National Hockey teams to represent Team Wales at 2018 Commonwealth Games

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi’n swyddogol y bydd sgwadiau hoci merched a dynion Cymru yn teithio gyda Thîm Cymru i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur y flwyddyn nesaf. 

Sicrhaodd timau’r dynion a’r merched le yng Ngemau 2018 ar ôl cael eu rancio yn y deg uchaf o blith cenehedloedd y Gymanwlad. 

Arhosodd tîm merched Cymru yn y 26ain lle yn rhestr rancio’r byd yr FIH ddechrau Tachwedd, gan ddod yn 9fed ymhlith cenhedloedd y Gymanwlad. 

Dringodd tîm y dynion wyth lle, y cynnydd mwyaf o’r holl wledydd, i’r 24ain lle yn y byd a’r 9fed lle yn y Gymanwlad.

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’n newyddion gwych fod y ddau dîm hoci cenedlaethol wedi cymhwyso, ac rydyn ni’n hynod falch o gael y merched a’r dynion yn cynrychioli Tîm Cymru yn y Gemau. 

“Hoffwn longyfarch y timau ar gael eu rancio yn y 10 uchaf o blith gwledydd y Gymanwlad. Mae hyn yn adlewyrchiad o ymroddiad yr holl chwaraewyr, hyfforddwyr a staff sy’n ymwneud â Hoci Cymru. Dymuniadau gorau iddyn nhw i gyd wrth barhau i baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018.” 

Dywedodd David Phenis, Prif Weithredwr Hoci Cymru: “Mae’n ardderchog fod sgwad y merched a’r dynion wedi cymhwyso ar gyfer Gemau’r Arfordir Aur y flwyddyn nesaf. Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous i’r gêm yng Nghymru ac mae hyn yn adlewyrchiad o’r cynnydd a wnaed gan y ddau dîm. Bydd yn fraint eu gweld yn cystadlu ar lwyfan Gemau’r Gymanwlad fis Ebrill. Hoffwn ddiolch yn fawr i Chwaraeon Cymru a Thîm Cymru am eu cefnogaeth amhrisiadwy.”