Ffarwelio â Chris

Cyhoeddodd Chris Jenkins, cyn Brif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW), ei fod yn ymddeol yn gynharach eleni ar ôl 17 mlynedd. Ymunodd â CGW am y tro cyntaf yn 2005 a daeth yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2010.

Mae Chris wedi bod yn gweithio gyda chwaraeon Cymru ar gyfer y pum gêm ddiwethaf ac mae wedi helpu i lunio proses deg ac agored o ddewis aelodau. Mae hefyd wedi datblygu rhwydwaith o’r radd flaenaf i roi cymorth i athletwyr yn y Gemau.

O dan arweiniad Chris, symudodd CGW ei ffocws o ganolbwyntio ar un digwyddiad bob pedair blynedd i sicrhau bod chwaraeon yn cael sylw yng Nghymru bob dydd. Mae’r newid hwn wedi creu cyfleoedd i weithio gydag ysgolion ledled Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ymgysylltu ag Ysgolion, dan arweiniad Cathy Williams, y Pennaeth Ymgysylltu. Yn unol â hyn, mae partneriaeth â Phrifysgol De Cymru wedi creu nifer o brosiectau cyffrous rhwng CGW a Phrifysgol De Cymru o ddylunio ffasiwn, sesiynau cryfder ac interniaethau.

Mae gan Chris atgofion melys o’i gyfnod yng ngemau Delhi: “Roedd hi wastad yn fraint cael fy ngwahodd i arwain Tîm Cymru fel Chef de Mission. Roedd fy rôl fel Chef de Mission yn Dehli 2020 yn un o’r rolau mwyaf heriol a llawn boddhad dwi wedi’u cael. Er gwaethaf yr heriau i ddechrau, roedd cael bod yn y Gemau a gynhaliwyd gan India yn brofiad diwylliannol ac yn brofiad chwaraeon rhyfeddol.”

Yn ogystal â’r prif Gemau, bu Chris hefyd yn gweithio ar bedwar o Gemau Ieuenctid yn Pune, Ynys Wyth, Samoa a’r Bahamas. Mae hefyd wedi bod yn rhan flaenllaw o’r gwaith o drefnu a chynnal Ras Gyfnewid Baton y Frenhines ledled Cymru cyn pob Gem ym Manceinion, Delhi, Glasgow, Gold Cost a Birmingham.

Er ei fod yn gadael ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol, mae’n parhau â’i rôl fel Is-lywydd Ffederasiwn Chwaraeon y Gymanwlad (CGF).

Mae CGW yn edrych ymlaen at gyhoeddi penodiad y Prif Swyddog Gweithredol newydd yn fuan.