Crynodeb DIWRNOD 1 Tîm Cymru

Dechrau cryf i Dîm Cymru ar Ddiwrnod 1 o Gemau Cymanwlad Birmingham!

  • Medalau cynnar i Dîm Cymru ar Ddiwrnod 1 y Gemau
  • 1x Arian, 1x Efydd ar gyfer Beicio (gweler isod)
  • Record newydd i Gymru yn y pwll diolch i Lewis Frazer
  • Perfformiadau ysbrydoledig yn gyffredinol, gyda rhagrasys a gemau rhagbrofol yn parhau ar gyfer llawer o gampau

 

NOFIO

Bore prysur o ragrasys yn y pwll gyda pherfformiadau arbennig o gryf gan Dan Jervis (400m dull rhydd), Lewis Frazer (50m pili pala), Alys Thomas (100m Pili-pala), Harriet Jones (100m Pili-pala) a’r tîm cyfnewid cymysg – oll yn sicrhau rasys yn y sesiwn yr hwyr.

Gan sicrhau amserau gorau personol yn ei ragrasys, aeth Lewis Frazer ymlaen i dorri record Cymru yn rownd gynderfynol 50m Pili-pala gyda pherfformiad syfrdanol o 23:57.

Stori orau’r noson oedd y tîm cyfnewid cymysg, oedd heb dîm bedair blynedd yn ôl. Wrth siarad am eu perfformiad ysbrydoledig a’u gwelodd yn cyrraedd y 4ydd safle yn y rownd derfynol, dywedodd Rebecca Sutton: ‘Dwi mor falch o gynrychioli fy ngwlad. Mae’n anhygoel pa mor bell yr ydym wedi dod, i nofio fel ‘na, mewn mater o flynyddoedd. Rydyn ni’n nofio yn erbyn goreuon y byd a bu bron i ni gael yr efydd sy’n gamp anhygoel i’r tîm i gyd.”

 

SESIWN Y BORE            

Rhagrasys Dull Rhydd 400m Dynion        Keiran Bird 3:50:30

Daniel Jervis 3:50:13     4ydd

5ed

Rhagrasys Pili-pala 50m Dynion  Lewis Frazer 23:73(PB)

Tom Carswell 24:29       3ydd

6ed

Rhagrasys Cefn 100m Dynion     Liam White 55:90

Joe Small 55:13 6ed

5ed

Rhagrasys Pili-pala 100m i Fenywod       Alys Thomas 59:11

Harriet Jones 59:25       3ydd

3ydd

Rhagrasys Dull Broga 200m Dynion        Kyle Booth 2:14:02        3ydd

Rhagrasys Cyfnewid Dull Rhydd Cymysg 4x 100m            3:29:66 2il

SESIWN HWYROL                     

Rownd Derfynol 400m Dull Rhydd Dynion          Dan Jervis 3:51:19         8fed

Rownd Gynderfynol Pili Pala 50m Dynion           Lewis Frazer 23:57 (record Cymru)         3ydd (Q)

Dull Cefn 100m Dynion  Joe Small 55:22

Liam Gwyn 55:68          5ed

7fed

Rownd Gynderfynol 100m Pili Pala i Fenywod     Harriet Jones 58:90

Alys Jones 59:16            4ydd (Q)

5ed

Rownd Derfynol Ras Gyfnewid Dull Rhydd Cymysg 4x 100m        3:26:58 4ydd

PÊL-RWYD

 

Chwarter cyntaf: JAM 16-12 CYM

 

Ail chwarter: JAM 38-22 CYM

 

Trydydd chwarter: JAM 55- 31 – CYM

 

Diwedd y gêm: JAM 72 – 43 CYM

 

Agorodd tîm Cymru Sara Moore eu hymgyrch yn y Gymanwlad yn erbyn y pedwerydd detholion, Jamaica. Ar ôl chwarter cyntaf gwych, Jamaica ddaeth i’r brig. Bydd Cymru yn edrych i daro’n ôl wrth iddyn nhw wynebu’r Alban brynhawn Sul.

 

PAFFIO

 

Collodd Haaris Khan, yn ei ymddangosiad cyntaf yn Gemau’r Gymanwlad, yn rownd gyntaf yr adran pwysau canol 71-75kg, rownd o 32 i Lewis Richardson o Loegr yn y sesiwn gynnar. Gyda’r nos fe enillodd Taylor Bevan, sy’n disgyn o dan adran pwysau trwm ysgafn y dynion (71-80kg), ei ornest rownd 32 yn erbyn Onyx Lye o Seland Newydd gan ei lorio yn y rownd gyntaf! Fe fydd Bevan yn mynd ymlaen i frwydro yn rownd yr 16 nos Lun yn erbyn Jancen Poutoa o Samoa. Nos Lun hefyd bydd Jake Dodd yn cystadlu am le yn y rownd nesaf.

 

TENIS BWRDD

 

Cafodd Tîm Menywod Cymru ddechrau perffaith gyda dwy fuddugoliaeth o ddwy, gan sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf. Enillodd y tîm y tair set yn y ddwy gêm. Bydd y tîm nawr yn wynebu Canada i benderfynu pwy fydd ar frig y grŵp.

 

Canlyniadau: Tenis Bwrdd – Rownd 1 3-0 Cymru – Rownd 2 3-0 Cymru

 

“Perfformiad cadarn heddiw gan y tîm i gyd, ac fe ddangoson ni ysbryd tîm gwych. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y gêm yfory yn erbyn Canada i weld pwy fydd ar frig y grŵp” – Chloe Thomas Wu Zhang

 

BEICIO

 

Llwyddiant cymysg i dîm beicio Tîm Cymru ym Mharc Beicio Lee Valley, wrth i’r tîm fynd i sesiwn y prynhawn gyda’r siawns o gipio pedair medal, gan fynd ymlaen i sicrhau’r ddwy gyntaf i’r tîm ym Mirmingham 2022.

 

Gosododd James Ball a Matthew Rotherham record newydd o 1:00:053 yng Ngemau’r Gymanwlad i warantu arian yn Nhreial Amser 1000m Tandem B Dynion. Yn anffodus o’u safbwynt hwy, tynnodd y pâr Albanaidd o Neil Fachie a Lewis Stewart 0.115 eiliad yn unig oddi ar yr amser eiliadau’n ddiweddarach i gadarnhau’r aur. Gorffennodd Alex Pope a Steffan Lloyd yn bumed.

 

Nesaf fe fethodd Megan Barker, Ella Barnwell, Anna Morris a Jessica Roberts o drwch blewyn yn Nhîm 4000m y Menywod, gyda Lloegr yn ennill gyda’r fantais leiaf.

 

Yna roedd pedwarawd o Rhys Britton, Joe Holt, William Roberts a Joshua Tarling yn wynebu Awstralia yn rownd derfynol medal efydd 4000m Tîm Ymlid y Dynion ond fe gawson nhw eu curo tua’r diwedd i sicrhau pedwerydd safle arall.

 

Daeth cyfle olaf Tîm Cymru o’r diwrnod agoriadol yng Ngwib Tîm y Menywod. Roedd Lowri Thomas, Rhian Edmunds, Emma Finucane wedi colli yn boenus o agos yn ystod rhagras y bore ond gwnaed yn iawn gyda pherfformiad cryf yn erbyn Awstralia i gipio’r efydd yn rownd derfynol y medalau.

 

TRIATHLON

 

Canlyniadau dynion; Gorffennodd Iestyn Harret yn gryf yn y 9fed safle, y safle uchaf i un o driathletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Gorffennodd y dyn ifanc addawol Dominic Coy yn 18fed yn ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad.

 

Canlyniadau menywod; Gorffennodd Non Stanford yn 6ed yn ei hail Gemau’r Gymanwlad. Gan edrych yn gryf a bellach yn canolbwyntio ar ras cyfnewid gymysg dydd Sul, dywedodd, cyn iddi ymddeol o gystadlu yn y Gemau’r Gymanwlad,

 

‘Dyma fy Ngemau’r Gymanwlad olaf felly roeddwn i’n benderfynol o fynd allan yna gyda gwên. Roeddwn i’n teimlo’n gryf, wnes i ddim stopio gwenu a mwynhau bod yng nghit Cymru”

 

SBONCEN

 

Emyr Evans a Peter Creed ill dau yn cymhwyso ar gyfer rownd nesaf senglau’r dynion.

 

BOWLS LAWNT

 

Setiau o gemau agos i barau’r dynion, senglau menywod, pedwarawd menywod, gyda buddugoliaethau i’r parau dynion yn erbyn De Affrica a gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon yn nhriawd y dynion.

 

HOCI

 

Er gwaethaf hanner cyntaf cryf iawn, collodd ein tîm menywod o 4-0 i Ganada. Gwrthodwyd gôl hanner cyntaf hollbwysig i Gymru a methodd Sian French y fflic dilynol. Er gwaethaf amddiffyn trawiadol a Xenna Hughes yn rhoi ei hun (yn llythrennol) ar y llinell i atal gôl Canada, roedd eu hymosodiad yn rhy gryf.

 

Y gêm hon oedd 50fed cap Sophie Robinson i Gymru.

 

GYMNASTEG ARTISTIG DYNION

 

Go brin y gallai dynion Cymru fod wedi rhoi perfformiad glanach. Roedd trefn bariau cyfochrog Brinn Bevan bron yn berffaith, roedd yr arena gyfan yn llawn cynnwrf wrth wylio trefn llawr Emil Barber gyda glaniadau hynod o lân. Cwblhaodd Josh Cook, Jacob Edwards a Joe Cemlyn-Jones gystadlaethau trawiadol iawn. Er gwaethaf y perfformiad anhygoel hwn fe orffennodd y tîm yn 6ed yn dilyn israniad terfynol cryf iawn.

 

Rowndiau Cymhwyso:

 

Rownd derfynol o amgylch popeth         Joe Cemlyn-Jones 12fed

Josh Cook – 15fed          Rownd Derfynol Yn digwydd ar Fore Sul 9am

Rownd derfynol y llawr  Emil Barber- 4ydd

Joe Cemlyn-Jones- 6ed  Rownd derfynol yn digwydd prynhawn dydd Llun 1pm

Llofnaid      Emil Barber- 5ed       Prynhawn dydd Mawrth 1pm

Bariau cyfochrog           Brinn Bevan 4ydd          Prynhawn dydd Mawrth 2pm

RYGBI 7 DYNION

 

Roedd hi’n ddechrau siomedig i’r dynion yn erbyn Canada bore ‘ma, eu cystadleuwyr agosaf yn dod i mewn i’r Gemau. Fodd bynnag, fe lwyddon nhw i ddod dros eu siom gynnar i guro Zambia mewn buddugoliaeth gyffrous o 38 – 5 heno. Roedd digon o gefnogaeth o Gymru yn yr arena ac mae’r fuddugoliaeth honno wedi eu cadw yn y frwydr am fedal posib. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd angen iddyn nhw guro pencampwyr Olympaidd ddwywaith, Fiji, yfory, os am gyfle i sicrhau’r fedal honno.