One year to go to Gold Coast Commonwealth Games
Union flwyddyn i heddiw (dydd Mawrth 4ydd Ebrill), bydd tua 300 o athletwyr ynghyd â’u hyfforddwyr, rheolwyr a staff Tîm Cymru yn mynychu seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 – cychwyn 11 diwrnod o gystadlu ar yr Arfordir Aur, Awstralia. Yn y cyfamser, mae athletwyr a thimau elitaidd Cymru wrthi’n brysur yn ceisio sicrhau y cânt eu dewis i gynrychioli eu gwlad yn y Gemau.
Enillodd Tîm Cymru 36 o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2014 – y nifer fwyaf erioed i Gymru. Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn i sicrhau’r cyfle gorau bosibl i bob athletwr berfformio hyd eithaf ei allu ac i Dîm Cymru wneud yn well nag erioed mewn Gemau dramor.
Meddai’r Athro Nikki Phillips, Chef de Mission Cymru ar gyfer Gemau 2018: “Mae yna lawer o waith yn digwydd yn barod i baratoi Tîm Cymru ar gyfer cystadlu yn y Gemau. Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr bod sylfaen gref mewn lle fel bod gan ein hathletwyr y cyfle gorau bosibl o ennill.
“Rydyn ni wedi penodi ein holl staff ac wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r cyrff llywodraethu cenedlaethol ar y paratoadau. Rydyn ni hefyd wrthi’n gwneud trefniadau ar gyfer teithio a llety yn Awstralia. Er na fydd y Tîm yn cael ei ddewis tan yn ddiweddarach eleni, rydyn ni’n barod wedi dechrau mesur athletwyr ar gyfer y cit.
“Ochr yn ochr â pharatoi ar gyfer Gemau 2018, rydyn ni’n edrych ymlaen at anfon sgwad o athletwyr ifanc i gystadlu yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas ym mis Gorffennaf. Bydd hyn yn gyfle arbennig i’n hathletwyr ifanc talentog gael profiad o gystadlu dros Gymru a’u paratoi ar gyfer prif Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol.
“Mae gennym ni hefyd Daith Baton y Frenhines i baratoi ar ei chyfer ac mae’r holl ddigwyddiadau bron wedi eu cadarnhau ar gyfer ymweliad y baton â chymunedau ledled Cymru rhwng 5 a 8 Medi eleni.
“Felly, rhwng popeth, mae hi’n flwyddyn brysur iawn i ni yn Nhîm Cymru!”
Ychwanegodd Nikki, sydd ar hyn o bryd allan yn Awstralia yn cwrdd â Thîm Trefnu’r Arfordir Aur: “Mae’n hynod gyffrous gweld y trefniadau’n dod at ei gilydd yma, ac mae’r holl ganolfannau cystadlu a’r pentref athletwyr yn edrych yn ffantastig.
“Ddydd Sul, fe gawson ni ddigwyddiad arbennig i ddathlu mai dim ond blwyddyn i fynd yng Nghlwb Syrffio Kurrawa, a fydd yn hwb ar gyfer Canolfan Cymru yn ystod y Gemau. Roedd yn bleser cael cwrdd â Chymry lleol yn Awstralia a rhannu syniadau am sut y gallan nhw gefnogi Tîm Cymru.”
Un o’r Cymry sy’n byw ar yr Arfordir Aur yw Richard Vaughan Jones, sy’n wreiddiol o’r Wyddgrug, ac sy’n rhedeg y grwp Facebook Cymru Gold Coast Wales.
Meddai Richard: “Mae yna lawer o gyffro am y Gemau yma a llawer o gefnogaeth i Dîm Cymru yn barod yn dilyn eu hymweliad i’r Arfordir Aur fis Tachwedd y llynedd. Roedd hi’n hyfryd cwrdd â Nikki’r wythnos hon ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud beth bynnag allwn ni i sicrhau bod cefnogwyr Cymru yn dod allan yn eu cannoedd.
“Mae Clwg Syrffio Kurrawa yn lleoliad gwych ar gyfer Canolfan Cymru – alla i ddim disgwyl i weld fy nghyd-Gymry o bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd i gefnogi ein Tîm.”
Bydd diweddariadau yn cael eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan Tîm Cymru dros y misoedd nesaf.