Queen’s Baton visits legendary locations on last leg of Welsh tour
Ar ddiwrnod olaf y Daith o amgylch Cymru ddydd Gwener (8fed o Fedi), bydd Baton y Frenhines yn ymweld â rhai o gewri’r Gogledd Orllewin – yn llefydd, pobl ac atyniadau.
Yn ystod Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru, mae’r Baton yn treulio 4 diwrnod yng Nghymru fel rhan o daith 388 milltir o amgylch holl genhedloedd y Gymanwlad. Bydd diwrnod olaf y Daith yng Nghymru yn cychwyn yng nghastell hynafol Dolwyddelan. Bydd wedyn yn mynd i un o atyniadau zipio mwyaf y byd ym Mlaenau Ffestiniog lle bydd y Baton yn teithio 8,800 medr i lawr llinellau zip Titan.
Nesaf, ymwelir â’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn a gafodd ei agor yn swyddogol yr wythnos hon yn dilyn ei adnewyddu. Bydd y Baton yn cael ei drosglwyddo i nai Hedd Wyn, Gerald Williams, a fydd yn mynd ag ef i’r ty fferm a’i osod ar ‘Gadair Ddu’ Eisteddfod Birkenhead 1917.
Yn dilyn gorymdaith liwgar yn Nolgellau, bydd y Baton yn teithio i Bortmeirion. Yno, bydd canwr The Alarm a’r codwr arian, Mike Peters, yn arwain gorymdaith garnifal gyda’i wraig Jules yn ystod Gwyl Rhif 6. Bydd y Baton wedyn yn cael ei gludo ar drên o Finffordd i Boston Lodge, cyn i redwyr lleol ei gario wrth ochr Rheilffordd Ucheldir Cymru i orsaf Porthmadog yn barod ar gyfer derbyniad a dathliad arbennig yn y dref.
Yna, ymlaen i Orsaf Bâd Achub Criccieth lle bydd y Baton yn cwrdd â disgynyddion cyn Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, a fagwyd yn Llanystumdwy. Bydd y Baton yn cael ei drosglwyddo i’r hwyliwr Steve Thomas a fydd yn ei gario ar y môr a’i basio i’w gyd-longwr Dan Whiteley a fydd yn hwylio gyda’r Baton i Blas Heli ym Mhwllheli. Dyma lle bydd Taith Baton y Frenhines yn dirwyn i ben yng Nghymru cyn ymadael am Guernsey.
Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Yn ystod diwrnod olaf Taith y Baton yma yng Nghymru, byddwn yn dathlu rhai o gewri a chwedlau mwya’r genedl – o chwaraeon ac antur, i ddiwylliant, iaith, hanes ac amgylchedd naturiol Cymru.
“Mae’r gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnal ledled Cymru yr wythnos hon yn adlewyrchiad gwirioneddol o amcanion sylfaenol Taith Baton y Frenhines – dod â chymunedau at ei gilydd gyda balchder i ddathlu amrywiaeth y Gymanwlad, a chreu cyffro cyn Gemau’r Arfordir Aur y flwyddyn nesaf. Diolch i bawb yn y Canolbarth, ac mewn rhannau eraill o Gymru, sydd wedi helpu i wneud Taith Gymreig y Baton yn ddigwyddiad mor gofiadwy.”
Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines ym Mhalas Buckingham ar y 13eg o Fawrth eleni, ac mae’n teithio trwy Gymru rhwng 5-8 o Fedi.
Bydd y Baton wedyn yn ymweld ag Asia ac Ynysoedd y De cyn teithio trwy Awstralia a chyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar y 4ydd o Ebrill.