Team Wales para-sport selections announced for cycling, bowls and table tennis

Heddiw, cyhoeddodd Gemau’r Gymanwlad Cymru enwau saith o athletwyr sydd wedi cael eu dewis i gystadlu dros Gymru mewn tri o’r para-chwaraeon a fydd ar y rhaglen yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur, Awstralia y flwyddyn nesaf. 

Bydd yr athletwyr diweddaraf sydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Tîm Cymru yn cystadlu mewn para-feicio, para-fowlio a phara-tenis bwrdd. Cyhoeddwyd y sgwad para-athletau yn gynharach yr wythnos hon.

Bydd James Ball, a enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Los Angeles eleni ac sydd wedi ei rancio’n ail yn y byd, yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth beicio i bobl ddall neu sydd gyda nam ar eu golwg.

Bydd Julie Thomas a Gilbert Miles yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth bowlio lawnt i barau cymysg gyda nam ar eu golwg (B2/B3), gyda’u cyfarwyddwyr John Wilson a Byron John. Bydd Pauline Wilson, Raymond Lillycrop a Jonathan Hubbard yn cystadlu yn y categori triawd agored (B6/B7/B8).

Wedi ei rancio’n 16eg trwy’r byd ers y 1af o Dachwedd, mae Joshua Stacey wedi cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth para-tenis bwrdd TT6-10. Ar ôl i sgan MRI yn gynharach eleni gadarnhau fod gan Josh barlys yr ymennydd ers pan gafodd ei eni, cafodd ei symud i’r garfan anabl (dosbarth 9). Ymddangosodd i Dîm Prydain am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth Agored Para Gwlad Belg, lle’r enillodd fedal efydd unigol a medal aur tîm gan sicrhau ei le ar gyfer yr Arfordir Aur. 

Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol sy’n cynnwys rhaglen para-chwaraeon integredig. Mae rhaglen para-chwaraeon 2018 y fwyaf yn hanes y Gemau – gyda hyd at 300 o bara-athletwyr a 38 o fedalau mewn saith o gampau. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 45% yn nifer yr athletwyr a 73% yn fwy o fedalau o gymharu â’r gystadleuaeth para-chwaraeon yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014. 

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Llongyfarchiadau i’r para-athletwyr sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur. Maen nhw wedi serennu ar y llwyfan rhyngwladol yn barod, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn perfformio dros Gymru y flwyddyn nesaf. Mae’r fraint o gael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn brawf o’u hymroddiad fel unigolion a hefyd y gefnogaeth wych a gânt gan eu hyfforddwyr, teuluoedd, Chwaraeon Anabledd Cymru a’u cyrff llywodraethu.”

Meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid: “Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn hynod falch fod y para-athletwyr hyn wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru. Bydd mwy o bara-chwaraeon nag erioed o’r blaen yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur, ac mae’n wych gweld fod tîm mor gryf o bara-athletwyr wedi cael ei ddewis. Mae’r tîm yn cynnwys cyfuniad o bencampwyr y byd, sêr Paralympaidd, ac athletwyr newydd sy’n adlewyrchu cymaint o waith datblygu para-athletwyr sydd yn digwydd yma yng Nghymru.”

Meddai Matt Cosgrove, Cyfarwyddwr Perfformiad gyda Beicio Cymru: “Mae’n fraint medru cyhoeddi aelod cyntaf y tîm beicio ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018. Er ei fod yn gymharol newydd yn y byd beicio, James yw pencampwr y byd mewn dwy o’r campau para-feicio sydd ar rhaglen yr Arfordir Aur felly bydd yn wynebu’r her gyda hyder.” 

Meddai Hazel Wilson, Rheolwr Tîm ar gyfer Bowlio Lawnt yng Nghymru: “Rwy’n falch iawn fod y para-fowlwyr wedi cael eu dewis i gymryd rhan gyda Thîm Cymru y flwyddyn nesaf. Mae hwn yn gyfle ffantastig ac rwy’n siwr y bydd Cymru gyfan yn cefnogi’r tîm. Mae gennym sgwad cryf iawn, ac rydyn ni’n hyderus fod gan Gymru gyfle da i ennill medal yn dilyn llwyddiant y timau mewn cystadleuaeth brawf ar lawntydd Gemau’r Gymanwlad yn gynharach eleni.” 

Meddai Ryan Jenkins, Prif Hyfforddwr Tenis Bwrdd Cymru: “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i Josh. Mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi ar hyd y daith. Doedd Josh ddim mewn sefyllfa i gymhwyso ar gyfer yr Arfordir Aur, ond gyda’r cyfle i gystadlu mewn para-tenis bwrdd, fe fydd yno’n sicr.”

Para-athletwyr sydd wedi eu dewis hyd yma ar gyfer Tîm Cymru yn 2018: 

Athletau
Hollie Arnold, 23, Loughborough
Olivia Breen, 21, Liphook
Beverley Jones, 43, Sir y Fflint
Morgan Jones, 23, Winchester (Ganwyd) Caerdydd (Byw)
Rhys Jones, 23, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf
James Ledger, 24, Treforys, Abertawe

Bowls
Jonathan Hubbard, Dinbych-y-Pysgod
Raymond Lillycrop, Aberdaugleddau
Gilbert Miles, Pontarddulais 
Julie Thomas, Pen-y-bont ar Ogwr
Pauline Wilson, Llanfair-ym-Muallt

Seiclo
James Ball, 26, Casnewydd (Ganwyd), Manceinion (Byw)

Tenis Bwrdd
Joshua Stacey, 17, Llaneirwg, Caerdydd