Crynodeb DIWRNOD 3 Tîm Cymru

Tîm Cymru yn cipio 6 medal ar Super Sunday!

NOFIO

Cafwyd cyfres o fedalau yn sesiwn yr hwyr gyda Lily Rice a Medi Harris ill dwy yn ennill Efydd yn eu rowndiau terfynol. Roedd Joe Small (cariad Medi) hefyd wedi cymhwyso ar gyfer rownd derfynol 50m dull cefn y dynion gydag amser o 25:36. Collodd Matt Richards gyfle i gymhwyso y tro hwn, er yn debygol o fod yn ôl ar gyfer ras gyfnewid 200m y dynion.

Llwyddodd Harriet mewn rownd gyn derfynol arall i gyrraedd rownd derfynol y 50m pili-pala.

GYMNASTEG DYNION

Yn anffodus bu’n rhaid i Joe Cemlyn-Jones dynnu’n ôl o Rownd Derfynol Artistig Pob Cyfarpar y Dynion y bore yma oherwydd anaf i’w ysgwydd a chymerodd Jacob Edwards, 19 oed, ei le a oedd dim ond 0.50 y tu ôl i Joe yn y gystadleuaeth cymhwyso. Cafodd Josh Cook a Jacob Edwards ill dau gystadlaethau trawiadol ar bob darn o gyfarpar gan orffen yn uwch na’u safle cymhwyso gyda Jacob yn gorffen yn y 10fed safle a Josh Cook yn 12fed. 

Cafodd Jacob Edwards gwmni ei hyfforddwr personol a’i dad ar y llawr, Paul Edwards. Moment arbennig i’r tad a’r mab. 

HOCI

Dechrau pryderus i gêm dynion Cymru yn erbyn Lloegr wrth i’r chwaraewr medrus Sam Ward slotio fflic-lusg hyfryd o fewn yr ail funud yn unig. Newidiodd pethau’n fuan ac roedd gweddill y chwarter cyntaf yn gystadleuol iawn gydag amddiffyn ardderchog yn y corneli cosb. Daeth Cymru â’r sgôr yn gyfartal wedi 18 munud gyda gôl syfrdanol; Cafodd fflic gwrthdro pwerus Steve Kelly ei wyro dros ben y golwr gan Lewis Prosser. Yn dilyn dau gerdyn melyn yn syth ar ôl ei gilydd i Gymru daeth Lloegr o hyd i’r gôl yr eildro trwy gornel gosb. Daeth ail gôl Cymru yn y 52fed munud wedi i James Carson wyro pêl uchel i’r rhwyd. Er gwaethaf yr ymosodiad trawiadol yma fe ddialodd Lloegr yn fuan i ennill y gêm 4-2.

GYMNASTEG MENYWOD

Yn eu Rowndiau Terfynol ar Bob Cyfarpar cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad, rhoddodd Poppy Stickler a Jea Maracha berfformiadau eu bywydau i sicrhau’r 5ed a’r 10fed safle yn y drefn honno, llwyddiant anhygoel i’r ddwy sydd ond yn 16 oed. Cafodd y ddwy gystadlaethau glân gyda threfn llawr Poppy yn arbennig yn ennyn diddordeb torf frwd yr arena. Roedd cefnogaeth y dorf yn anhygoel a rhaid cyfeirio’n arbennig at y tîm o gennin Pedr o Glybiau Gymnasteg Abertawe a Llanelli.

RYGBI 7 DYNION

Mae wedi bod yn 3 diwrnod gwefreiddiol yn Arena Coventry. Daeth cystadleuaeth y dynion i ben bore ma ar ôl colled dynn 12 – 14 i Loegr. Mae’r gefnogaeth i’r garfan wedi bod yn wych – cannoedd o grysau cochion yn yr eisteddleoedd, a chiwiau o gefnogwyr yn gofyn am luniau a llofnodion ymhell ar ôl i’w gêm ddod i ben. Efallai na orffennodd y twrnamaint fel yr oedd y bechgyn yn ei obeithio, ond mae eu cefnogwyr Cymreig yn llawn balchder.

BEICIO TRAC

Diwrnod gwych i Dîm Cymru ym Mharc Beicio Lee Valley, gan ennill tair medal i gyd, gan fynd â’u cyfanswm yn nwyrain Llundain i chwe medal a oedd yr un peth â’r Arfordir Aur 2018.

Roeddent yn sicr o bedwaredd fedal seiclo trac wrth fynd i rownd gynderfynol Gwib Tandem B Dynion yn y bore. Gorffennodd James Ball a Matt Rotherham yn ail gyflymaf yn y rhagrasys (9.851) a llwyddodd Alex Pope a Steffan Lloyd i gyrraedd y pedwar olaf gydag amser o 10.401.

Cyfarfu Pope a Lloyd â Neil Fachie a Lewis Stewart yn y rownd gynderfynol gyntaf ond enillodd y pâr Albanaidd y ddau gymal cyntaf i gyrraedd rownd derfynol y fedal efydd, lle profodd pâr Awstralia, Beau Wootton a Luke Zaccaria yn rhy gryf yn y diwedd.

Yna curodd Ball a Rotherham y pâr o Awstralia yn eu gorau o dri, gan arwain at ornest yn erbyn eu hen wrthwynebydd Fachie ac ailadrodd y rownd derfynol bedair blynedd yn ôl.

Y tro hwn, cymerodd y pâr o Gymru’r ddau gymal cyntaf i gipio medal aur gyntaf Cymru ym Mirmingham 2022 i ddial am eu trechu yn Queensland.

Eluned King gipiodd ail fedal y prynhawn, gan gasglu 32 pwynt ar draws 10 gwib ar ei ffordd i fedal efydd yn Ras Bwyntiau 25km y Menywod. Gorffennodd Jess Roberts ac Anna Morriss yn 10fed a 15fed yn y drefn honno.

“Rwyf wedi fy synnu ac yn ddiolchgar iawn,” meddai King wedyn. 

“Dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn sydd wedi digwydd yn mynd i fy nharo i am ychydig. Rwyf wedi tyfu gyda’r tîm hwn felly mae hyn yn arbennig. Nid yw fy nheulu yma heddiw felly mae hyn ar eu cyfer nhw.”

Cyrhaeddodd Rhys Britton, Joe Holt a William Roberts rownd derfynol Ras Scratch 15km y Dynion, sef digwyddiad olaf y dydd. Bwriwyd cysgod ar y rhagrasys gan ddamwain ddifrifol yn ymwneud â hanner y cystadleuwyr gyda Matthew Walls o Loegr yn cael ei gludo i’r ysbyty i gael ‘gwiriadau rhagofalus’.

Cafwyd perfformiad syfrdanol gan Roberts i orffen yn y tri uchaf, gan ychwanegu medal efydd ar ddiwedd y sesiwn i roi Cymru yn bedwerydd yn y tabl medalau yn y seiclo trac. 

Mewn mannau eraill sgoriodd Eleanor Victoria Coster 35.116 yn y Treial Amser 500m i Fenywod. Tynnodd Lowri Thomas yn ôl o’r digwyddiad ar ôl cwymp ddoe ar y trac felly daeth Emma Finucane i mewn, gan sicrhau amser o 33.916.

Aeth Nia Holt ac Amy Cole allan yn gyntaf yn y Treial Amser 1000m Tandem B i Fenywod, gan gofnodi amser o 1.13.435.

CODI PWYSAU – MICAHEL FARMER 73KG

Gwnaeth Michael Farmer, sy’n 23 oed, ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad heno yn yr adran pwysau 73kg. Llwyddodd Farmer yn ei godiad cyntaf o 128kg yn y cipiad (snatch), ond cafodd drafferth codi’r ddau gip arall o 131kg. Gan symud ymlaen i’r clean a jerk, ni aeth y ddwy rownd gyntaf o blaid Michael. Llwyddodd y dorf i sbarduno’r codwr ar gyfer y drydedd rownd a’r rownd derfynol a rhuo wrth iddo glirio ei godiad o 155kg.

SBONCEN

Sboncen (rownd senglau dynion o 16) Cafwyd perfformiad gwych gan Emyr Evans i gipio’r gêm agoriadol yn erbyn rhif 2 y Byd, Paul Coll, ond trechodd Evans o Seland Newydd yn y diwedd 8-11, 11-0, 11-5, 12-10 i symud ymlaen i rownd yr wyth olaf. 

Sboncen (Rownd senglau menywod o 16) Canlyniad siomedig i Tesni Evans a gollodd mewn 3 i chwaraewr Malaysia, Rachel Arnold. Roedd yn gêm llawn tensiwn gydag Arnold yn y diwedd yn ennill 19-17, 11-7, 11-7. 

Cipiodd Emily Whitlock fuddugoliaeth drawiadol a chyflym o 3-0 dros Donna Lobban o Awstralia. Cipiodd Emily’r set gyntaf 13-11, yr ail 11-7 a’r drydedd 11-3. Bydd hi nawr yn wynebu Sarah Jane Perry o Loegr yn rownd yr wyth olaf am 19:30.

Roedd Joel Makin yn wynebu Alan Clyne o’r Alban yn rownd senglau’r dynion o 16. Gwelodd camgymeriadau gan yr Albanwr Joel ar y blaen yn gynnar ac er gwaethaf ralïau hir, dramatig a sawl her cipiodd Joel fuddugoliaeth o 3-0. Gan ennill 11-3, 11-4, 11-4. Ar y cyfan perfformiad dominyddol gan y rhif 2.

TENIS BWRDD

Chwaraewyd dros dair awr a’r nifer fwyaf posibl o gemau, ac unwaith eto roedd hi’n ganlyniad agos, ac er gwaethaf buddugoliaethau i Carey a Hursey ym mharau sengl y gêm. Er gwaetha’r ffaith bod y Fedal Aur drwch blewyn o’u gafael a medal wedi’i gwarantu, rhoddodd y pwyntiau a ollyngwyd stop ar eu siawns. Mae’r tîm nawr yn symud ymlaen i Gêm y Fedal Efydd yn erbyn Awstralia am 9:30. Bydd y menywod nawr yn anelu at y gêm 11 awr a 30 munud ar ôl diwedd y rownd gynderfynol.

PÊL-RWYD

Cipiodd pêl-rwyd eu buddugoliaeth gyntaf yn eu gemau Grŵp A gyda pherfformiad rhagorol yn erbyn Yr Alban, gan ennill 42-28. Roedd Cymru ar y blaen ar ôl y Chwarter cyntaf 7-12, ac aethant i mewn i hanner amser ar y blaen yn gyfforddus 15-26. Dechreuodd y Chwarter olaf o blaid Cymru gyda bwlch o 28-41. Daeth yr Alban yn agosach yn ystod y Chwarter olaf ond roedd Cymru yn rhy gryf a gorffen gyda 6 gôl ar y blaen. Roedd yna ddathliadau dwbl i dîm Cymru wrth i Bethan Dyke dderbyn ei 50fed Cap, ar ôl ennill ei chap cyntaf yn 2014 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

TRIATHLON

Cafodd hanes ei greu yn y Triathlon, gyda Rhys Jones yn dod yn baratriathletwr cyntaf erioed Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Cafwyd perfformiad cadarn gan Rhys, a’i dywysydd Rhys James i orffen yn 4ydd safle trawiadol gyda Dave Ellis (a’i dywysydd Luke Pollard) o Dîm Lloegr ar frig y podiwm yn Sutton Park, Birmingham.

Nesaf oedd y Wib Cyfnewid Gymysg. Cafwyd perfformiadau gwych gan Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Dominic Coy a Non Stanford o flaen cefnogaeth aruthrol gan gefnogwyr Cymru. Arweiniodd Iestyn Harret y tîm at ddechrau cadarn gan drosglwyddo’r awenau i Olivia Mathias yn y 4ydd safle. Cynhyrchodd Olivia gymal trawiadol, gan orffen yn 3ydd, gan roi cyfle perffaith i Dominic Coy aros yn y frwydr i orffen ar y podiwm. Non Stanford a gwblhaodd y pedwarawd gyda chymal olaf hyderus a syfrdanol i arwain y tîm gyda medal arian a lle haeddiannol ar y podiwm. I Stanford, dyma’r darn olaf yn y jig-so a diweddglo perffaith cyn ei hymddeoliad.

Wales Netball beat Scotland