Crynodeb DIWRNOD 4 Tîm Cymru

Cefnogwyr angerddol Tîm Cymru yn dangos eu cefnogaeth yn Birmingham!

PAFFIO

Jake Dodd oedd y cyntaf i Dîm Cymru yn y ring ar brynhawn Llun. Roedd y paffiwr 27 oed yn erbyn Kolobe Retselisitsoe o Lesotho. Cadwodd Dodd pethau’n fyr wrth iddo ennill ei ornest gyda stop yn yr ail rownd, gan symud ymlaen i wyth olaf y gystadleuaeth. 

Yn sesiwn yr hwyr, mae Taylor Bevan yn dychwelyd am ei ail ornest o’r gemau yn yr 16 olaf. Roedd hi’n 2/2 i baffwyr Cymru heddiw, wrth i Taylor Bevan ennill ei ornest gyda stop yn y drydedd rownd a bydd yn symud ymlaen i’r chwarteri.

CODI PWYSAU

Gyda dechreuad cyson gwelwyd Christie yn codi’n gryf yn ei rownd gyntaf. Ar ôl clean a jerk terfynol trawiadol bu’r dorf gyfan yn cymeradwyo Christie i orffen yn 7fed.

Ar noson yn llawn tensiwn, er gwaethaf perfformiad gwych, ni chaniatawyd ail clean a jerk Faye gan orffen yn yr 8fed safle.

Dywedodd Christie wrth S4C, ‘Rydw i mor falch o fod yn Gymro. Roedd y dorf yn yr Arfordir Aur yn anhygoel ond mae cymaint o bobl wedi teithio yma heddiw a dydw i erioed wedi gweld torf debyg. Roedden nhw’n fy ngwthio i ymlaen i wneud yr hyn rydw i’n ei wneud.”

GYMNASTEG – ROWND DERFYNOL LLAWR DYNION

Fel rhan o drefn llawr gwych a deniadol, gwellodd Emil Barber ei sgôr cymhwyso o 0.150 i gymryd efydd hynod o agos. Yn anffodus syrthiodd Joe Cemlyn-Jones yn ystod ei drefn a gorffen yn yr 8fed safle. 

GYMNASTEG MENYWOD

Yn eu Rowndiau Terfynol Pob Cyfarpar cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad, rhoddodd Poppy Stickler a Jea Maracha berfformiadau eu bywydau i sicrhau’r 5ed a’r 10fed safle yn y drefn honno, llwyddiannau anhygoel i’r ddwy sydd ond yn 16 oed. Cafodd y ddwy gystadlaethau glân gyda threfn llawr Poppy yn arbennig yn ennyn diddordeb torf frwd yr arena. Roedd cefnogaeth y dorf yn anhygoel a rhaid cyfeirio’n arbennig at y tîm o gennin Pedr o Glybiau Gymnasteg Abertawe a Llanelli.

BEICIO TRAC

Nid oedd Tîm Cymru yn gallu ychwanegu at eu medalau ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth ym Mharc Beicio Lee Valley. Gorffennon nhw eu harhosiad pedwar diwrnod yn nwyrain Llundain gyda chwe medal, gyda’r Treialon Amser (dydd Iau) a’r Rasys Ffordd (dydd Sul) i ddod ar gyfer Beicio Cymru.

Fe fyddan nhw nawr yn symud i fyny i Firmingham i baratoi ar gyfer heriau oddi ar y trac ar ôl penwythnos hir yn yr unig leoliad y tu allan i Orllewin Canolbarth Lloegr.

Cychwynnodd Eleanor Victoria Coster, Emma Finucane a Rhian Edmunds, gan gystadlu yn Keirin y Menywod. Aeth Finucane ac Edmunds ymlaen i’r ras derfynol 1-6 gan orffen yn bedwerydd a chweched.

Aeth Joe Holt a Harvey McNaughton allan yn y Treial Amser 1000m i Ddynion, gan sicrhau amseroedd o 1.01.422 (8fed safle) a 1.02.659 (13eg) yn y drefn honno.

Ymddangosodd Ella Barnwell, Anna Morris a Megan Barker nesaf yn y Ras Scratch 10km a gafodd ei hatal dros dro ar ôl digwyddiad rhwng Byrony Botha (Seland Newydd) a Meenakshi Meenakshi (India) gydag 20 lap i fynd. 

Roedd Barker yn perfformio’n dda hyd at y pwynt hwnnw, gan ymuno ag ymwahaniad cyn y stop. Yn y diwedd gorffennodd yn 12fed tu ôl i Ella Barnwell (7fed) ac Anna Morris (8fed). Laura Kenny gipiodd y teitl, wedi ei hannog adref gan dorf fyddarol.

Ymddangosodd Rhys Britton, Joshua Tarling a William Roberts yn y digwyddiad olaf ar y trac, Ras Scratch 40km y Dynion, ond ni lwyddon nhw i osod her am fedal i ragori ar nifer y medalau a gipiwyd ar Arfordir Aur. Ni orffennodd Britton a Roberts tra daeth Tarling â ras hiraf y cyfarfod i ben (160 lap) mewn seithfed safle clodwiw.

BOWLS LAWNT

Cafodd medal gyntaf y dydd ei chipio gan driawd y dynion a fethodd o drwch blewyn ar le yn y gêm fedal aur y bore ‘ma. Prynhawn yma, fe wnaethon nhw sicrhau’r efydd yn erbyn Fiji (21 – 7). Pymtheg munud yn ddiweddarach, roedd parau’r dynion wedi ennill eu rownd gyn derfynol i warantu arian iddynt yn eu gêm yn erbyn Lloegr yfory. 

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, cymeradwyodd y tîm y cefnogwyr o Gymru: “Mae’r cefnogwyr yn anhygoel, mae’n teimlo fel ein bod ni’n chwarae yng Nghymru. Mae pocedi o gefnogwyr a gallwch eu clywed pan fyddwch chi’n chwarae ac mae’n eich gwthio ymlaen yn fawr.”

JIWDO

Enillodd holl jiwdociaid Cymru eu gemau rownd gyntaf. Collodd Daniel Rabbitt, Gregg Varey ac Ashleigh-Anne Barnikel eu gemau repechage yn ddiweddarach ac felly ni wnaethant symud ymlaen i’r gemau medal gyda’r nos.

SBONCEN

Mewn gêm a brofodd yn wefreiddiol, roedd Joel Makin yn chwarae’n drawiadol i guro Eain Yow Ng o Falaysia mewn 4 gêm i sicrhau lle yn rownd gynderfynol y dynion (11-4, 9-11, 11-3, 11-9 ) Nid oedd y gêm heb ei drama gyda gwrthwynebydd Makin yn disgyn a chafodd y gêm ei hatal am amser anafiadau wrth iddo dderbyn triniaeth.

Roedd Joel wrth ei fodd gyda’r fuddugoliaeth a siaradodd wedyn ‘Dechreuais i’r gêm yn dda ond pob clod iddo fe wnaeth pethau’n anodd ac roedd yn gêm stop-dechrau gydag egwyl anaf gwaed ac ni chafwyd dilyniant yn y chwarae y byddwn i wedi ei ddymuno.’

‘Mae’n rhaid i chi gadw ar y sgôrfwrdd, cymryd eich cyfle a dwi’n meddwl i mi wneud ychydig o waith iddo’n gorfforol a dechreuais ei frifo a thuag at y diwedd fe dalodd hynny ar ei ganfed!’

Yn y cyfamser yn rownd yr wyth olaf y menywod cafodd Emily Whitlock ei churo gan Sarah Jane Perry mewn 3 gêm gyda chwaraewr Lloegr yn ennill 11-6, 11-6, 11-6.

TENIS BWRDD

Llwyddodd tîm y menywod i sicrhau’r safle uchaf erioed i dîm menywod Cymru yn hanes Gemau’r Gymanwlad er iddyn nhw golli 3-0 i Awstralia yn y gêm fedal efydd. Brwydrodd y menywod yn ddewr, gan roi pwysau ar y ffefrynnau am y fedal Aur, Awstralia. 

Yn dilyn newid mewn tactegau gwelwyd Charlotte a Chloe yn paru ar gyfer y gêm dyblau, ac yna Anna yn rownd gyntaf y senglau a Charlotte yn rownd olaf. Gyda nifer o setiau yn cael eu penderfynu gan fwlch o ddau farc.

Bydd Charlotte nawr yn symud ymlaen i gystadlu yn y senglau, y dyblau wedi’i pharu ag Anna Hursey a chystadleuaeth dyblau cymysg wedi’i pharu â Callum Evans. 

Bydd Anna hefyd yn cystadlu yn y senglau a’r dyblau ynghyd â Charlotte. 

Bydd Chloe hefyd yn cystadlu yn y categori senglau a dyblau ynghyd â Lara Whitton. 

Bydd Lara yn cystadlu yn y categori dyblau wedi’i pharu â Chloe.

“Mae hyn yn dorcalonnus, ond rwy’n meddwl mai neithiwr oedd y siom fwyaf. Roedd yn dorcalonnus, oedd hi mor agos. Roedd gennym gyfle da iawn ac roedd hi’n anodd codi ein hunain o hynny.

Rydyn ni’n uned gref iawn ac yn ffrindiau da iawn. Roedd pawb, hyd yn oed y rhai nad oedd yn chwarae, y chwaraewyr para, y dynion a hyd yn oed y ffysio yn ein codi neithiwr. Yn amlwg roedd yn dorcalonnus colli ddoe.

Heddiw fe wnaethon ni roi popeth o fewn ein gallu, ond Awstralia oedd y tîm gorau. Roeddwn yn disgwyl iddynt ennill medal aur. Yn amlwg roedden nhw wir eisiau cipio’r fedal honno a chwarae teg iddyn nhw. Fe wnaethon nhw chwarae’n dda iawn.”

Charlotte Carey

HOCI

Cipiodd carfan hoci menywod Cymru eu buddugoliaeth gyntaf ar Ddiwrnod 4, gan guro Ghana 4 – 0. Enillodd Beth Bingham ei chanfed cap dros Gymru hefyd. 

Maen nhw’n chwarae Lloegr fore Iau yn eu gêm grŵp olaf.

NOFIO

Bu Charlotte Evans yn cystadlu yn rownd derfynol y 200m dull cefn gan orffen yn 6ed. Er ei bod yn siomedig gyda’i nofiad olaf, roedd Charlotte wrth ei bodd o fod wedi cyrraedd rownd derfynol yn ei phencampwriaethau mawr cyntaf. 

Cystadlodd Kyle Booth yn rownd gyn derfynol 50m dull broga, gan ddod yn 8fed mewn maes hynod gystadleuol. Dywedodd fod yr awyrgylch yn ‘hollol drydanol’

Daeth Rebecca Sutton yn 6ed yn rownd gyn derfynol y 100m, gan guro ei record Gymreig ei hun. 

Daeth Lewis Fraser yn 5ed yn rownd gyn derfynol 100m pili-pala gan nofio PB mewn 52.81 eiliad. 

Gorffennodd Joe Small yn 8fed yn rownd derfynol y 50m pili-pala. Roedd mor ddiolchgar y gallai ei deulu a theulu ei gariad gael tocynnau munud olaf i’w gefnogi.

Gorffennodd Harriet Jones yn 6ed yn rownd derfynol y 50m pili-pala ac yn falch iawn gyda’i pherfformiad mewn ras mor gystadleuol. 

Gorffennodd tîm ras gyfnewid dull rhydd 4 x 200m y dynion yn y 4ydd safle, poenus o agos ar ôl bod yn 2il am fwyafrif y ras. Llwyddodd y tîm oedd yn cynnwys Matt Richards, Callum Jarvis, Dan Jones a Kieran Bird i dorri record Cymru o 5 eiliad mewn amser o 7.10.64. Roedd y tîm yn falch ac yn emosiynol yn dilyn yr hyn oedd yn ras olaf un eu cyd-nofiwr Callum Jarvis.