Queen’s Baton Relay comes full circle on second day in Wales

Ar ail ddiwrnod Taith Baton y Frenhines yng Nghymru (dydd Mercher 6ed o Fedi) bydd Baton Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018 yn dod wyneb yn wyneb â’r Baton cyntaf un o Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958. Mae’r Baton hyd heddiw yn symbol o heddwch a harmoni trwy gyfrwng chwaraeon.

Cyrhaeddodd y Baton yng Nghymru ddydd Mawrth, a chafodd ei gario o Abertawe i Gaerdydd heibio Pen-y-Bont ar Ogwr a’r Barri. Fore Mercher bydd yn teithio o Barc y Coroni, Casnewydd dros yr Afon Wysg ar gondola, heibio Pont Gludo Casnewydd i Ysgol Gynradd Pillgwenlly. Bydd cyfle wedyn i’r cyhoedd weld y Baton yn Sgwâr John Frost, cyn digwyddiad Gemau’r Gymanwlad lleol yng Nghanolfan Hamdden Casnewydd. Bydd y Baton wedyn yn teithio i Ysgol Trefynwy, lle bydd Baton 1958 yn cael ei arddangos. 

Mae’r Baton gwreiddiol yn eiddo i Mrs Hackett-Payme, merch Syr Godfrey Llewellyn, Cadeirydd pwyllgor trefnu Gemau 1958. Mae gan Mrs. Hackett-Payne gopïau o neges y Frenhines a oedd y tu mewn iddo a medalau o’r Gemau. Bydd Mrs. Hackett-Payne yn mynychu’r digwyddiad yn yr ysgol, a meddai: “Mae’n hyfryd fod Baton y Frenhines ar gyfr Gemau 2018 yn dychwelyd i Gymru lle cychwynnodd bron i 60 mlynedd yn ôl. Mae hon yn foment arbennig iawn i fy nheulu, ac i Gymru.”

Bydd y Baton yna’n mynd ymlaen i’r Royal Mint Experience yn Llantrisant lle bydd Frankie Jones, pencampwr gymnasteg o Gymru a enwyd yn ‘athletwr eithriadol’ Gemau 2014, yn rhedeg heibio miloedd o ddarnau arian yn cael eu taro gan gymryd hoe i daro £1 2017 newydd, cyn i’r ail ddiwrnod ddod i ben ym Mharc Coffa Ynysangharad gyda gala nofio yn y Lido.

Mae pencampwyr o fyd chwaraeon, cewri cymunedol a rhai o sêr Cymru ymhlith y 130+ o unigolion arbennig a fydd yn cludo Baton y Frenhines yn ystod ei gyfnod yng Nghymru. Yn ogystal â Frankie Jones, bydd cludwyr y Baton ar yr ail ddiwrnod yn cynnwys seren Doctor who Gareth David Lloyd, y seiclwr Lewis Oliva, Dylan Hughes sy’n aelod o Nofwyr Syndrom Down Prydain, a’r seren opera a’r darlledwr Wynne Evans.  

Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Mae cyrhaeddiad Baton y Frenhines yng Nghymru yn dod â chyffro Gemau’r Gymanwlad 2018 i’n cymunedau, gan roi cyfle i bobl ledled Cymru fod yn rhan o’r daith a dechrau edrych ymlaen at weld Tîm Cymru yn cystadlu’r flwyddyn nesaf.”

Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines ym Mhalas Buckingham ar y 13eg o Fawrth eleni, a bydd yn teithio trwy Gymru rhwng 5-8 o Fedi.

Bydd y Baton wedyn yn ymweld ag Asia ac Ynysoedd y De cyn teithio trwy Awstralia a chyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar y 4ydd o Ebrill.