Full day of festivities as Queen’s Baton reaches Powys

Mae diwrnod llawn dathliadau wedi ei drefnu ar gyfer cyrhaeddiad Baton Gemau’r Gymanwlad ym Mhowys ar drydydd diwrnod ei daith o amgylch Cymru. 

Bydd y diwrnod yn cychwyn yng Ngholeg Crist Aberhonddu lle bydd y Baton yn mynychu’r gwasanaeth boreol yng nghwmni Kirsty Williams AC ac yna’n cymryd rhan mewn taith gyfnewid gydag ysgolion cynradd lleol. 

Bydd Taith y Baton wedyn teithio tua’r gogledd i Raeadr Gwy lle gall pobl leol ddod i fwynhau gorymdaith garnifal arbennig gyda grwpiau cymunedol, 300 o blant ysgol, gwisgoedd ffansi, perfformiadau syrcas, cerflun o ddraig a defaid anferthol. 

Trefnwyd yr orymdaith yn Rhaeadr Gwy gan Peter Cox MBE, cyn ysgrifennwr Brookside ar Channel 4 ac un o sylfaenwyr y grwp celfyddydol lleol, CARAD. Meddai Peter: “Er mai tref fach ydyw, byddwn yn rhoi croeso enfawr i Faton y Frenhines. Mae’r digwyddiad wedi cael cefnogaeth gan ddwsinau o wirfoddolwyr a nifer o sefydliadau yn cynnwys CARAD, Cyngor Tref Rhaeadr Gwy, clybiau chwaraeon, Grŵp Busnes, Sefydliad y Merched a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Ar ôl ymadael â Rhaeadr Gwy, bydd y Baton yn ymweld ag ysgol uwchradd a chynradd Llanidloes cyn stopio yn Stâd Plasdinam i gwrdd â disgynyddion David Davies, y diwydiannwr enwog o Gymru. Bydd wedyn yn teithio i Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd lle bydd y disgyblion yn gorymdeithio gyda’u batonau eu hunain. Meddai’r Pennaeth Mrs Siân Davies: “Mae ymweliad Taith Baton y Frenhines â’r ysgol yn benllanw i fisoedd lawer o baratoi ac edrych ymlaen. Yn ystod tymor yr haf, bu’r plant yn dysgu am y Gymanwlad mewn llawer o bynciau – o’r campau a fydd yn y Gemau i arian, bwyd a hanes cenhedloedd y Gymanwlad. Allwn ni ddim disgwyl i roi croeso Cymreig a Chymraeg i’r Baton.”

Bydd y gweithgareddau yng Nghanolbarth Cymru yn dirwyn i ben yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng pan fydd dros 400 o blant lleol yn cymryd rhan mewn Her Marathon y Byd. Bydd ras gyfnewid yn cael ei chynnal lle bydd timau yn ceisio rhedeg mor bell â phosibl yn amser y rhedwr pellter lleol, Andy Davies. 

Mae Andy yn un o gludwyr y Baton ym Mhowys, ynghyd a nifer o unigolion eraill yn cynnwys y chwaraewyr bowlio rhyngwladol Caroline Taylor, Kathy Pierce a Hazel Wilson; yr hyfforddwr ffitrwydd a chodwr arian Jan Powell; a Tyler Fereday, disgybl 7 oed o Ysgol Dafydd Llwyd sydd wedi llwyddo i ennill brwydr dair blynedd gyda leukaemia. 

Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Mae’r gweithgareddau yng Nghanolbarth Cymru yn adlewyrchiad gwirioneddol o amcanion sylfaenol Taith Baton y Frenhines – dod â chymunedau at ei gilydd gyda balchder i ddathlu amrywiaeth y Gymanwlad, a chreu cyffro cyn Gemau’r Arfordir Aur y flwyddyn nesaf. Diolch i bawb yn y Canolbarth, ac mewn rhannau eraill o Gymru, sydd wedi helpu i wneud Taith Gymreig y Baton yn ddigwyddiad mor gofiadwy. 

Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines ym Mhalas Buckingham ar y 13eg o Fawrth eleni, ac mae’n teithio trwy Gymru rhwng 5-8 o Fedi. Yn dilyn Y Trallwng, bydd y Baton yn treulio rhan olaf y trydydd ddiwrnod yn Yr Wyddgrug cyn ei ddiwrnod olaf yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bydd y Baton wedyn yn ymweld ag Asia ac Ynysoedd y De cyn teithio trwy Awstralia a chyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar y 4ydd o Ebrill.