New appointments to Team Wales ahead of Gold Coast

Gyda dim ond ychydig dros flwyddyn i fynd tan Gemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia, mae Tîm Cymru wedi gwneud nifer o apwyntiadau i ymuno â’r staff a fydd yn cefnogi ein hathletwyr.

Yn ymuno ag Ashleigh Crowter, y Rheolwr Tîm Cyffredinol sy’n arwain ar y Cyfryngau, mae Elliw Williams (ymgynghorydd PR Gemau’r Gymanwlad Cymru) a fydd yn gyfrifol am baratoi cynnwys ac ymgysylltu â’r cyfryngau, Jess Magness a fydd yn gyfrifol am gysylltiadau athletwyr/cyfryngau Tîm Cymru a Murry Toms a fydd yn gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol. 

Mae Cath Shearer wedi ei phenodi i ddarparu cefnogaeth ar gyfer gweithrediadau a pherfformiad a bydd hi’n arwain ar gydlynu cefnogaeth i’r tîm gartref. 

Bydd Dr Katherine Guy a Dr Nicholas Roach yn ymuno â’r Tîm Meddygol dan arweiniad y Prif Swyddog Meddygol Dr Gareth Jones. 

Mae wyth ffisiotherapydd wedi eu penodi i’r tîm a fydd yn cael ei arwain gan y Prif Ffisiotherapydd Sian Knott: Dan Jones, Dan Grimstead, Hannah Williams, Emma Fox, Liba Sheeran, Adam Rattenbury, Rhys Shorney, a Nikki Mcloughlin.