Crynodeb DIWRNOD 2 Tîm Cymru

Gorau personol, goreuon y tymor a record Gymreig!

  • Diwrnod 2 cryf i Dîm Cymru
  • Emma Finucane yn cipio medal efydd yng ngwib y menywod (seiclo)
  • Record Gymreig newydd wedi ei gosod yn ras gyfnewid dull rhydd 4x100m y dynion
  • Gorau’r tymor gan Dewi Griffiths, Clara Evans a Nata yn y Marathon

BOWLS LAWNT

Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod lwyddiannus ar y lawnt fowlio i Dîm Cymru. Yn gyntaf, yn sesiwn y bore, cafodd triawd y Dynion fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Ynys Norfolk gan sgorio 31 pwynt. Cafodd Pâr Para’r Dynion oedd yn cynnwys Paul Brown a Chris Spriggs eu trechu o drwch blewyn gan Seland Newydd. Mae gan y pâr fwy o rowndiau i’w chwarae.

Parhaodd Laura Daniels â’i rhediad diguro wrth iddi hawlio buddugoliaeth yn erbyn Tania Choudury o’r India. Yn rownd 4, profodd Laura’n rhy gryf unwaith eto gan sicrhau buddugoliaeth arall yn erbyn Shauna O’Neill o Ogledd Iwerddon. 

Cipiodd parau’r dynion sy’n cynnwys Jarrad Breen a Daniel Salmon bedwaredd fuddugoliaeth Cymru o’r dydd, gydag arddangosfa ddominyddol yn erbyn Jamaica. Enillodd Cymru un rownd arall yn y prynhawn ym Mhedwarawd y Menywod. Fodd bynnag, cafodd ddau bâr y Dynion (para) ddwy golled yn eu rowndiau. 

NOFIO

Bore prysur o ragrasys, noson o rowndiau cynderfynol a rowndiau terfynol gyda thyrfa lawn yng Nghanolfan Sandwell Aquatics, gyda digon o grysau coch a baneri Cymru yn cefnogi’r tîm.

ROWNDIAU TERFYNOL

Dull Pili-pala 50m i ddynion

Lewis Frazer 23.71

7fed

Dull Rhydd 200m i ddynion

Callum Jarvis 1:47:85
Matthew Richard 1:47:19

7fed
5ed

Dull Pili-pala 100m i fenywod

Harriet Jones 59:02

6ed

Rownd Derfynol Ras Gyfnewid Dull Rhydd 100m i ddynion

 

4ydd

Gorffennodd Charlotte Evans yn 6ed a chymhwysodd Medi Harris ar gyfer rownd derfynol y 100m dull cefn a dywedodd:

“Pe baech chi wedi dweud wrthyf flwyddyn yn ôl y byddwn i’n nofio ar y lefel hon, fyddwn i ddim wedi eich credu. Rydw i mor hapus ac mor falch o fod yma ac alla i ddim aros am y rownd derfynol.”

RYGBI 7 DYNION

Yn sicr ni wnaeth dynion Cymru hi’n gêm hawdd i dîm nerthol Fiji. Gyda phâr o geisiau trawiadol gan Lloyd Lewis, roedd y gêm yn llawn cyffro drwyddi draw. Sgôr terfynol Cymru 24 – 38 Fiji. Roedd hyn yn golygu eu bod wedi gorffen yn 3ydd yn eu grŵp ac felly byddant yn chwarae gemau ailgyfle yn erbyn timau eraill a orffennodd yn 3ydd neu 4ydd yn eu grwpiau.

Profodd y gêm ail gyfle gyntaf yn erbyn Malaysia heno fod dynion Cymru wedi’u hysgogi i chwarae rygbi gwych hyd y diwedd, gan arwain at fuddugoliaeth 33 – 14 i Dîm Cymru.

Yfory maen nhw’n wynebu Lloegr yn yr hyn a fydd yn gêm llawn tensiwn yn y Coventry Arena.

HOCI DYNION

Perfformiad cwbl ddominyddol gan ddynion Cymru a arweiniodd at fuddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Canada. Er gwaethaf rhai arbediadau trawiadol gan gôl-geidwad Canada, fe brofodd ffliciau-llusg Gareth Furlong yn y corneli cosb yn ormod a llwyddodd i sgorio 4 gwaith. Aeth Gareth Griffiths â chyfanswm Cymru i 5 gydag ergyd syfrdanol. Llwyddodd gôl-geidwad Cymru, Toby Reynolds-Cotterill, gyda chyfres o arbediadau trawiadol ac er gwaethaf gôl hwyr gan y Canadiaid yn y 58fed munud, daliodd y tîm ymlaen am fuddugoliaeth argyhoeddiadol. 

Dathlodd Dan Kyriakides ei 100fed cap i Gymru.

HOCI MENYWOD

India 3-1 Cymru

Er gwaethaf rhai eiliadau amddiffynnol ac ymosodol anhygoel ar y cae heddiw, llwyddodd India i drechu Cymru. Ar ddiwedd y chwarter cyntaf, trosodd India ddwy gic gosb i ddyblu’r fantais. Cafwyd perfformiad anhygoel gan Rose Thomas ar ôl gwneud arbedion hollbwysig i wadu tîm cryf India. Cipiodd Gymru gôl yn ôl yn y trydydd chwarter ar ôl cymryd y fantais o gic gosb serch hynny yn fuan wedyn ychwanegodd India at y sgôr. Pawb yn edrych ymlaen at y gêm Ddydd Mawrth!

SBONCEN

Agorodd Emyr Evans y cystadlu i Gymru yn y sboncen yn erbyn Mohammed Kamal o Falaysia. Cipiodd Evans y gêm gyntaf 11-8, gan ddangos goruchafiaeth bellach wrth gipio’r ail gêm 11-3. Daeth Kamal yn ôl yn y set gyntaf gan guro Emyr 11 pwynt i 7. Fodd bynnag, daeth Emyr o hyd i’w gryfder yn y bedwaredd gêm i gipio’r fuddugoliaeth o 3 gêm i 1. Nesaf oedd Peter Creed yn erbyn David Baillargeon o Ganada. Cipiodd y gŵr o Ganada Peter y gêm gyntaf 11-8, ond Creed ddaeth i’r brig yn y gêm ganlynol 11-6. Serch hynny, doedd hi ddim i fod i Peter wrth i Baillargeon gipio’r ddwy gêm arall i symud ymlaen i’r rownd nesaf.

Gwelodd sesiwn yr hwyr y tri ymgeisydd o Gymru yn symud ymlaen. Dechreuodd cludwr baner Tîm Cymru, Tesni Evans ei hymgyrch am fedal heno yn erbyn Amanda Haywood o Farbados. Mewn agoriad dominyddol gwelwyd enillydd medal efydd 2018 yn cipio’r ddwy gêm gyntaf yn gyflym ac yna’r drydedd i gipio’r fuddugoliaeth o 3-0.

Emily Whitlock oedd nesaf yn y rownd o 32 sengl i fenywod yn erbyn cynrychiolydd India 14 oed, Anahat Singh. Sicrhaodd Whitlock y ddwy gêm gyntaf, ond llwyddodd Singh i dynnu un yn ôl yn y drydedd. Fodd bynnag, Emily gipiodd y fuddugoliaeth yn y diwedd gan ennill 3-1 a bydd yn ymuno â Tesni yn y rownd o 16. 

I gloi’r gemau’r Cymry ar y cyrtiau oedd y seithfed detholyn Joel Makin yn wynebu Michael Kawooya o Uganda. Daeth Makin y pedwerydd athletwr o Gymru ar y cyrtiau heddiw i symud ymlaen wrth iddo ddominyddu i ennill 3-0. 

BEICIO TRAC


Enillodd Emma Finucane ei hail fedal a thrydedd fedal Tîm Cymru o Firmingham 2022 ym Mharc Beicio Lee Valley.

Symudodd y tri beiciwr o Gymru ymlaen yn ddiogel i rowndiau terfynol 1/8 Gwib y Menywod lle rasiodd y chwaraewr 19 oed yn erbyn Luisa Steele o’r Alban, gan roi perfformiad cryf i symud ymlaen.

Daeth yr ornest rhwng dwy Gymraes a’r cyd-feicwyr Lowri Thomas a Rhian Edmunds i ben gyda gwrthdrawiad a Thomas yn disgyn. Dihangodd gyda dim ond ychydig o gytiau a chleisiau ond o ganlyniad, cafodd Edmunds ei pharu gyda’r pencampwr Olympaidd Kelsey Mitchell yn y rownd nesaf ond collodd ei brwydr gorau o dri yn erbyn y Canada.

Wynebodd Finucane, sy’n enedigol o Gaerfyrddin, Kristina Clonan yn rownd yr wyth olaf yn y ‘gorau o dri’ a chollodd ei ras gyntaf o drwch blewyn, bu’n rhaid craffu ar y lluniau i bennu’r buddugol ac fe gollodd o ddim ond 5/1000 eiliad. Fodd bynnag, cafodd y canlyniad ei wrthdroi eiliadau’n ddiweddarach ar ôl camwedd gan yr Awstraliad. Cafodd ei churo yn yr ail ond enillodd y drydedd i hawlio lle yn y pedwar olaf yn erbyn Mitchell, sydd hefyd â record byd gwibio 200m.

Roedd Mitchell yn rhy gryf ar y diwrnod, gan ennill y ddau gymal cyntaf i gyrraedd y rownd derfynol tra bod Finucane yn cystadlu yn rownd derfynol y fedal efydd gyda Sophie Capewell o Loegr. Cynhyrchodd berfformiad llawn brwdfrydedd a phenderfyniad i ddod yn ôl o siom cynnar a chipio ei hail fedal mewn ychydig ddyddiau o flaen torf gartref aflafar.

Yn gynharach yn y dydd roedd Ella Barnwell (3:34.064) ac Anna Morris (3:26.386) wedi methu cyrraedd y pedwar safle rhagbrofol uchaf yn y 3000m Unigol ar gyfer y Menywod.

Ac fe gollodd William Roberts ei ras ragbrofol gyda Daniel Bigham o Loegr yn gosod record Gemau newydd o 4.11.078 yn y 4000m Unigol Ymlid i Ddynion. Cafodd Joshua Tarling ei guro gan Tom Sexton o Awstralia.

ATHLETAU (MARATHON)

Roedd tyrfaoedd mawr yn Smithfield bore ma i gefnogi’r Marathon. Yn gyntaf roedd Dewi Griffiths a groesodd y llinell derfyn yn yr 11eg safle gydag amser gorau’r tymor o 2.17.58.

”Rwy’n hapus iawn gyda hynny, ac mae’n wych cael fy nheulu a ffrindiau yn gwylio. Yr hyn sy’n bwysig i mi yw fy mod wedi mwynhau hynny’n fawr ac rwy’n hapus gyda’r amser.’

Yn ras y Menywod, gorffennodd Clara Evans a Natasha Cockram yn y 9fed a’r 12fed safle yn y drefn honno. Cafodd y ddwy amser gorau’r tymor (Clara 2.38.03, Natasha 2.40.18).

GYMNASTEG

5ed Safle Rownd Derfynol Tîm y Dynion

Cafwyd perfformiad gwych gan ein tîm ifanc 15 ac 16 oed yng nghystadleuaeth y llawr. Er gwaethaf anaf diweddar, rhoddodd Mali Morgan ddwy lofnaid lân a llwyddodd Poppy Stickler i gynhyrfu’r arena gyda’i pherfformiad llawr gwych ac atyniadol. Roedd cefnogwyr Cymru yn uchel eu cloch a gyda gwisgoedd anhygoel, roedd ein Tîm Artistig Dynion hyd yn oed yn bresennol yn eu siwtiau Seremoni Agoriadol Julien McDonald i gefnogi’r menywod mewn steil. Gall y tîm fod yn hynod falch o’u perfformiad a sicrhau eu bod wedi cymhwyso mewn 5 camp unigol.

Rownd Derfynol Pob Cyfarpar

Jea Maracha a Poppy Stickler

31ain Gorffennaf 14:30pm

Rownd Derfynol Trawst

Jea Maracha a Sofia Micallef

2il Awst 14:05pm

Rownd Derfynol Llawr

Poppy Stickler

2il Awst 15:30pm

TENIS BWRDD

ROWND 3

Curodd tîm y Menywod Ganada sy’n bedwerydd detholion yn rownd olaf y grŵp, i gyrraedd brig eu grŵp. Gan gipio tair gêm i ennill y gyntaf gwelwyd Chloe Thomas Wu Zhang ac Anna Hursey yn ennill pwynt y gêm gyntaf i fynd ar y blaen. Nesaf oedd gweddill y gemau sengl, collodd Charlotte Carey o drwch blewyn i enillydd medal Efydd Canada ar yr Arfordir Aur, Mo Zhang sydd yn safle 153 yn uwch na hi yn y byd. Gyda sgôr yn gyfartal dychwelodd Hursey i’r cwrt gan roi Cymru ar y blaen unwaith eto gyda thair buddugoliaeth o’r bron. Roedd Cymru bellach 2-1 ar y blaen gyda Thomas Wu Zhang i wynebu Mo Zhang ond er gwaethaf ei hymdrech aruthrol colli fu ei hanes. Gyda’r sgôr yn gyfartal unwaith eto dychwelodd Carey i’r cwrt, gan ennill y tair gêm yn erbyn Sophie Gauthier y tro hwn i anfon y tîm drwodd i’r Rownd Gynderfynol.

‘Dydi hi byth yn hawdd pan mae pethau mor agos ac mae’n 2-2 felly, gall unrhyw un ennill gyda’r nerfau. Yn bendant fe wnaethom roi perfformiad da, fe wnaeth pob un ohonom yr hyn a allem a chymerodd pob un ohonom un pwynt felly rydym i gyd yn hapus iawn â hynny.

Y Chwarteri

Ar ôl bwrw’r pedwerydd detholion, Canada, allan yn gynharach heddiw, nesaf oedd y tîm cartref, Lloegr. Cawsant ddechrau llwyddiannus arall gyda’r ddeuawd Chloe Thomas Wu Zhang ac Anna Hursey yn ennill 3-1. Nesaf oedd Carey i wynebu Rhif Un Lloegr Tin Tin Ho. Mewn gornest hynod agos, curodd Carey ei chystadleuydd am fuddugoliaeth enfawr ar Lwyfan y Byd, gan ennill ei gêm 3-1. Roedd y gêm pwynt gêm nawr gyda Hursey. Curodd y chwaraewr 16 oed Maria Tsaptsinos 3-0 i anfon y tîm drwodd i’r Rownd Gynderfynol, gan ennill eu gêm 3-0.