39 athletes selected to compete for Team Wales at 2017 Bahamas Commonwealth Youth Games

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd 39 o athletwyr ifanc yn cynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas eleni.

Cafwyd enwebiadau gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol sy’n gyfrifol am bob un o’r chwe champ y bydd Cymru yn cystadlu ynddynt yn y Gemau a gynhelir rhwng 18-23 Gorffennaf – sef athletau, bocsio, jiwdo, nofio, tenis a rygbi merched 7 bob ochr.

Heddiw, gwnaeth Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru gyhoeddiad swyddgol gan gadarnhau’r tîm o athletwyr sydd wedi cael eu dethol, yn ddibynnol ar broses apeliadau.

Bydd sgwad o 12 yn teithio i’r Bahamas i chwarae dros Gymru yn y twrnament rygbi 7 bob ochr, a bydd enwau’r chwaraewyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Byddant yn mynychu’r Gemau gyda’r unigolion canlynol a fydd yn cystadlu yn y campau eraill:

ATHLETAU:

Bethany Moule (16, Castell Nedd Port Talbot)

James Tomlinson (17, Sir Benfro)

Lauren Evans (16, Caerdydd)

Naomi Reid (16, Rhondda Cynon Taf)

Oliver Barbaresi (17, Gwynedd)

Sarah Omoregie (17, Caerdydd)

BOCSIO:

Jacob Lovell (17, Caerdydd)

James Probert (16, Sir Benfro)

Jay Munn (18, Caerdydd)

John Wilson (17, Conwy)

Rhys Edwards (17, Caerdydd)

Sammy Lee (18, Caerdydd)

JIWDO:

Callum Bennett (14, Sir Gaerfyrddin)

Ffion Robinson (14, Sir Gaerfyrddin)

Sam Ashton (17, Rhondda Cynon Taf)

NOFIO:

Connor Bryan (16, Swydd Rhydychen)

Elena Morgan (14, Sir y Fflint)

Hannah Sloan (16, Bro Morgannwg)

Iestyn Cole (17, Sir Gaerfyrddin)

Ioan Evans (15, Pen-y-bont ar Ogwr)

Joseph Small (16, Swydd Amwythig)

Lewis Fraser (16, Abertawe)

Medi Harris (14, Gwynedd)

Megan Allison (15, Sir Fynwy)

Rebecca Sutton (16, Pen-y-bont ar Ogwr)

TENIS:

James Story (16, Caerdydd)

Morgan Cross (15, Sir y Fflint)

Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Rydyn ni’n hynod falch o gyhoeddi Tîm Cymru ar gyfer chweched Gemau Ieuenctid y Gymanwlad a gynhelir eleni yn y Bahamas. Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o athletwyr ifanc talentog yn dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae’r safon yn brawf o’u hymroddiad fel unigolion a hefyd y gefnogaeth wych a gânt gan eu hyfforddwyr, teuluoedd a’r cyrff llywodraethu. 

“Mae’r Gemau Ieuenctid yn blatfform ardderchog i’r bobl ifanc ar eu taith i lwyddiant fel athletwyr hyn. Cynrychioli Cymru yn y Gemau Ieuenctid oedd y cam cyntaf yng ngyrfa nifer o sêr y byd chwaraeon yng Nghymu sydd wedi mynd ymlaen i ennill medalau ym mhrif Gemau’r Gymanwlad ac sydd yn awr yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 – megis Jazz Carlin ac Elinor Barker, er enghraifft. 

“Gwnaeth Tîm Cymru yn arbennig o dda yn y Gemau Ieuenctid yn Samoa yn 2015, gan ennill 9 medal i Gymru. Mae gennyf bob ffydd y bydd yr athletwyr ifanc yn perfformio hyd orau eu gallu unwaith eto yr haf hwn.”

Meddai Gerwyn Owen, y Chef de Mission a fydd yn arwain Tîm Cymru i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ym mis Gorffennaf: “Hoffwn longyfarch yr holl athletwyr sydd wedi cael eu dewis. Dyma fydd y tro cyntaf i’r rhan fwyaf ohonyn nhw gynrychioli Cymru mewn digwyddiad aml-chwaraeon, ac mi fydd hynny’n sicr o fod yn destun balchder mawr iddyn nhw.

“Mae hwn yn gyfle iddyn nhw gynrychioli a dangos y genedl ar ei gorau – ar, ac oddi ar, y cae – ac i ddathlu ein diwylliant unigryw trwy chwaraeon.”

Ychwanegodd: “Mae’n arbennig o gyffrous fod y garfan rygbi merched 7 bob ochr wedi cael ei dethol i gynrychioli Cymru yn y Gemau Ieuenctid eleni. O ystyried datblygiad aruthrol y gamp yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n argoeli’n addawol y bydd y tîm yn gwneud yn dda iawn yn y Bahamas.”

Yn ymuno â thîm Gerwyn o swyddogion bydd Rhys Shorney fel Prif Ffisiotherapydd, Kate Guy fel Prif Swyddog Meddygol a Cathy Williams fel Rheolwr Tîm Cyffredinol.