2022 Commonwealth Archery and Shooting Championships: CANCELLED

Yn dilyn adolygiad o Bencampwriaethau Saethyddiaeth a Saethu'r Gymanwlad 2022 y trefnwyd eu cynnal yn India, mae'r penderfyniad anodd wedi'i wneud i ganslo'r digwyddiad. Daw hyn ar ôl ystyried sawl ffactor yn ofalus, gan gynnwys yr ansicrwydd estynedig a grëwyd gan y pandemig byd-eang parhaus.

Gwnaed y penderfyniad gan Fwrdd Gweithredol Gemau'r Gymanwlad India (CGI) gyda chefnogaeth Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (CGF).
Dywedodd Llywydd CGF, y Fonesig Louise Martin DBE: "Rydyn ni’n siomedig na fydd Pencampwriaethau Saethyddiaeth a Saethu'r Gymanwlad 2022 yn digwydd mwyach, fodd bynnag, dyma'r penderfyniad cywir i'w wneud yn yr hinsawdd sydd ohoni.

Er gwaethaf y newyddion hyn, mae nifer o wersi allweddol a fydd o fudd i'n gwaith parhaus wrth i ni geisio arloesi a chreu Eiddo newydd Chwaraeon y Gymanwlad. Mae cysyniad Chandigarh 2022 wedi nodi cyfleoedd cyffrous o ran posibiliadau cynnal ar y cyd yn y dyfodol y mae'n rhaid i ni eu harchwilio ymhellach.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Tîm India i Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins, 

"Mae hyn yn siom i’r gamp ac i'r athletwyr a oedd wedi gobeithio cynrychioli Tîm Cymru ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, ond oherwydd yr ansicrwydd parhaus rydym yn llwyr gefnogi'r CGF a CGI ar eu penderfyniad. Rydym yn parhau i baratoi ar gyfer Birmingham 2022 yr haf nesaf."