Cyhoeddi Geraint Thomas a Tesni Evans yn gludwyr baneri Tîm Cymru

Am y tro cyntaf, bydd dau athletwr yn arwain Tîm Cymru yn y Seremoni Agoriadol ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022

Cyhoeddodd Tîm Cymru heddiw’r ddau athletwr a fydd yn cario baner Cymru yn y seremoni agoriadol ddydd Iau 28 Gorffennaf, 2022.

Geraint Thomas (Beicio) a Tesni Evans (Sboncen) fydd yn arwain Tîm Cymru ar lwyfan y byd cyn 11 diwrnod o gystadlu.

Bydd Geraint Thomas, pencampwr Tour de France, Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad yn amddiffyn ei deitl Aur Gemau’r Gymanwlad 2014. Enillodd Tesni Evans fedal sboncen gyntaf erioed Cymru i fenywod yn ystod Gemau’r Gymanwlad 2018. Bu hefyd yn cystadlu yng Ngemau Glasgow 2014.

Dyma’r tro cyntaf i ddau gludwr baner gynrychioli pob cenedl. Arwyddair Birmingham 2022 yw ‘Gêm i bawb/A Games for everyone’, gyda rhaglen o ddigwyddiadau i gyrraedd mwy o gynulleidfaoedd gyda mwy o fedalau ar gael i fenywod nag unrhyw Gemau eraill.

Geraint Thomas, athletwr Tîm Cymru:

“Mae ennill y ras ffordd yng Nglasgow 2014 lan yna gyda dyddiau gorau fy ngyrfa. Bydd hi’n arbennig iawn cystadlu yng nghrys Cymru eto.”

Tesni Evans, athletwraig Tîm Cymru :

“Alla i ddim credu mai fi yw cludwr baner Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Rwy’n teimlo hi’n fraint ac yn anrhydedd mawr, a bydd cerdded ochr yn ochr â Geraint ac arwain y tîm cyfan yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori.”

Nicki Phillips, Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru:

“Hoffwn longyfarch Geraint a Tesni. Maent yn athletwyr hynod lwyddiannus yn eu campau eu hunain ac yn llysgenhadon gwych dros Gymru.

Mae cario’r faner o flaen y tîm yn anrhydedd i gydnabod perfformiad ac agwedd ac mae gan y ddau athletwr hyn ein parch a’n diolch.

Mae’r seremoni agoriadol bob amser yn ddigwyddiad cyffrous, gan gadarnhau dechrau’r Gemau.”