o gwmpas gorau y gallwn i, dyna wnes i. Ond dyw pethau byth yn syml gen i, ydyn nhw?

“Mae sefyll ar y podiwm yng nghrys Cymru bob amser yn foment falch.”

Yn gynharach yn y dydd daeth Elynor Backstedt (42:15.16), Leah Dixon (43:16.80) ac Anna Morris (43:22.08) â Threial Amser Unigol i Fenywod i ben yn wythfed, 15fed a 16eg safle yn y drefn honno.