Team Wales announces Welsh route of Gold Coast 2018 Commonwealth Games Queen’s Baton Relay
Heddiw, yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad, mae’r Frenhines yn lansio Taith Baton y Frenhines 2018 yn swyddogol mewn seremoni agoriadol llawn enwogion ym Mhalas Buckingham.
Yma yng Nghymru, mae Tîm Cymru wedi datgan y bydd Baton y Frenhines yn ymweld â nifer o gymunedau yng Nghymru ym Medi 2017 yn ystod ei daith 388-niwrnod drwy’r Gymanwlad. Bydd y Baton yn teithio 230,000 kilomedr drwy holl wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad ar ei daith tuag at Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia ar 4 Ebrill 2018.
Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi’r llwybr yma heddiw. Mae Tîm Cymru yn dwyn ynghyd bawb sy’n cystadlu neu’n cefnogi’n hathletwyr i’w galluogi i berfformio hyd eithaf eu gallu yng Ngemau’r Gymanwlad. Bydd y Daith gynhwysol hon yn rhoi cyfle i bawb na all ddod allan i’r Arfordir Aur gael bod yn rhan o brofiad bythgofiadwy.
“Wrth i’r Baton deithio drwy Gymru, ein nod yw dathlu cyfoeth ac amrywiaeth ein diwylliant, treftadaeth, iaith a thirwedd ar lwyfan rhyngwladol. Bydd y Baton yn gadael Abertawe ar ddiwrnod cyntaf ei daith, cyn teithio i swyddfeydd ein noddwyr CGI ym Mhenybont, ymlaen i Ynys y Barri ac yna Butetown, Caerdydd.
“Aiff Diwrnod 2 â ni o Gasnewydd i Ysgol Trefynwy, y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ac yna Pontypridd. Awn tua’r gogledd ar y trydydd diwrnod, o Aberhonddu i Raeadr Gwy, stopio yn ysgolion uwchradd a chynradd Llanidloes ac Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd, cyn teithio drwy’r Trallwng ac ymlaen i Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.
“Yn olaf, anelwn tua’r gorllewin gan ddathlu mwy o’r harddwch, diwylliant ac antur sydd gennym i’w gynnig yma yng Nghymru: o Zip World ym Mlaenau Ffestiniog awn i’r Ysgwrn, cartref plentyndod Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, cyn teithio drwy Ddolgellau, Portmeirion a Phorthmadog ac i gyrchfan derfynol y Baton yng Nghymru ym Mhwllheli.”
Bydd Taith Baton y Frenhines hefyd yn mynd heibio i Landinam, Castell Dolwyddelan, Beddgelert a Chricieth er mwyn tynnu lluniau, ond ni fydd digwyddiadau cyhoeddus ynghlwm â’r lleoliadau hyn.
Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad yn Nghaerdydd yn 1958 oedd y cyntaf i gynnal Taith Baton y Frenhines, a chafwyd cyfres o redwyr yn cario’r Baton drwy nifer o siroedd Lloegr a thair ar ddeg sir Cymru ar ei daith i Gaerdydd. Gemau’r Gymanwlad Melbourne 2006 oedd y rhai cyntaf lle gwelwyd y Baton yn ymweld â phob cenedl a thiriogaeth yn y Gymanwlad ac mae’r traddodiad hwn wedi parhau ymhob Gemau ers hynny. Nod Taith Baton y Frenhines yw rhoi cynrychiolaeth weledol o undod ac amrywiaeth holl genhedloedd y Gymanwlad. Mae’r Baton yn cario neges gan y Frenhines i athletwyr y Gemau, a chaiff hon ei darllen yn y Seremoni Agoriadol.
Meddai’r Athro Nicola Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018: “Dydi hi ddim yn bosibl i bawb allu mynd draw i’r Arfordir Aur i gefnogi Cymru, felly drwy ddod â Baton y Frenhines i gymunedau Cymru ein gobaith ydi ysbrydoli a sbarduno Cymry ledled y wlad i deimlo balchder yn ein hathletwyr. Cafodd Cymru lwyddiant ysgubol yng Ngemau Glasgow 2014 a’r nifer uchaf erioed o fedalau ac rydym yn hyderus y gallwn ailadrodd y llwyddiant hwn yn 2018.
“Gofynnwn i Gymru gyfan gefnogi’n hathletwyr nawr, wrth iddynt barhau ar eu taith tuag at yr Arfordir Aur ac yn ystod y Gemau eu hunain, a gobeithiwn y bydd Taith Baton y Frenhines drwy Gymru yn cyffroi ac ysbrydoli’r genedl gyfan i gefnogi’n hathletwyr cyn Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia 2018.”
Diwrnod 1 (5 Medi)
Abertawe – Swyddfeydd CGI, Penybont – Ynys y Barri – Caerdydd – Butetown
Diwrnod 2 (6 Medi)
Casnewydd – Ysgol Trefynwy – Y Bathdy Brenhinol, Llantrisant – Pontypridd
Diwrnod 3 (7 Medi)
Aberhonddu – Rhaeadr Gwy – Ysgolion Uwchradd a Chynradd Llanidloes – Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd – Y Trallwng – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Diwrnod 4 (8 Medi)
Zip World, Blaenau Ffestiniog – Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – Dolgellau – Portmeirion – Porthmadog – Pwllheli