First Minister Greets Queen’s Baton Relay arrival in Wales

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu Baton Gemau’r Gymanwlad i Gymru ddydd Mawrth Medi’r 5ed, sef diwrnod cyntaf Taith y Baton ar dir Cymreig,

Mae Taith Baton y Frenhines yn rhagarweiniad i Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018, a bydd yn dod i Gymru ar gwch gan gyrraedd y Mwmbwls, Abertawe am 7.30 fore Mawrth. Bydd wedyn yn cael ei gario gan nifer o gludwyr y Baton heibio Amgueddfa Genedlaethol y Baton i Ben-y-Bont ar Ogwr lle bydd y Prif Weinidog yn ei groesawu yn swyddfeydd CGI, un o gyflogwyr TGCh yng Nghymru ac un o bartneriaid Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018.

Meddai’r Prif Weinidog: “Rwy’n hynod falch o groesawu Taith Baton y Frenhines i Gymru ar ei daith o amgylch mwy na thraean poblogaeth y byd. Cafodd Baton y Frenhines ei eni yma yng Nghymru, adeg Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958, ac mae’n parhau i fod yn symbol o heddwch a harmoni trwy chwaraeon. Bydd nifer o gewri Cymru yn cario’r Baton yr wythnos hon wrth iddo symund yn nes at seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia fis Ebrill nesaf, lle byddwn yn dymuno pob llwyddiant i Dîm Cymru.”

Bydd y Baton yn mynd o Ben-y-Bont ar Ogwr i Ynys y Barri ac yna’n cael ei gludo i Fae Caerdydd. Yno, fe ddaw’r diwrnod cyntaf i ben gyda noson o ddathliadau yng Nghanolfan Gymunedol Butetown. Mae pencampwyr o fyd chwaraeon, cewri cymunedol a rhai o sêr Cymru ymhlith y 130+ o unigolion arbennig a fydd yn cludo Baton y Frenhines yn ystod ei gyfnod yng Nghymru. Bydd cludwyr y baton ar y diwrnod cyntaf yn cynnwys y chwaraewr rygbi Ryan Jones, y chwaraewr pêl-droed Leon Britton, Suzanne Jackson sy’n un o actorion Casualty, y taflwr pwysau Paralympaidd Julie Hamzah a Hannah Mills MBE a enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd. 

Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Mae cyrhaeddiad Baton y Frenhines yng Nghymru yn dod â chyffro Gemau’r Gymanwlad 2018 i’n cymunedau, gan roi cyfle i bobl ledled Cymru fod yn rhan o’r daith a dechrau edrych ymlaen at weld Tîm Cymru yn cystadlu’r flwyddyn nesaf.”

Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines ym Mhalas Buckingham ar y 13eg o Fawrth eleni, a bydd yn teithio trwy Gymru rhwng 5-8 o Fedi.

Bydd y Baton wedyn yn ymweld ag Asia ac Ynysoedd y De cyn teithio trwy Awstralia a chyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar y 4ydd o Ebrill.