Myfyriwr Met Caerdydd yn ymuno â Thîm Cymru
Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn falch o groesawu Steffan Alun Leonard fel yr Intern Cyfryngau newydd
Mae Steffan yn ymuno â’r sefydliad ar interniaeth 12 mis tra’n cwblhau ei MSc Ôl-raddedig mewn Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sef prif bartner Tîm Cymru. Ei rôl allweddol fel yr Intern Cyfryngau fydd creu a datblygu cynnwys ar draws pob llwyfan cyfryngau cymdeithasol.
Meddai Steffan, ‘Fy nod, drwy gynnwys amrywiol, yw rhoi cipolwg ar fywyd Tîm Cymru fel sefydliad a’r holl waith sy’n digwydd. Nid yn unig yr athletwyr a’r chwaraeon ond ar draws y prosiectau ieuenctid a’r holl waith gyda’r partneriaid hefyd. Alla i ddim aros i ddechrau arni a helpu i hyrwyddo Tîm Cymru ymhellach.’
Heddiw bydd Steffan yn hedfan i Fotswana fel rhan o raglen interniaeth eqUIP Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad. Bydd yn gweithio ochr yn ochr ag interniaid eraill o bob rhan o’r Gymanwlad, gan fynychu gweithdai, ymarferion adeiladu tîm a datblygu cynllun gwaith cynhyrchiol ar gyfer y flwyddyn.
Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Gemau’r Gymanwlad Cymru, a goruchwyliwr Steffan: “Mae’n wych croesawu Steffan fel rhan o’r tîm. Mae’r profiad y mae interniaid yn ei gael pan fyddan nhw’n dod atom yn werthfawr iawn ac rydyn ni’n ymfalchïo mewn rhoi cyfle i interniaid fel Steffan ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Rydym yn cynnig profiad ymarferol o weithio ar draws sawl maes o baratoi ar gyfer Gemau, ein Rhaglen Ymgysylltu â Phobl Ifanc lle rydyn ni’n ymweld ag ysgolion a chlybiau ledled y wlad, gweithio gyda’n partneriaid newydd, a chefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu digwyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn. Mae’n mynd i fod yn flwyddyn brysur ond cynhyrchiol iddo’
Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru ‘Heb os, bydd Steffan yn gaffaeliad gwerthfawr i’r sefydliad, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn ystod ei interniaeth. Ar hyn o bryd mae gennym 5 aelod o staff gyda dau yn gyn-interniaid eu hunain, sy’n dangos y buddsoddiad rydyn ni’n ei roi i bawb ffynnu yn yr amgylchedd gwaith. Mae ein partneriaeth â Met Caerdydd yn sicr wedi creu cyfleoedd cyffrous i gydweithio ymhellach dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Edrychwn ymlaen at glywed am wythnos Steffan ym Motswana ac yna ei weld rhoi ei sgiliau ar waith i ni yma yn Nhîm Cymru.’
Dywedodd Joe Towns, Cyfarwyddwr Rhaglen, MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd, ‘Rydyn ni wrth ein bodd bod ein myfyriwr Met Caerdydd, Steffan Leonard wedi llwyddo i sicrhau interniaeth yn y cyfryngau gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru eleni. Mae’n awyddus iawn i ddechrau arni. Mae’n gyfle anhygoel ac yn arwydd clir o sut y gall ein partneriaeth â Thîm Cymru helpu i greu cyfleoedd dysgu yn y “byd go iawn” i fyfyrwyr presennol fel Steff, a phrofiad o weithio mewn sefydliad chwaraeon mawr. Fel rhan o’i radd ôl-raddedig mewn Darlledu Chwaraeon, bydd Steff yn dysgu sut i wneud podlediadau, creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu rhaglenni dogfen… felly rydyn ni’n gobeithio’n fawr y gall ddefnyddio’r sgiliau adrodd straeon digidol aml-gyfrwng hyn i helpu i gefnogi ac ehangu’r gwaith anhygoel a wneir gan Dîm Cymru / GGC, adrodd straeon athletwyr amrywiol a hyrwyddo pwysigrwydd chwaraeon yng Nghymru.
‘Yn 2018 roedd ein myfyrwraig Sioned Dafydd Rowlands yn ddigon ffodus i fynd i Awstralia gyda Thîm Cymru ar gyfer CG2018 fel rhan o dîm y cyfryngau …. Ac yn 2022, cafodd un arall o’n myfyrwyr, Jo Penrose, ei dewis fel intern cyfryngau Tîm Cymru ar gyfer Gemau Birmingham. Mae’r profiadau hyn yn fythgofiadwy ac yn lle perffaith i lansio eich gyrfa yn y cyfryngau chwaraeon.’