Croeso Gartref i Dîm Cymru Gemau Ieuenctid y Gymanwlad

Croeso Gartref i Dîm Cymru Gemau Ieuenctid y Gymanwlad

Ddydd Sadwrn, cynhaliodd Tîm Cymru ddigwyddiad croeso gartref o Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, y lleoliad swyddogol ar gyfer cyflwyno’r medalau wedi i Dîm Cymru gyrraedd adref.

Mwynhaodd yr athletwyr, y staff cymorth a theuluoedd y cystadleuwyr Athletau, Beicio, Nofio a Rygbi 7 bob ochr brynhawn yn yr haul i ddathlu Gemau Ieuenctid llwyddiannus a hanesyddol, pan lwyddodd Tîm Cymru i orffen yn 9fed yn y tabl medalau, gan ddod adref gyda 15 o fedalau.

Dechreuodd y digwyddiad croeso gartref gyda pherfformiad gwych gan gôr Mark Jermin. Fe’i dilynwyd gan sesiwn holi ac ateb gyda’r athletwyr a gynhaliwyd gan Bethan Davies, enillydd medal Efydd yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.

Gwahoddwyd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, i rannu ychydig eiriau o longyfarchiadau ac roedd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Brian Davies, llawer o bartneriaid a noddwyr hefyd yn bresennol i ymuno yn y dathlu.

Derbyniodd yr athletwyr fedalau coffa Tîm Cymru ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad gan y Bathdy Brenhinol am gymryd rhan yn y Gemau, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Weinidog Dawn Bowden a Rebecca Morgan, Cyfarwyddwr Is-adran y Bathdy Brenhinol.

Ar ôl cyflwyno’r medalau, perfformiodd Duke al Durham, Bardd Llafar, Awdur, Rapiwr ac Ymarferydd Creadigol, ddarn a grëwyd am yr athletwyr a’u llwyddiant yn Trinbago 2023.

Dywedodd Matt Cosgrove, Chef de Mission Trinbago 2023, “Roedd yn wych dathlu cyfranogiad Tîm Cymru yn Trinbago 2023 yn y Bathdy Brenhinol ddydd Sadwrn. Roedd coffáu’r Gemau Ieuenctid gyda medalau arbennig a gynhyrchwyd gan y Bathdy Brenhinol yn fwy arbennig fyth. Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn gyrfaoedd yr athletwyr ifanc hyn ac yn gobeithio gweld rhai ohonynt yn cynrychioli Cymru yn y tîm hŷn yng Ngemau’r Gymanwlad mewn blynyddoedd i ddod”.

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru, “Roedd dathlu a chydnabod y perfformiad arbennig iawn yn Trinbago gydag athletwyr, staff, teuluoedd, a phartneriaid/noddwyr yn wych. Roedd cefnlen Profiad y Bathdy Brenhinol yn yr heulwen hyfryd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy pleserus i’r rhai a fynychodd. Diolch i’r Bathdy Brenhinol am y medalau cyfranogiad anhygoel a gynhyrchwyd ganddynt i’r athletwyr ac i Duke al Durham am ei gerdd/rhigwm hyfryd. Bu Ysgol Berfformio Mark Jermin hefyd yn diddanu’r torfeydd ac roedd clywed gan ein hathletwyr am eu straeon o Trinbago yn arbennig iwn. Mae dyfodol ein hathletwyr a Thîm Cymru yn hynod o gyffrous ac

rwy’n edrych ymlaen at weld y bobl ifanc 14-18 oed hyn yn mynychu mwy o Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol”.